
Sut i wneud gardd ymyl coetir ar gyfer bywyd gwyllt
Mae posib creu ymyl coetir yn hawdd mewn llecyn maint gardd. Mae ychydig fetrau’n ddigon i sefydlu cynefin deinamig a fydd yn annog adar a glöynnod byw i alw heibio, llygod a draenogod i chwilota am fwyd ymhlith y sbwriel dail, a brogaod a llyffantod i aeafgysgu. Bydd mwsoglau a chennau’n ychwanegu melfed a lliw at y coesynnau noeth ac, yn y gwanwyn, bydd y llecyn yn basiant o flodau gwyllt, fel blodau'r gwynt, eirlysiau, briallu a chlychau'r gog.
Cynllunio eich gardd ymyl coetir:
Y nodwedd bwysicaf am ymyl coetir yw ei fod wedi’i wneud o wahanol haenau - po fwyaf o haenau sydd yno, y mwyaf o rywogaethau fydd yn galw heibio. Yn ddelfrydol, dylai'r uchder gynyddu o'r blaen i'r cefn i ganiatáu i gymaint o olau â phosibl gyrraedd i mewn:
- Coed yw asgwrn cefn unrhyw goetir. Os oes gennych chi le, y dderwen sydd ar frig y siartiau o ran nifer y gwahanol greaduriaid mae'n eu cynnal: 284 o rywogaethau o bryfed yn unig! Bydd coed llai fel criafol, celyn, afalau surion a drain gwynion yn darparu lloches ar gyfer anifeiliaid bach ac adar, yn ogystal ag aeron fel bwyd.
- Llwyni sy’n ffurfio'r haen o dan ganopi'r coed. Ymhlith y rhai sy'n gyfoethog mewn bwyd i fywyd gwyllt mae mwyar duon a rhosod gwyllt.
- Mae planhigion llysieuol a bylbiau wrth fôn ymyl y coetir yn denu gwenyn, glöynnod byw a phryfed eraill, ac yn darparu gorchudd daear i anifeiliaid llai.
Peidiwch â bod yn rhy daclus - mae'r deunyddiau planhigion sy'n pydru, sbwriel dail a phren sy'n pydru’n darparu ffynonellau bwyd a chynefinoedd i filoedd o wahanol fathau o organebau.
Sefydlu eich gardd ymyl coetir:
Mae nifer o bethau y gallwch chi eu gwneud i annog bywyd gwyllt i'ch gardd ymyl coetir ac i sefydlu'r plannu:
- Plannwch goed i ddechrau a chadw’r pridd o'u cwmpas yn glir tra byddant yn sefydlu.
- Ychwanegwch y llwyni, y bylbiau a’r planhigion llysieuol sy'n mwynhau cysgod brith o dan a rhwng y coed. Gadewch le i dyfu, ond cynnwys rhywfaint o orgyffwrdd i roi gorchudd parhaus i greaduriaid.
- Unwaith bydd yr haen uchaf yn ddigon cryf a thal, tyfwch rai planhigion dringo i mewn i'r canghennau. Mae eiddew a gwyddfid yn dda iawn i fywyd gwyllt.
- Ewch ati i godi cartrefi i fywyd gwyllt. Bydd amrywiaeth o focsys nythu’n annog titwod, Robin goch, gwybedogion, tylluanod ac adar eraill i nythu. Bydd gwenyn unigol yn defnyddio bwndeli o goesynnau planhigion gwag. Bydd ystlumod yn defnyddio bocsys ystlumod wedi'u gwneud o bren heb ei blaenio a heb unrhyw gadwolion arno, sydd wedi’u gosod ar foncyffion coed.
Gosodwch bren sydd wedi cwympo neu farw mewn pentyrrau i ddarparu cartref clyd i famaliaid bach, amffibiaid, pryfed a chwilod. Mae sbwriel dail yn darparu cynefin i chwilod hefyd, a phryfed genwair a gwlithod - pob un yn fwyd gwych i adar a draenogod.
Cofiwch gynnal a chadw eich gardd ymyl coetir:
- Peidiwch â bod yn rhy daclus - mae'r deunyddiau planhigion sy'n pydru, sbwriel dail a phren sy'n pydru’n darparu ffynonellau bwyd a chynefinoedd i filoedd o wahanol fathau o organebau. Dim ond os ydyn nhw’n beryglus ddylech chi dorri coed marw i lawr.
- Cadwch lygad ar y llwyni mwyar duon - er ei bod yn well gadael llonydd i bopeth gan amlaf, efallai y bydd angen i chi dynnu rhai o goesynnau mwy bygythiol y rhosod gwyllt a'r mwyar duon.
- Rhowch gynnig ar docio – arfer traddodiadol mewn coetiroedd. Mae hyn yn cynnwys torri holl goesynnau’r rhywogaethau fel ysgaw, cyll, bedw a derw yn ôl i ychydig uwchben y ddaear. Mae hyn yn atal y canopi rhag mynd yn rhy drwchus. Dim ond bob ryw ddwy flynedd y mae angen i chi wneud hyn.
- Defnyddiwch domwellt – mae'n ddefnyddiol gosod tomwellt o amgylch bôn y planhigion pan fyddant yn sefydlu, gyda haen o ddail sbwriel; bydd hyn yn cadw’r lleithder yn y pridd.
Cyngor doeth
- Sefydlwch pa blanhigion sydd fwyaf addas drwy edrych ar yr hyn sy'n tyfu mewn coedwigoedd cyfagos.
- Plannwch rywogaethau llydanddail brodorol oherwydd byddant yn cynnal mwy o fioamrywiaeth na chonwydd a phlanhigion sy’n cael eu cyflwyno.
- Wrth blannu coed, byddwch yn ymwybodol bod gwreiddiau coed yn ymledu'n llorweddol, felly cadwch nhw oddi wrth strwythurau adeiledig ac ardaloedd eraill y gallent effeithio arnyn nhw, fel pyllau a nentydd.
- Casglwch ddail sydd wedi cwympo yn yr hydref i wneud llwydni dail a'u cadw nhw mewn sachau plastig (wedi'u tyllu ar gyfer awyriad) yn rhywle allan o'r ffordd. Flwyddyn yn ddiweddarach, bydd gennych chi gyflenwad hyfryd o domwellt!
Y planhigion a awgrymir:
- Alder Alnus glutinosa
- Bramble Rubus fruticosus
- Bugle Ajuga reptans
- Common Hawthorn Crataegus monogyna
- Crab Apple Malus sylvestris
- Dog-rose Rosa canina
- Elder Sambucus nigra
- English Bluebell Hyacinthoides non-scripta
- English Oak Quercus robur
- Foxglove Digitalis purpurea
- Hazel Corylus avellana
- Holly Ilex aquifolium
- Honeysuckle Lonicera periclymenum
- Ivy Hedera helix
- Ox-eye Daisy Leucanthemum vulgare
- Primrose Primula vulgaris
- Red Campion Silene dioica
- Rowan Sorbus aucuparia
- Silver Birch Betula pendula
- Snowdrop Galanthus nivalis
- Stinking Hellebore Helleborus foetidus
- Wood Anemone Anemone nemorosa
- Wood Betony Stachys officinalis