Morloi llwyd - Paru

Morloi llwyd - Paru

pre-mating interactions RSWT - Neil Aldridge

Mae’n dymor paru i’n morloi llwyd ni ac mae’r cyfan i’w weld ar hyd arfordir Gogledd Cymru.

Bydd morloi llwyd (Halichoerus grypus) yn paru yn ystod tymor y rhai bach (Awst-Rhagfyr yng Ngogledd Cymru). Mae’r paru’n cael ei sbarduno gan newidiadau yn hormonau’r morloi gwrywaidd a benywaidd. Ar ôl i'r cyfnod magu ddod i ben, bydd y benywod yn paru gyda gwryw cryf. Mae benywod (buchod) yn cyrraedd aeddfedrwydd rhwng 3 a 5 oed ac mae gwrywod (teirw) yn cyrraedd aeddfedrwydd rhwng 4 a 6 blynedd. Fodd bynnag, bydd gwrywod hŷn sydd tua 10 oed yn cystadlu â morloi gwrywaidd eraill am ‘bŵer traeth’. Bydd gwrywod sydd newydd gyrraedd aeddfedrwydd yn colli’r gystadleuaeth ac efallai na fyddant yn paru y tymor hwnnw. Fodd bynnag, mae'n bwysig nodi na fydd angen i bob gwryw drechu gwrywod eraill a gall gwrywod llai cystadleuol baru o hyd. Bydd hyn yn dibynnu ar faint y boblogaeth a ffactorau amgylcheddol eraill.

Beach master - Anna Griffiths

Beach master - Anna Griffiths

Rydw i'n cofio ffotograffydd yn dweud wrthyf unwaith bod y dŵr bas yn goch gan waed morloi gwryw yn ymladd ar un adeg yn ystod bore prysur iawn! - Dawn Thomas

Mae'r broses baru yn swnllyd ac yn ymosodol oherwydd y cynnydd yn lefelau hormonau a natur diriogaethol y gwrywod i hawlio goruchafiaeth. Gall ymladd ddigwydd rhwng y morloi a all achosi creithio. Gall hyn olygu y gall y safle lle maent yn dod i’r lan droi’n amgylchedd swnllyd a phrysur, sydd ddim yn ddelfrydol ar gyfer y rhai bach. Mae'n bwysig nad oes neb yn tarfu ar y morloi yn ystod yr amser yma er mwyn sicrhau nad oes amharu ar y paru. Gallai hyn arwain at newid ymddygiad a pheryglu'r morloi bach a mawr. Yr arwyddion o darfu yw morloi’n fwy ymwybodol o bob digwyddiad, a symud ar y safleoedd lle maent yn dod allan o’r dŵr neu gilio i’r môr. Dylai unrhyw un sy'n mynd i’r dŵr mewn ardal gyda morloi ddilyn y Cod Morol lleol ar gyfer arferion gorau (Conwy, Gwynedd, Ynys Môn).  

Mating - Paul Board

Mating - Paul Board

Mae oedi gyda beichiogrwydd mewn morloi llwyd. Yr enw ar hyn yw ‘saib embryonig’, bydd yr ŵy wedi’i ffrwythloni yn aros yn segur sy’n atal datblygiad yr embryo. Mae'r oedi wrth ddatblygu yn tua 2 i 4 mis. Mae hyn yn sicrhau bod yr amodau'n fwy ffafriol i'r morlo bach gael y siawns orau o oroesi. Yn ogystal, mae'n galluogi i'r fam fwrw ei ffwr a bwydo i adfer ei lefelau egni ar gyfer y beichiogrwydd.

Os ydych chi'n poeni am les morlo, gallwch ffonio'r rhifau canlynol i gael cyngor. Achub Bywyd Morol Deifwyr Prydain (01825 765546) 24 awr neu’r RSPCA (0300 1234 999) 24 awr. Mae'n bwysig peidio â mynd at forlo neu forlo bach oherwydd gall aflonyddwch arwain at y fam yn gadael y morlo bach. Yn ogystal, wrth edrych ar forloi, gwnewch yn siŵr eich bod yn eu parchu bob amser ac yn cadw lefelau’r sŵn mor isel â phosib. Dylid cadw pellter bob amser, a dylid cadw cŵn ar dennyn bob amser.

- BLOG wedi'i greu gan Molly Jones