Codi arian ar gyfer Prosiect Gwalch y Pysgod Brenig 2027

Codi arian ar gyfer Prosiect Gwalch y Pysgod Brenig 2027

£1,145 Wedi'i godi

Cadwch stori gweilch y pysgod y Brenig yn fyw. Helpwch ni i godi £40,000 erbyn 31 Mawrth 2027.

Dydi eu stori nhw ddim yn digwydd ar hap.

Bob gwanwyn, mae'r awyr uwchben Llyn Brenig yn croesawu un o straeon llwyddiant mwyaf ysbrydoledig bywyd gwyllt Cymru yn ôl.

Ar ôl teithio miloedd o filltiroedd o Affrica, mae gweilch y pysgod y Brenig yn dychwelyd i Ogledd Cymru i fagu’r genhedlaeth nesaf o’r adar godidog yma cyn cychwyn ar eu mudo rhyfeddol unwaith eto.

Mae miloedd o bobl yn dilyn eu siwrnai bob blwyddyn. Mae ymwelwyr yn teithio i'r Brenig i gael cipolwg ar yr adar, mae gwirfoddolwyr yn rhoi oriau diflino i fonitro'r nyth, ac mae gwylwyr ar-lein yn gwylio pob ŵy, cyw bach a’r cywion sy'n barod i adael y nyth drwy ein camerâu byw.

Ond dydi eu stori nhw ddim yn digwydd ar hap.

Y tu ôl i bob tymor llwyddiannus mae tîm o staff a gwirfoddolwyr sy'n gweithio i warchod yr adar, monitro'r nyth, sgwrsio ag ymwelwyr, darparu gweithgareddau addysgol, cynnal technoleg ffrwd fyw a sicrhau bod y prosiect yn parhau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Gan ei bod yn mynd yn anoddach fyth sicrhau ffynonellau traddodiadol o gyllid cadwraeth, mae arnom ni angen eich help chi.

Bydd eich cyfraniad yn cefnogi gwaith parhaus Prosiect Gweilch y Pysgod y Brenig, gan gynnwys y canlynol:

  • Cadwraeth, monitro a gwarchod nythod y gweilch y pysgod
  • Offer camerâu byw a seilwaith digidol
  • Recriwtio, hyfforddi a chefnogi gwirfoddolwyr
  • Rhaglenni addysgol ac ymgysylltu cymunedol
  • Gwybodaeth a deunydd i ymwelwyr
  • Cydlynu a chyflwyno gweithgareddau hanfodol y prosiect

Os ydych chi’n rhoi £5, £25 neu £250, mae pob cyfraniad yn helpu i ddiogelu dyfodol Gweilch y Pysgod y Brenig a'r prosiect sy'n eu cefnogi.

Byddwch yn rhan o'r stori!

Pan rydych chi’n cyfrannu, rydych chi’n gwneud mwy na chefnogi prosiect bywyd gwyllt.

Rydych chi’n helpu i warchod rhywogaeth oedd wedi diflannu o Gymru fel aderyn magu ar un adeg. Rydych chi’n helpu pobl i gysylltu â natur. Rydych chi’n helpu i ysbrydoli cadwraethwyr y dyfodol.

Yn bwysicach na dim, rydych chi’n helpu i sicrhau bod gweilch y pysgod y Brenig yn parhau i ddychwelyd adref flwyddyn ar ôl blwyddyn.

Rhowch rodd heddiw a helpu i gynnal llwyddiant Prosiect Gweilch y Pysgod y Brenig.

Bydd unrhyw swm, mawr neu fach, o help!

Diolch i chi am eich cefnogaeth.

Cyfrannwch Nawr

Brenig Ospreys: Wildlife, People and Place fundraiser © Brenig Osprey Project