Helpu bywyd gwyllt yn y tywydd poeth

Helpu bywyd gwyllt yn y tywydd poeth

Helpwch fywyd gwyllt mewn tywydd poeth a rhoi help llaw. Cadwch eich gorsafoedd dyfrio’n llawn dŵr, a gadewch i rywfaint o'ch gardd dyfu'n wyllt i ddarparu cysgod i anifeiliaid.

Wrth i dywydd poeth a thonnau gwres ddigwydd yn amlach oherwydd newid hinsawdd, mae ffyrdd y gallwch chi helpu bywyd gwyllt eich gardd i ymdopi.

Gall hyd yn oed newid bach wneud gwahaniaeth mawr, felly cymerwch ran a gadael i'ch gardd dyfu er budd byd natur.

Birds in a bird bath infographic

Darparu dŵr i fywyd gwyllt

Gadewch ddysgl fas o ddŵr allan ar gyfer adar, mamaliaid a phryfed sychedig.

Bydd gosod cerrig mewn dysgl yn helpu unrhyw bryfed sy’n syrthio i mewn, ac yn darparu mannau glanio defnyddiol iddyn nhw gael diod hefyd.

Newidiwch y dŵr bob dydd i helpu i gadw adar yn iach a heb glefydau.

Filling up a bird bath with water

Llenwi’r bath adar

Mae angen dŵr ar adar i ymolchi er mwyn cadw eu plu mewn cyflwr da, felly gall darparu bath adar fod o help mawr. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n newid y dŵr bob dydd - gallwch ddefnyddio dŵr glaw sy’n casglu mewn casgen ddŵr.

Cofiwch lanhau pob bath adar bob wythnos i helpu adar i beidio â dal clefydau.

frog hiding in the shade under logs infographic

Darparu digon o gysgod rhag yr haul

Bydd ychwanegu pentwr o foncyffion, gardd gerrig ac ardaloedd o laswellt tal at eich gardd yn darparu cysgod i frogaod, llyffantod a madfallod dŵr sy'n chwilio am loches rhag yr haul.

Topping up a pond with a hose infographic

Ychwanegu dŵr at eich pwll

Mae posib llenwi pyllau sy'n isel. Y ffordd orau o wneud hyn ydi drwy gasglu dŵr glaw.

Os ydi eich casgen ddŵr neu eich barel glaw yn wag, mae posib defnyddio dŵr tap, ond dim ond ychydig ar y tro. Yn ddelfrydol, gadewch i'r dŵr tap sefyll am 24 awr cyn ei ychwanegu at eich pwll.

Cofiwch wneud yn siŵr bod gan eich pwll lwybrau hawdd i ddod allan ohono i fywyd gwyllt sy’n syrthio i mewn efallai, fel draenogod.

A graphic showing a bright sun in the corner, a plant pot on its side next to long grass and rocks. A frog is sat in the long grass. It depicts a messier garden

Cadw pethau’n flêr

Bydd ardaloedd gwylltach yn yr ardd yn darparu cysgod a lloches i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt, felly peidiwch â bod yn rhy daclus.

Sut i baratoi cyn poethdon

Does dim rhaid i chi aros nes bod poethdon yn taro i baratoi eich gardd ar gyfer tywydd poeth.
 

Gosodwch gasgenni dŵr yn yr ardd

Drwy gasglu dŵr glaw drwy gydol y flwyddyn, fe fyddwch chi’n barod pan fydd tywydd poeth yn taro. Mae hyn yn galluogi i chi gadw pyllau, y bath adar a ffynonellau eraill o ddŵr yn llawn ar gyfer bywyd gwyllt. Mae hefyd yn lleihau eich dibyniaeth chi ar ddŵr tap i ddyfrio'ch planhigion – sy’n bwysig iawn yn ystod sychder.

Sut i osod casgen ddŵr yn yr ardd
 

Creu gardd sy'n wydn o ran yr hinsawdd

Dilynwch ein cynghorion campus ni ar gyfer lleihau eich risg llifogydd a gwres

Sut i greu gardd sy'n wydn o ran yr hinsawdd