Creu tudalen 'er cof'

Remember a Charity in your Will

© IStock photolibrary

CEFNOGWCH NI

Creu tudalen 'er cof'

Mae’n fraint i ni dderbyn rhoddion er cof am anwyliaid.

Gallwn greu tudalen ‘er cof’ arbennig ar ein gwefan ar gyfer ffrind neu rywun annwyl – yn syml, llenwch y ffurflen isod a byddwn mewn cysylltiad cyn gynted â phosibl gyda thudalen i chi ei chymeradwyo. Gall gymryd diwrnod neu ddau i ni sefydlu hyn, ond byddwn yn sicrhau ei bod yn barod cyn gynted ag y gallwn ni.

Gweld enghraifft

Sefydlu tudalen 'er cof'

Cofiwch: byddwn yn creu'r dudalen 'er cof' gan ddefnyddio’r iaith rydych chi’n ei defnyddio i lenwi'r ffurflen isod. Os hoffech chi i ni gynnwys y Gymraeg a’r Saesneg, darparwch y testun yn y ddwy iaith.

Os oedd y person a fu farw yn arbennig o hoff o warchodfa natur gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, gallwch ddweud wrthym - a byddwn yn dewis llun sydd gennym eisoes ar gyfer y prif 'bennawd' ar ei dudalen 'er cof'.
 
Defnyddiwch yr adran hon i ysgrifennu unrhyw beth rydych yn ei hoffi am y person rydych yn codi arian er cof amdano ac yr hoffech iddo gael ei arddangos ar ei dudalen 'er cof'. Efallai yr hoffech chi ddweud ychydig wrthym am hanes ei fywyd? Neu pam rydych chi'n meddwl y byddai wedi dewis Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru i elwa ar ôl ei farwolaeth? Chi sydd i ddewis.               
 
Yma, gallwch chi hefyd uwchlwytho hyd at 5 llun - o'r person sydd wedi marw? Neu le sy'n bwysig iddo? Chi sydd i ddewis.

 
£
Sylwch fod hyn yn gwbl ddewisol - nid oes angen gosod 'targed' os nad ydych eisiau gwneud hynny. Bydd y dudalen 'er cof' yn dal i ddangos cyfanswm sy’n rhedeg.
 
(e.e.) tad, mam, brawd, chwaer, ffrind, cydweithiwr