Nid maint yw popeth…
Mae cryn dipyn o flynyddoedd wedi mynd heibio bellach (tua wyth?) ers i mi fynd ati i ymroi i fy niddordeb presennol mewn pryfed cop. Rydw i bellach wedi llwyddo i ddod o hyd i gyfran sylweddol oddi ar y rhestr Brydeinig a’u hadnabod, sydd ar hyn o bryd yn cynnwys tua 670 o rywogaethau.
O’r dannedd i’r nyddwyr, mae cyrff y pryfed cop mwyaf ym Mhrydain tua 20mm (gan gynnwys y pryf copyn llwynog mawr, wnes i ei ailddarganfod yn 2020). Y cystadleuwyr eraill am y mwyaf yw’r pryf cop arth llwyd sydd ar lannau graeanog afonydd gogledd Swydd Efrog ac yng Nghymru, a’r we diwbaidd dannedd gwyrdd o strwythurau treftadaeth adeiledig trefol morol, yn Llundain ac ar hyd arfordir y de.
Ond dim ond ryw ddwy filimetr o hyd yw mwyafrif helaeth y rhain ar y gorau, gan gynnwys y rhan fwyaf o'r teulu mwyaf – y Linyphiidae neu’r 'pryfed cop arian'. I astudio'r rhain, rydych chi’n teimlo yn aml eich bod chi’n camu i fyd cwantwm Marvel. Rhaid cael microsgopau digidol a lensys llaw sy’n chwyddo’n fawr i'w datgelu nhw. Mae unrhyw un sy'n gwybod unrhyw beth am dacsonomeg pryfed cop yn ymwybodol mai strwythurau atgenhedlu oedolion aeddfed yw'r nodweddion diagnostig allweddol. Mae maint y rhain ar bryf copyn 1mm o hyd – wel, rydych chi'n gweld fy mhwynt…
Mae modd casglu, neu samplu, pryfed cop yn llawer gwell drwy ddefnyddio system D-Vac sydd, mewn gwirionedd, yn gweithio’n gwbl groes i beiriant chwythu dail. Mae'n sugno pryfed bach i mewn i fag casglu neu ridyll. Dim ond wrth uwchraddio i'r D-Vac y mae anferthedd llawn y rhywogaethau ar ben llai sbectrwm maint y pryfed cop yn cael ei ddatgelu. Sydd, yn ei dro, yn creu llawer, llawer mwy o waith labordy, wrth gwrs.
Ni ddylid tanamcangyfrif y cyffro sydd i'w weld drwy ficrosgop. Mae gan lawer o wrywod y pryfed cop arian lleiaf argregyn (y pen a'r thoracs wedi'u cyfuno mewn pryfed cop) rhyfedd iawn gydag ardal anterior (blaen) y pen wedi'i hystumio’n strwythurau rhyfeddol sy'n dal eu llygaid ar bileri uchel, llwyfannau uchel, a lympiau od eraill. Mae pam mae gan bryfed cop arian y nodweddion hyn, ar wahân i wella eu gwelededd, yn ddirgelwch o hyd.