BBC Springwatch

BBC Springwatch presenters

Springwatch y BBC

Springwatch y BBC i ddod yn FYW o Ogledd Cymru

Rydyn ni'n ddigon ffodus o fod â rhai o’r tirweddau mwyaf amrywiol a hardd ar y Ddaear, yma yng Ngogledd Cymru.

Mae Springwatch y BBC yn dod â rhai o’n bywyd gwyllt a’n cynefinoedd mwyaf gwerthfawr i’n hystafelloedd byw, ac yn dychwelyd i BBC2 o ddydd Llun 29ain Mai ymlaen am dair wythnos o raglenni byw. Mae’r gyfres yn cynnwys erthyglau dyddiol o lefydd gwyllt o amgylch Gogledd Cymru ac rydyn ni'n gyffrous iawn am fod yn cynnal darllediadau BYW o’n gwarchodfeydd natur ni:

  • Gwaith Powdwr - Springwatch, BBC2, Nos Fawrth 30 a Nos Fercher 31 Mai, 8-9pm  

  • Cemlyn - Springwatch, BBC2, Nos Fawrth 13 Mehefin, 8-9pm  

Os ydych chi wedi cael eich ysbrydoli gan Springwatch i godi allan i archwilio byd natur ar garreg eich drws, neu os ydych chi eisiau darganfod mwy am rai o’r llefydd a’r rhywogaethau dan sylw, daliwch i ddarllen…

Ble i weld

Bydd cyflwynydd Springwatch Gillian Burke yn mynd ar antur i’r cynefinoedd ac i weld y rhywogaethau sy’n galw Gogledd Cymru yn gartref. Tiwniwch mewn neu ymweld eich hun!

Gwaith Powdwr industrial heritage

© Ian Roberts

Gwarchodfa Natur Gwaith Powdwr

Nos Fawrth 30 Mai, Springwatch BBC2, 8pm - 9pm Gwyliwch ar BBC iPlayer

Nos Fercher 31 Mai, Springwatch BBC2, 8pm - 9pm Gwyliwch ar BBC iPlayer

Darganfyddwch sut mae byd natur wedi hawlio'r dirwedd ôl-ddiwydiannol yma yn ei hôl gyda rhywogaethau fel ystlumod pedol lleiaf a madfallod dŵr balfog i gyd yn manteisio i'r eithaf ar weddillion yr hen ffatri ffrwydron. 

Mwy o wybodaeth
A large flock of terns, black and white sea birds, take flight on mass from their small nesting islands surrounded by a calm lagoon of water. Behind them hills and farmland with a pale grey sky.

The tern colony at Cemlyn takes to the air. © Ben Stammers

Gwarchodfa Natur Cemlyn

BBC 2, Nos Fawrth 13 Mehefin, 8pm - 9pm
Gwyliwch ar BBC iPlayer

Cyfle i weld Môr-wenoliaid Pigddu yn uniongyrchol yng Ngwarchodfa Natur Cemlyn bob Gwanwyn gan fod y warchodfa’n brif safle magu ar gyfer yr aderyn eiconig yma. 

Mwy o wybodaeth

Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn gofalu am 35 o warchodfeydd natur ... defnyddiwch ein swyddogaeth chwilio i ddod o hyd i un yn eich ardal chi!

Dod o hyd i warchodfeydd natur cyfagos

Ffocws ar rywogaeth

Ynfyd am ystlumod, neu’n frwd am fadfallod dŵr? Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am rai o’r rhywogaethau ar y rhaglen yma.

Gweld ein canllaw rhywogaethau llawn

Chwilio am ffyrdd o helpu?

Wedi cael eich ysbrydoli gan Springwatch ac yn awyddus i wneud eich rhan i helpu bywyd gwyllt lle rydych chi’n byw? Mae llawer o gamau y gallwch chi eu cymryd i ddenu bywyd gwyllt i'ch gardd neu i fannau gwyrdd lleol, ewch i'n tudalennau  garddio er budd bywyd gwyllt i gael gwybod mwy..

Ochr yn ochr â’n haelodau a’n gwirfoddolwyr, rydyn ni wedi ymrwymo i alluogi bywyd gwyllt i oroesi a ffynnu ar draws gogledd Cymru. Byddem wrth ein bodd pe baech chi’n ymuno â ni.

Dod yn aelod heddiw

Mae’r Ymddiriedolaethau Natur yn chwarae rhan bwysig iawn mewn gwarchod ein treftadaeth naturiol. Fe fyddwn i’n annog unrhyw un sy’n poeni am fywyd gwyllt i ymuno â nhw
Syr David Attenborough