Cân yr Adar yn Spinnies – Rhan 1: Y Brif Guddfan

Cân yr Adar yn Spinnies – Rhan 1: Y Brif Guddfan

The River Ogwen and Estuary at the Spinnies Abergowen Reserve @NWWT/Daniel Vickers

Yn cael ei galw yn aml yn Guddfan y Môr, mae’r Brif Guddfan yn cynnig dwy olygfa drawiadol ... ac mae un ohonyn nhw’n gyfle i chi weld Afon Ogwen yn ei chyfanrwydd a’r llall yn olygfa o’r môr-lynnoedd. Yn Rhan 1 y gyfres hon, 'Cân yr Adar yn Spinnies', rydym yn edrych ar gân a chri adar y glannau ar yr aber. Mae’r blog hwn yn un o gyfresi a alluogwyd gan gyllid o Gynllun Cymunedau Dreth Gwarediadau Tirlenwi Llywodraeth Cymru, a weinyddir gan WCVA

Mae Gwarchodfa Natur Spinnies Aberogwen yn un o’r 35 o warchodfeydd natur sy’n eiddo i Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru neu’n cael eu rheoli ganddi, ac mae’n adnabyddus ymhlith gwylwyr adar lleol fel un o’r llecynnau gorau i weld adar anhygoel.

Glas y dorlan yw aderyn enwocaf Spinnies, gan ddenu pobl o bell ac agos, ac rydym hefyd wedi cael ymweliad prin gan walch y pysgod yn ôl yn 2022, gan arwain at adarwyr brwd, profiadol a dibrofiad fel ei gilydd, yn heidio i’r cuddfannau. Ond mae cymaint o adar i’w gweld, drwy gydol y flwyddyn.

Os ydych chi'n newydd i wylio adar, a ddim yn gwybod ble i ddechrau, un o'r ffyrdd gorau o ddysgu ydi nid drwy wylio gyda'ch llygaid, ond drwy wrando gyda'ch clustiau. Bydd llawer o wylwyr adar profiadol yn adnabod aderyn wrth ei gân neu ei gri yn aml, ac ar ôl hynny, byddant yn cadarnhau'r rhywogaeth gyda'u sbienddrych neu eu golwg yn unig. Mae dysgu cân a chri unigryw pob aderyn yn ffordd dda o ddechrau arni, yn enwedig os nad ydych chi mor gyflym am ddilyn yr adar gyda'r sbienddrych eto.

Gan fod cymaint o wahanol rywogaethau o adar yn Spinnies Aberogwen, mae sawl cân a chri wahanol y gallwch chi wrando arnyn nhw, ar hyd a lled y warchodfa. Yn y warchodfa, fe allwch chi ddod o hyd i dair cuddfan wahanol. Heddiw, fe fyddem yn hoffi eich cyflwyno chi i'r Brif Guddfan a'r gwahanol synau adar y gallwch chi eu clywed yno.

Y Brif Guddfan

Y Brif Guddfan, sy’n cael ei galw yn aml yn Guddfan y Môr, ydi’r guddfan fwyaf adnabyddus, gan mai dyma’r un y byddwch chi’n dod o hyd iddi pan ewch chi i mewn drwy’r brif giât werdd a cherdded i fyny ac o amgylch llwybr y coetir. Ar ddiwedd y llwybr, bydd ail giât wen i gamu drwyddi, a bydd y llwybr ar y chwith yn eich arwain chi at y brif guddfan, tra bydd y llwybr yn syth o’ch blaen yn eich arwain chi at y ddôl ac un o’r llwybrau a fydd yn mynd â chi i'r lan.

Mae gan y guddfan ffenestri ar bob ochr, fel eich bod chi nid yn unig yn gallu gweld môr-lynnoedd Gwarchodfa Natur Spinnies Aberogwen, ond hefyd traethlin Afon Ogwen, sy'n golygu bod cymaint o adar y gallwch chi eu gweld yn y guddfan yma.

Allan ar y lan, fe allwch chi weld llawer o adar y glannau, yn enwedig ar lanw isel pan maen nhw allan yn bwydo. Mae rhai o'r adar y glannau yma’n cynnwys y crëyr bach, y crëyr glas, elyrch dof, gylfinirod, coegylfinirod, piod y môr, pibyddion coesgoch a phibyddion coeswyrdd.

Weithiau mae posib gweld crehyrod bach a chrehyrod glas yn agos at ei gilydd yn Spinnies Aberogwen. Mae crehyrod bach yn aml yn dawel, ac eithrio yn ystod y tymor magu pan mae eu cri'n swnio fel chwyrnu a chrawcian. Mae’r crëyr glas yn gwneud sain “ffrainc” cras, uchel, yn ogystal â gwichian a chrawcian.

A picture of a little egret up close in shot.

Little Egret/Crëyr bach @ Alan Price

Photo of a grey heron standing on a small island out on the lagoon of the Spinnies Abergowen Nature Reserve, overlooking the water

Grey heron/Crëyr glas @ NWWT Daniel Vickers

Er bod elyrch dof yn cael yr enw ‘mute swans’ yn Saesneg, dydyn nhw ddim yn fud, dim ond nad ydi’r synau “heeorr” utganol, cras a’r synau hisian isel yn teithio mor bell ag y mae cri elyrch eraill.                   

A mute swan out at sea. The swan is facing right and is looking down with its beak almost in the water.

Mute swan/Alarch dof @ NWWT Daniel Vickers

Mae gylfinirod a choegylfinirod yn eithaf tebyg yr olwg, gyda choegylfinirod yn llai a gyda phlu tywyllach. Efallai bod llai o goegylfinirod i’w gweld nag o ylfinirod, gan eu bod yn magu mewn ardaloedd gogleddol, gan fudo i ardaloedd eraill yn ystod y gwanwyn a’r hydref. Mae cri’r gylfinir yn dechrau’n araf cyn codi momentwm i drydar cyflym o “whawp” “whoi” a “cyr-li”. Mae cri’r coegylfinir yn “pipipipipipipip” uchel a chyflym.

A photo of a curlew, out on water.

Curlew/Gylfinir @ Alan Price

A photo of a whimbrel on the water. The whimbrel is facing right, floating on the water with its left wind slightly raised

Whimbrel/Coegylfinir @ Dave Appleton

Mae piod y môr yn gwneud synau “clip”, “clîp” neu “clîp-a-clîp” sydd yn aml yn creu corws treiddgar pan mae haid i’w clywed.         

An oystercatcher, a bird with distinctive black and white body, and red bill, standing on small stones out on the water.

Oystercatcher/Pioden y môr @ Chris Gomersall/2020Vision

Mae cri’r pibydd coesgoch yn eithaf nodedig yn aml, weithiau’n gerddorol, weithiau’n felancolaidd - “teu!”, “teu-hw”neu “te-hwhw” ond dydi cri’r pibydd coeswyrdd ddim mor siarp ac mae’n ganu uwch, traw cyson - “tew-tew-tew”.

A photo of a redshank standing on a rock. Behind the redshank are more rocks, debris ad sand.

Redshank/Pibydd coesgoch @ Alan Price

Photo of a greenshank, standing on a stone in front of water.

Greenshank/Pibydd coeswyrdd @ Pete Richman

Ar draws yr aber, efallai y gwelwch chi adar rhydio eraill fel pibydd y mawn, y cwtiad torchog, pibydd yr aber, y rhostog gynffonfraith a’r rhostog gynffonddu, a chwtiad y traeth, ac efallai hefyd y gwelwch chi adar eraill fel chwiwellod, hwyaid yr eithin, hwyaid llygad-aur, hwyaid brongoch, hwyaid danheddog, hwyaid mwythblu, gwyachod mawr copog a gwyddau llwyd. Gydag adar rhydio, fe fyddwch chi’n aml yn clywed y gri yn unig, yn hytrach nag unrhyw gân.

View of the estuary of the Spinnies Aberogwen reserves from the main hide. In front of the River Ogwen are plants and grassy shoreline

View of the estuary from the Main Hide/Golygfa o’r aber o’r Brif Guddfan @ NWWT Michelle Payne

Yn rhan nesaf y gyfres, byddwn yn aros yn y Brif Guddfan ac yn edrych draw dros y môr-lyn ar yr olygfa, ac yn gwrando ar gân yr adar.  

NESAF: Cân yr Adar yn Spinnies Rhan 2