Drymwyr y coetir

Drymwyr y coetir

Mark Hamblin/2020VISION

Dewch i gwrdd ag offerynnau taro corws y wawr…

Wrth grwydro drwy goetir tua diwedd y gaeaf neu ddechrau’r gwanwyn, rydych chi’n debygol o glywed pyliau o dapio cyflym, cyson yn atseinio drwy’r coed. Gwaith cnocell y coed ar genhadaeth ydi'r sain stacato yma. Mae unrhyw dwrw’n anfon neges i’r holl gnocellau’r coed eraill sy’n gallu ei glywed – mae’r rhan yma o’r goedwig yn perthyn i mi.

Pendoncwyr

Tra bo rhai adar yn canu i ddenu cymar ac i ddychryn eu cymdogion, mae cnocellau’r coed yn defnyddio dull gwahanol. Maen nhw’n morthwylio eu pig yn erbyn boncyff coeden ar gyflymder anhygoel o uchel – hyd at 40 trawiad yr eiliad i’r gnocell fraith fwyaf. Does dim gwadu bod hynny'n drawiadol!

Mae cryn dipyn o drafod wedi bod ynghylch sut gall cnocell y coed ymdopi â’r straen o guro ei phen yn erbyn arwyneb caled dro ar ôl tro. Am gyfnod hir, y gred oedd bod gan gnocell y coed benglog sbyngaidd sy’n amsugno rhywfaint o’r effaith ac yn gwarchod yr ymennydd – mae pobl wedi copïo’r syniad yma hyd yn oed i greu helmedau diogelwch. Ond roedd astudiaeth a gyhoeddwyd y llynedd yn anghytuno â'r gred gyffredin yma, gan ddangos nad oes unrhyw effaith clustogi. Mae cnocell y coed yn defnyddio ei phen fel morthwyl stiff, nid fel amsugnydd sioc. Yn hytrach, ei maint bychan sy'n amddiffyn ei hymennydd, gan fod anifeiliaid llai yn gallu gwrthsefyll arafiad uwch. Mae cnocell y coed yn gallu ymdopi ag ergydion a fyddai'n rhoi cyfergyd difrifol i ni.

A great spotted woodpecker pecking an ice covered mossy branch.

Great spotted woodpecker © Peter Cairns/2020VISION

Pecian perffaith

Bydd unrhyw gerddor yn gwybod bod ansawdd eich offeryn yn gallu gwneud byd o wahaniaeth i'ch perfformiad chi. Mae’r un peth yn wir am gnocell y coed, felly mae’n bwysig ei bod yn dod o hyd i’r ‘drwm’ iawn. Mae'n chwilio am rywbeth sy’n atseinio, ac yn aml yn dewis canghennau marw caled. Mae’n bosibl bod pobl sy’n gwylio cnocellau’r coed yn rheolaidd wedi eu gweld yn symud o un gangen farw i un arall, gan daro pob un fel pe bai’n profi ansawdd y sain. Pan fydd aderyn yn dod o hyd i gangen mae'n ei hoffi, efallai y bydd yn dod yn ôl i becian yn ei herbyn dro ar ôl tro. Nid coed yn unig sy’n eu denu – weithiau byddant yn defnyddio strwythurau o wneuthuriad dyn, gan gynnwys polion metel.

Gyda’r rhan fwyaf o adar y DU, dim ond y gwrywod sy’n canu. O ran cnocell y coed, mae’r drymio yn aml yn weithgaredd neillryw. Bydd y gwrywod a’r benywod yn cnocio i amddiffyn eu tiriogaeth rhag unrhyw un o'r tu allan.

Female lesser spotted woodpecker drumming © Tom Hibbert

Rhythm rhagorol

Nid yw pob cnocell y coed ledled y byd yn drymio'r un dôn i gyd. Gall y rhythm amrywio o rywogaeth i rywogaeth - cyfuniad o hyd y cnocio, nifer y trawiadau, a'r trawiadau yr eiliad. Canfu astudiaeth o gnocellau’r coed Gogledd America bod yr adar yn ymateb yn gryfach i ddrymio eu rhywogaeth eu hunain, er y byddent yn adweithio o hyd i rywogaethau eraill gyda rhythm drymio tebyg.

Mae gwyddonwyr wedi dyfalu y gallai’r patrwm drymio alluogi cnocellau’r coed (a’r bobl sy’n eu hastudio) adnabod adar unigol hyd yn oed – bod gan bob aderyn sain benodol. Ymchwiliodd tîm yng Ngwlad Pwyl i hyn drwy ddadansoddi drymio 41 o gnocellau braith mwyaf. Canfuwyd bod y gwrywod ar gyfartaledd yn drymio ychydig yn gyflymach na’r benywod - ond roedd digon o orgyffwrdd ac ni allent fod yn sicr bob amser i ba ryw oedd recordiad yn perthyn. Roedd eu canlyniadau hefyd yn awgrymu y gallech wahaniaethu rhwng cnocellau’r coed unigol ar sail cyflymder a nifer eu trawiadau. Unwaith eto, ni ellid gwneud hyn gyda chywirdeb 100%, ac mae angen mwy o dystiolaeth i weld a yw unigolion yn newid eu harddull drymio dros amser.

Mae’n bosibl mai rhan yn unig o’r broses y mae cnocellau’r coed yn ei defnyddio i adnabod ei gilydd yw drymio, ochr yn ochr ag ymddangosiad a chri. Dangosodd astudiaeth ddiweddar o’r gnocell fraith ganolig (rhywogaeth a geir ar gyfandir Ewrop) ei bod yn gallu gwahaniaethu rhwng cri ei phartner a  chri dieithryn. Sgil ddefnyddiol pan mae gennych chi diriogaeth i'w hamddiffyn!

Two great spotted woodpeckers perched on a mossy log, with a male in the foreground recognisable by the red patch on his nape

Great spotted woodpeckers © Jon Hawkins - Surrey Hills Photography

Adar Prydeinig

Mae tair rhywogaeth o gnocell y coed yn nythu ym Mhrydain, ond dim ond un rydych chi’n debygol o’i chlywed yn drymio – y gnocell fraith fwyaf. Dyma ein rhywogaeth fwyaf cyffredin, sydd i’w gweld mewn llawer o goetiroedd a pharciau. Mae’r gnocell fraith fwyaf yn aderyn du a gwyn sgleiniog gyda fflach o goch o dan ei gynffon - mae gan y gwrywod ddarn coch ar eu gwar hefyd. Mae eu drymio yn bwl byr, ffrwydrol o drawiadau mor gyflym nes eu bod yn plethu gyda'i gilydd. Mae pob pwl o ddrymio’n para llai nag eiliad fel rheol. Mae'r trawiadau'n cyflymu tuag at ddiwedd y drymio, ond yn gwanio ar yr un pryd fel eu bod yn ymddangos fel pe baent yn dod i ben.

 

Mae’r gnocell fraith leiaf, fel mae'r enw'n awgrymu, yn llai. Ond mae ystyr mwy trasig i’w henw bellach hefyd, gan ei bod yn llawer llai tebygol o gael ei gweld - neu ei chlywed. Mae wedi dirywio mor ddramatig nes cael ei cholli o’r rhan fwyaf o Brydain. Mae drymio’r gnocell fraith leiaf fymryn yn arafach na drymio’r gnocell fraith fwyaf, gyda’r trawiadau unigol i’w clywed yn gliriach. Mae hefyd yn para'n hirach fel rheol, ymhell dros eiliad, ar gyflymder cyson heb y cyflymu tua'r diwedd.

 

Ein cnocell y coed olaf ni yw’r fwyaf. Mae’r gnocell werdd yn gwlffyn o aderyn gyda chefn gwyrdd mwsogl a chap coch llachar. Mae’n aml yn chwilota am forgrug gyda’i thafod hir, gludiog. Pur anaml mae'n drymio a phan mae'n gwneud hynny, mae'n anodd ei glywed - cyfres feddal o dapio cyflym iawn. Mae'n well ganddi arddangos gyda'i chri chwerthinllyd, uchel.

 
Green woodpecker

Green woodpecker by Andrew Mason

Identify woodpeckers

Get to grips with the finer details of woodpecker identification.

Start identifying