Ein Rhaglen Hyfforddi Cadwraeth a Newid Hinsawdd cyntaf yng ngogledd ddwyrain Cymru

Ein Rhaglen Hyfforddi Cadwraeth a Newid Hinsawdd cyntaf yng ngogledd ddwyrain Cymru

Mae ein gwaith ieuenctid ni wedi mynd o nerth i nerth yng ngogledd ddwyrain Cymru yr haf yma gyda’r Rhaglen Hyfforddi Cadwraeth a Newid Hinsawdd erioed i bobl ifanc o’r ardal. Mae dwy o’n hyfforddeion newydd, Leila a Matilda, yn adlewyrchu ar eu hwythnos.

Leila Anderson-Bryan

Wrth ddechrau’r cynllun hyfforddi, doeddwn i ddim yn gwybod beth yn union i’w ddisgwyl na sut byddwn i’n cyrraedd yno hyd yn oed. Wrth lwc, fe ddaeth y staff gwych sy’n rhedeg y Cynllun Hyfforddi at ei gilydd i drefnu cludiant i’r rhai oedd ei angen, gan gynllunio lleoliadau codi a gollwng dyddiol a chyfathrebu’n rhagorol drwy gydol y cynllun.

Ar ddiwrnod cyntaf y Rhaglen Hyfforddi Cadwraeth a Newid Hinsawdd, roedden ni yng Ngwarchodfa Natur hardd Aberduna. Yn y bore, fe gawson ni fynd ar daith dywys o amgylch y warchodfa, drwy’r glaswelltiroedd a’r coedwigoedd, lle’r oedd digonedd o fywyd gwyllt. Fe gawson ni gyfle i drafod arferion cadwraeth lleol sy’n cael eu defnyddio gan yr Ymddiriedolaeth. Yn y pnawn, fe gawson ni ddysgu sut i drin pladur a phicwarch yn ddiogel, cyn eu defnyddio nhw i gynnal a chadw’r warchodfa drwy gael gwared ar lawer iawn o redyn ac ysgall, sy’n gallu cael y gorau ar rywogaethau eraill. Fe wnaeth cymryd rhan ymarferol mewn gwaith cadwraeth fy helpu i ddeall pwysigrwydd cydbwysedd o fewn ecosystem.

Scything

Scything © NWWT Caitlin Nucher-Flynn

Ar y dydd Mawrth, fe gawson ni gyfle gwych i ennill cymhwyster hyfforddiant cymorth cyntaf, oedd yn cael ei gyflwyno gan 1FirstAid1. Fe ddysgodd hyn sgiliau hanfodol i ni ar gyfer gweithio’n ddiogel gyda grwpiau yn yr awyr agored a sut i ymateb pe bai argyfwng yn codi. Roedd y diwrnod yma’n werth chweil ac yn ddiddorol, gan fod cymorth cyntaf yn sgil am oes sy’n gallu achub bywyd rhywun. Mae hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer gwaith cadwraeth, gan ein bod ni yn yr awyr agored yn aml, ac felly gallai gwybod sut i wneud CPR neu roi rhywun yn y safle adfer fod yn ddefnyddiol iawn.

Ddydd Mercher, fe aethon ni i draeth Talacre, sydd ag amrywiaeth anhygoel o gynefinoedd mewn un ardal, gan gynnwys twyni tywod, gwastadeddau ac, wrth gwrs, y môr. Cadwraeth forol oedd ein ffocws ni, gan gymryd rhan yn yr helfa plisg wyau wych oedd wedi’i threfnu gan yr Ymddiriedolaeth a Phrosiect SIARC. Fe wnaethon ni arolygu hyd y traeth drwy chwilio ar hyd y draethlin. Wnes i ddim dod o hyd i lawer fy hun, ond fe ddaeth y grŵp arall o hyd i blisg wyau oedd yn cyfateb i faint cae pêl droed cyfan! Roedd gweld faint o blisg wyau oedd i'w cael ar hyd un rhan o'r traeth wir yn dangos i ni faint o fywyd morol sy’n byw ar garreg ein drws. Fe ymunodd tîm 'Y Môr a Ni' â ni am y diwrnod, gan ein helpu ni gydag arolygu’r draethlin. Fe fuon ni’n adnabod y rhywogaethau ac yn adlewyrchu ar beth mae'r môr yn ei olygu i ni. Fe wnes i ddysgu mwy am ardaloedd morol gwarchodedig (AMG’oedd) a sut gallwn ni ddod at ein gilydd i warchod y pethau sy’n bwysig i ni.

Identifying eggcases on the beach

Identifying eggcases © NWWT Caitlin Bucher-Flynn

Matilda Joy-Camacho

Ar y dydd Iau, fe fuon ni yn Llyn Brenig a chael ein tywys drwy'r rhostir yn y lleoliad. Fe gawson ni ein dysgu i adnabod gwahanol rywogaethau o adar ac roedden ni’n ddigon ffodus i gael cipolwg ar ddwy gog yn rhyngweithio wrth hedfan. Heb weld gog erioed o'r blaen, hwn oedd un o hoff ddigwyddiadau’r dydd i mi. Roedd yn chwa o awyr iach cael bod ymhlith pobl eraill yr un oed â fi oedd yn cael eu cyfareddu yn yr un ffordd gan fywyd gwyllt. Roedden ni i gyd yn sefyll yn gafael mewn sbienddrych, yn aros ein tro am well golygfa drwy'r sgôp mawr. Wedyn fe aethon ni i weld y gwirfoddolwyr sy'n goruchwylio'r wylfan gweilch y pysgod. Fe welson ni’r gweilch yn hedfan yn y pellter ac fe gawson ni gyfle i'w gwylio nhw ar gamera'r nyth. Fe rannodd Andy, gwirfoddolwr gyda Phrosiect Gweilch y Pysgod y Brenig, rywfaint o’i wybodaeth helaeth am weilch y pysgod gyda ni ac roedd ei frwdfrydedd yn heintus.

In the heathland, looking out for wildlife

In the heathland, looking out for wildlife © NWWT Caitlin Bucher-Flynn

Roedden ni yn ôl yn Aberduna ar y dydd Gwener yn dysgu am agweddau pwysig ar yr Ymddiriedolaeth, fel marchnata a chyfathrebu. Roedd hwn yn gyfle i gael cipolwg ar yr amrywiaeth o swyddi sy’n cael eu cyflawni gan staff Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru. Fe ddaeth y diwrnod i ben gyda gweithgareddau byw yn y gwyllt. Fe ddangoswyd i ni sut i wneud cortyn danadl ac fe gawson ni ddysgu am egwyddorion cynnau tân gwersylla yn ddiogel. Wedyn fe aethon ni am dro olaf o amgylch y warchodfa a chael ein dysgu i adnabod gwahanol rywogaethau o gennau a phlanhigion dôl.

Bythefnos yn ddiweddarach fe es i yn ôl i Lyn Brenig i helpu mewn diwrnod teulu gyda rhai o'r lleill oedd wedi mynychu'r cynllun hyfforddi. Fe wnes i helpu gyda’r gweithgaredd archwilio pwll lle buon ni’n chwilio am rywogaethau gwahanol fel larfa gweision y neidr, madfallod dŵr a cheffylau dŵr bolwyn. Roedd bod yn rhan o’r cynllun hyfforddi yn brofiad gwerth chweil yn gyffredinol ac fe fyddwn i’n ei argymell yn sicr i bobl ifanc eraill sy’n awyddus i ymgysylltu mwy â byd natur.