Uchafbwyntiau ac isafbwyntiau Cemlyn yn ystod haf 2023

Uchafbwyntiau ac isafbwyntiau Cemlyn yn ystod haf 2023

Sandwich tern © P. Evans

Roedd 2023 yn sicr yn dymor cymysg yng Nghemlyn ac wrth i wardeiniaid eleni - Mark, Dawn, Hannah a Ruth - ffarwelio, maen nhw’n edrych yn ôl ar haf

2023 a ddechreuodd gyda thro annisgwyl, wrth i Mark wynebu'r posibilrwydd o wardenio ar ei ben ei hun - ond buan iawn y lluniwyd tîm llwyddiannus... gyda Dawn, Hannah a Ruth!

Cemlyn wardens 2023

L to R Hannah, Mark, Ruth and Dawn - Cemlyn Wardens 2023

Ar gyfer y môr-wenoliaid, dechreuodd y tymor yn araf wrth i dywydd oer oedi cyrhaeddiad a pharu. Ychydig wythnosau i mewn fe wnaethom ddechrau sylweddoli effaith ffliw adar y flwyddyn flaenorol dros y gaeaf wrth i ni weld niferoedd llawer is yn dychwelyd. Cynyddodd y pryderon pan ddechreuodd gwylanod penwaig fwyta wyau gwylanod penddu ac aflonyddu ar y nythfa yn aml. Fe wnaethom fonitro'r aflonyddwch hwn yn ofalus ac fe wnaethom lwyddo i ynysu'r adar problemus. Yna daeth ail ergyd y ffliw adar... Fe wnaethom lwyddo i reoli'r ymlediad i ryw raddau ar y dechrau trwy gael gwared ar y cyrff marw. Wrth i gywion ddechrau deor, fe wnaethom benderfynu peidio â chasglu cyrff o'r ynysoedd, rhag ofn tarfu ar y nythfa ac amlygu'r cywion i'r tywydd gwael a'r ysglyfaethu. O hynny ymlaen, roedd yn rhaid i ni obeithio, monitro ysglyfaethwyr eraill ac aflonyddwch dynol. Mae wedi bod yn dymor heriol a gofidus yn hyn o beth.

Er mwyn pennu effeithiau ffliw adar ar nythfa Cemlyn, fe wnaethom asesu'r niwed a wnaed o ran yr effaith ar y boblogaeth oedolion (gan gyfeirio at faint y boblogaeth fagu) a nifer y cywion wnaeth hedfan y nyth yn llwyddiannus. Môr-wenoliaid pigddu gafodd eu heffeithio waethaf o ran cynhyrchiant, gyda thua hanner y cywion yn cael eu heffeithio (ac yna môr-wenoliaid cyffredin, a môr-wenoliaid yr Arctig yn olaf). Er, pan edrychwn ar y boblogaeth oedolion, y môr-wenoliaid cyffredin gafodd eu heffeithio waethaf (efallai bod adar mewn oed yn fwy agored i'r clefyd na'r rhywogaethau eraill o fôr-wenoliaid?) , yna'r Arctig ac yna Pigddu.

Er gwaethaf hyn oll, rydym ni wedi gweld cywion o bob rhywogaeth o fôr-wenoliaid yn ffoi yn llwyddiannus, ac rydym ni’n hynod ddiolchgar am hyn. Bydd cannoedd o gywion môr-wenoliaid pigddu yn dilyn yr oedolion yn ôl i'w tiroedd gaeafu. Fodd bynnag, byddwn ond yn gwybod gwir effeithiau'r clefyd y tymor nesaf pan fyddwn ni’n gallu gweld faint o adar sydd wedi dychwelyd i'r nythfeydd magu.

Am y tro, rydym ni bellach wedi clirio’r adar marw oddi ar yr ynysoedd i helpu i sicrhau nad yw'r clefyd yn cael ei ledaenu drwy fwytawyr cyrff marw ac adar y gaeaf sy'n ymweld â'r warchodfa. Ond gofynnwn i chi barhau i ddilyn y canllawiau ar gadw cŵn ar dennyn a pheidio â chyffwrdd ag adar marw neu blu.

Rhaid i ni hefyd gofio'r pethau cadarnhaol eraill y tymor hwn hefyd! Ychydig o bethau ddigwyddodd am y tro cyntaf i Gemlyn, ac Ynys Môn!

  • Y pâr cyntaf o Gambigau i fridio ar Ynys Môn!! Gan gynhyrchu pedwar cyw. Er na wnaeth y cywion oroesi (credwn eu bod nhw mae’n debyg wedi’u bwyta gan na ddaethom o hyd i unrhyw dystiolaeth o unrhyw un o'r cywion hyn ar yr ynys), pwy a ŵyr, efallai y bydd yr oedolion yn dychwelyd y flwyddyn nesaf...
  • Y gwalch-wyfyn pinwydd cyntaf i Ynys Môn.
  • Y gwyfyn gwalch taglys cyntaf i Gemlyn.
  • Y cwtiaid torchog cyntaf i fridio'n llwyddiannus ar y grib ers blynyddoedd lawer!
  • Safle newydd ar gyfer bridio gwenoliaid y glennydd
  • Y nifer uchaf erioed o grehyrod bach (33 mewn un diwrnod!).

 

Ac, rydym ni wedi gweld llawer o lwyddiant bridio eraill o amgylch y warchodfa. Yn fwyaf nodedig gyda'r hwyaid brongoch, Hwyaid Brith ac Elyrch. Rydym ni hefyd wedi gweld llawer o anifeiliaid di-asgwrn-cefn, ymlusgiaid, mamaliaid, bywyd morol a phlanhigion diddorol eraill!

Mae Teithiau Cerdded y Wardeniaid eleni wedi bod yn llwyddiant ysgubol hefyd — diolch i bawb a ymunodd â ni. Fel bob amser, diolch enfawr i'r holl wirfoddolwyr sydd wedi rhoi o'u hamser i'n helpu ni ar y warchodfa, byddai cyflawni ein dyletswyddau gymaint yn anoddach heboch chi! Diolch hefyd i'r adarwyr lleol, trigolion a ffrindiau, i bawb sydd wedi cyfrannu dros y tymor, ac yn olaf, diolch i bob un ohonoch chi am ddilyn y tymor ar-lein gyda chymaint o frwdfrydedd, mae'r cyfan yn helpu i'n cadw ni i fynd! Rydym ni’n hynod werthfawrogol o'r holl gefnogaeth a ddangoswyd i gadwraeth y lle arbennig hwn ac, wrth gwrs, ein môr-wenoliaid annwyl.

Wrth i'r tymor ddirwyn i ben, rhaid gobeithio y gall y môr-wenoliaid oroesi eu taith hir adref. Croesi bysedd y byddwn ni’n gweld y cywion eto mewn cwpl o flynyddoedd, pan fyddant yn dychwelyd fel oedolion bridio. Pob lwc i’r rhai bach, a’r oedolion fel ei gilydd...

5 young people walking away from the camera, along the shingle at Cemlyn Bay dressed warmly on a sunny day

© NWWT