Diwrnod 'Ffentastig' Talwrn

A Reed warbler, a small song bird with pale underside and dark brown head and wings, sits in a reedbed and sings.

Reed warbler in fens © David Tipling 2020 Vision

Diwrnod 'Ffentastig' Talwrn

Lleoliad:
Neuadd Talwrn, Tai Lon Goch
,
Talwrn, Anglesey, LL77 7SU
Dathliad am ddim i’w fynychu o Gorsydd Môn gyda gweithgareddau i bob oed.

Manylion y digwyddiad

Pwynt cyfarfod

Neuadd Talwrn, Talwrn, Ynys Môn LL77 7SU what3words: ///advantage.inert.announced
View on What3Words

Dyddiad

Time
10:00am - 5:00pm
A static map of Diwrnod 'Ffentastig' Talwrn

Ynglŷn â'r digwyddiad

Ymunwch â ni am ddiwrnod am ddim, sy'n addas i deuluoedd, yn dathlu tirweddau, straeon a diwylliant Corsydd Môn yn Neuadd Talwrn.

Bydd y diwrnod yn cynnwys ystod eang o weithgareddau gan gynnwys crefftau treftadaeth traddodiadol, gweithdai celf, arbrofion gwyddoniaeth gyda Sbarduno, taith gerdded dywys i Gors Bodeilio, a'r cyfle i archwilio deunyddiau archif a gwaith celf sy'n gysylltiedig â'r safleoedd.

Bydd grwpiau lleol a phartneriaid y prosiect yno i rannu syniadau, gweithgareddau a chyfleoedd i gymryd rhan yn eich cymuned a'r byd naturiol. Bydd gweithdai ffilm a ffotograffiaeth hefyd yn cofnodi’r diwrnod.

Bydd cinio a diodydd am ddim ar gael. Os ydych chi'n byw yma ers tro neu'n newydd i'r ardal, dewch draw i gysylltu ag eraill, dysgu mwy am y cynefinoedd gwlybdir unigryw yma, ac archwilio sut gallwn ni warchod eu dyfodol gyda'n gilydd.

Mwy o wybodaeth am brosiect Corsydd Calon Môn yma.

Mae trefnydd y digwyddiad yn siarad Cymraeg sgyrsiol, mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg neu'r Saesneg yn ystod y digwyddiad yma.

Bwcio

Pris / rhodd

Mae croeso i roddion

Gwybodaeth archebu ychwanegol

Nid oes angen cofrestru, dim ond troi fynnu.

Yn addas ar gyfer

Teuluoedd, Oedolion, Arbenigwyr, Dechreuwyr

Gwybod cyn i chi fynd

image/svg+xml

Beth i'w ddod

Nid oes angen cofrestru, dim ond troi fynnu.

Cysylltwch â ni