Cystadleuaeth Lluniau Ôl Troed

Footprint

Footprint © UnSplash Evie S.

Wythnos Cofio Am Elusen

Cystadleuaeth Lluniau Ôl Troed

 

 

Gadewch EICH ôl troed yn ein tirwedd am byth - gadewch rodd yn eich Ewyllys

Mae’r gystadleuaeth nawr ar gau.

Fe gysylltwn a’r enillwyr trwy e-bost.

Mawr o ddiolch i rheini a gymerwyd rhan.

Arferion gorau ffotograffiaeth bywyd gwyllt

Byddwch yn ofalus gyda fflach
Mae anifeiliaid yn sensitif iawn i olau a gallant gael eu dychryn neu eu dallu dros dro gan fflach gref. Os nad yw'r amodau golau'n dda, camera golwg nos yw eich bet orau.

Peidiwch â mynd yn rhy agos
Mae anifeiliaid yn debygol o deimlo straen a phanig os byddwch yn mynd yn rhy agos i'w cartref. Efallai y byddant hyd yn oed yn teimlo eu bod yn cael eu gorfodi i adael eu lleoliad. Gall hyn arwain at ganlyniadau angheuol, yn enwedig os oes rhai ifanc yno. Mae angen trwydded i dynnu lluniau anifeiliaid o dan rai amgylchiadau.

Byddwch yn ofalus lle rydych chi'n troedio
Cadwch at lwybrau neu draciau dynodedig. Bydd hyn yn golygu eich bod yn llai tebygol o ddifrodi cynefin neu darfu ar fywyd gwyllt sy'n agored i niwed. Efallai eich bod ar safle gwarchodedig fel SoDdGA lle na ddylid tarfu ar y ffawna a'r fflora.

Rhywogaethau a warchodir
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod beth yw statws gwarchodedig rhywogaeth rydych chi'n tynnu lluniau ohoni a'r cyfreithiau sy'n eu diogelu. Gall tynnu lluniau rhai rhywogaethau yn ystod y tymor bridio gael ei ystyried yn drosedd.

Peidiwch â defnyddio tâp denu
Gall chwarae galwadau i adar, yn enwedig ar nyth, amharu ar eu hymddygiad naturiol a rhoi cywion mewn perygl.

Rhowch les yr anifail yn gyntaf bob amser.