
Great Orme shop with statue © Dilys Thompson Photography
Tu Hwnt i'r Ffin: Dianc o Erddi ar y Gogarth
Manylion y digwyddiad
Ynglŷn â'r digwyddiad
Ydych chi wedi clywed am rywogaethau ymledol erioed? Dewch draw i'n harddangosfa NEWYDD ni, Tu Hwnt i'r Ffin: Dianc o Erddi i ddarganfod popeth amdanyn nhw!
Cewch brofi a dysgu drwy arddangosfa aml-gyfrwng ddifyr sy’n cynnwys arteffactau hanesyddol a gweithgareddau hwyliog i’r teulu cyfan. Darganfyddwch sut mae’r artist, Manon Awst, wedi defnyddio cerflunwaith i ddehongli’r ffiniau mandyllog rhwng gerddi a’n cynefinoedd ehangach, gwylltach ni.
Mae hyn yn rhan o’n prosiect Dianc o Erddi yn Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru sy’n cael ei gyllido gan y Rhaglen Rhwydweithiau Natur. Mae’n cael ei ddarparu gan y Gronfa Dreftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru.
Mae'r arddangosfa yn ddwyieithog, Cymraeg a Saesneg.