Cais am gyflwyniadau celf: Stamp Natur

Cais am gyflwyniadau celf: Stamp Natur

Dangoswch eich gwerthfawrogiad o'n planhigion a'n ffyngau brodorol ni drwy gelf!

Drwy’r prosiect Stamp Natur dan arweiniad pobl ifanc, rydyn ni’n gobeithio ysbrydoli cysylltiad â’n planhigion a’n ffyngau brodorol ni drwy gelf. Drwy wneud hynny, rydyn ni eisiau annog pobl i’w gwarchod nhw. Felly, os ydych chi’n hoff o flodau, mwsoglau, coed, morwellt, ffyngau neu rywbeth arall - byddem wrth ein bodd yn dysgu am eich hoff rywogaethau!

Yn syml, tynnwch lun, paentio, gwneud collage, braslunio neu ddarlunio eich rhywogaeth o ddewis yn y ffordd rydych chi'n ei ffafrio a'i anfon atom ni gyda’r rheswm dros pam wnaethoch chi ddewis y planhigyn neu'r ffwng hwnnw.

Cliciwch yma i gael gwybod sut i gymryd rhan

Byddwn yn gwneud eich gwaith celf yn faint stamp post, a fydd yn rhan o collage o weithiau celf o'n cymuned ehangach ni. Yn union fel stampiau post go iawn, byddant yn arddangos yr hyn rydyn ni fel cymunedau a phobl yn ei deimlo sy’n bwysig ac yn tynnu sylw at gysylltiadau cenedlaethol a rhyngwladol.

Pam mae planhigion a ffyngau’n bwysig?

Yn aml, mae cysylltiad â natur yn dod o'r pethau bach - mynd am dro drwy goetir gwyrddlas, cerdded ar hyd yr arfordir gydag arogl awyr hallt y môr yn eich trwyn, neu ddim ond treulio amser yn eich gardd yn gwrando ar yr adar yn trydar. Dim ots ble rydych chi'n byw, mae byd natur o’ch cwmpas chi ym mhob man.

Ond pa mor aml ydych chi wedi oedi i werthfawrogi arwyr tawel ein byd naturiol ni; y gweithwyr llonydd a distaw sy'n helpu i gadw ein tirweddau ni'n fyw ac yn ffynnu? Rydw i'n sôn am ein planhigion a'n ffyngau anhygoel ni wrth gwrs!

Er gwaethaf eu hanallu i symud yn yr ystyr draddodiadol, mae pob rhywogaeth yn chwarae rhan arbennig wrth gynnal cydbwysedd byd natur. Mae ein coed ni’n darparu lloches i bob math o fywyd gwyllt, mae planhigion yn amsugno carbon deuocsid sy'n hanfodol ar gyfer mynd i'r afael â newid hinsawdd, mae blodau'n cynnal pryfed peillio hanfodol fel gwenyn a glöynnod byw, ac mae ffyngau'n dadelfennu deunydd sy'n pydru i ryddhau maethynnau sy'n helpu i gadw ein priddoedd ni’n iach. Hebddyn nhw, byddai ein byd ni’n edrych yn dra gwahanol!

Yn y DU, mae ein planhigion a'n ffyngau brodorol ni wedi wynebu dirywiad sylweddol oherwydd ffactorau fel newid hinsawdd a dinistrio cynefinoedd sy'n tarfu ar ecosystemau bregus. Heb bobl i ofalu am y rhywogaethau yma neu eiriol drostyn nhw, rydyn ni mewn perygl o'u colli nhw am byth.

#cymrydrhan

Sut i gymryd rhan:

-Dewiswch eich hoff blanhigyn neu ffwng brodorol. Cliciwch yma am ysbrydoliaeth os ydych chi'n cael anhawster!

- Ewch ati i greu gwaith celf o'ch planhigyn neu ffwng. Trefnwch eich gwaith celf mewn portread fel bod posib ei wneud yn stamp.

- Anfonwch eich cyflwyniadau ar e-bost at: @ gyda'r pwnc 'Gwaith Celf Stamp Natur'. Cofiwch ddweud wrthym ni pam wnaethoch chi ei ddewis!

Rydyn ni’n croesawu mwy nag un cyflwyniad os na allwch chi ddewis eich ffefryn! Rhaid i’r cyflwyniadau fod o blanhigyn neu ffyngau brodorol yn y DU i gael eu cynnwys.

Cyflwynwch eich gwaith celf erbyn Hydref 15 2025 os hoffech chi gael eich cynnwys yn y gwaith celf terfynol.

Cefnogir y prosiect hwn gan Grow Wild, rhaglen allgymorth genedlaethol y Gerddi Botaneg Brenhinol yn Kew.

Beth mae 'brodorol o’r DU' yn ei olygu?

Fel arfer, ystyrir bod planhigyn neu ffwng yn frodorol i'r DU os nad yw ei bresenoldeb yma oherwydd ymyrraeth gan bobl. Weithiau, ystyrir bod planhigion a gyflwynwyd gan bobl cyn neu yn ystod yr Oesoedd Canol (cyn 1500 OC) yn 'frodorion anrhydeddus', er enghraifft: y pabi neu las yr ŷd.

Mae'r DU hefyd yn gartref i nifer fach o rywogaethau 'endemig' - hynny yw, rhywogaethau sydd wedi esblygu yn y DU ac sydd ddim i'w cael yn naturiol yn unman arall. Mae'r rhain yn cynnwys briallu’r Alban (Primula scotica), y ffwng seren ddaear fwaog (Gaestrum britannicum), a chotoneaster y Gogarth (Cotoneaster cambricus).