Mae pathewod yn brin ac yn dirywio yn y DU, i’w canfod yn bennaf yn ne Lloegr. Yng Ngogledd Cymru, mae’r poblogaethau’n fach ac yn wasgaredig fel arfer. Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ac Enfys Ecology yn freintiedig o gael gweithio ar sawl un o'r poblogaethau prin yma, gan gynnwys rhaglen fonitro hirdymor yng Nghoed Fron Wyllt (Bontuchel) a rhaglen newydd a ddechreuodd y llynedd o amgylch Dolgarrog yn Nyffryn Conwy. Fe wnaethon ni hefyd ailddechrau monitro yn ein Gwarchodfa Natur Ddôl Uchaf ychydig wythnosau yn ôl yn dilyn seibiant o saith mlynedd.
Yn y Ddôl Uchaf, y nod ydi sefydlu a ydi'r boblogaeth yn dal i fod yn bresennol yn y warchodfa. Os ydyn nhw’n bresennol, byddwn yn canolbwyntio ein rheolaeth cynefin i gefnogi'r rhywogaeth yma yn y ffordd orau; os nad ydyn nhw yno, byddwn yn gofyn am ganiatâd y perchnogion tir cyfagos i fonitro’r lleoliadau lle maen nhw wedi cael eu cofnodi o'r blaen, a byddwn yn asesu'r cysylltedd rhwng y safleoedd yma.