Gwyddau di-ri

Gwyddau di-ri

© David Tipling/2020VISION

Gwyddau di-ri

Pryd bynnag y byddwch chi’n ymweld â thir gwlyb neu lyn lleol, rydych chi’n debygol o weld gwyddau. Mae gwyddau Canada, sydd â gwddw du hir a darn gwyn ar eu hwyneb, a gwyddau llwyd, sydd â phig oren swmpus. Efallai y gwelwch chi wyddau’r Aifft hyd yn oed, sydd â fflach o wyn ar bob adain a chlegar swnllyd sy’n swnio fel lori’n gyrru am yn ôl. Yn aml, mae’r gwyddau yma’n hyderus ac yn hawdd mynd yn agos atyn nhw, yn enwedig mewn parciau.

Ond bob gaeaf, mae cannoedd ar filoedd o grwydriaid gwylltach yn ymuno â ni. Gwyddau sy’n croesi moroedd cynddeiriog i gyrraedd y DU, gan chwilio am fwyd a thywydd cynhesach. Maen nhw’n teithio fel teuluoedd fel rheol, gan ymuno ag eraill i ffurfio heidiau trawiadol. Maen nhw’n llenwi’r awyr gyda sŵn wrth iddyn nhw gyrraedd, gan lanio ar aberoedd, tiroedd gwlyb a chaeau. Gyda mwy na saith rhywogaeth i’w darganfod, mae’r gaeaf yn amser gwych i fynd ar drywydd gwyddau gwyllt! Beth am i ni gwrdd â rhai o ymwelwyr y gaeaf…

skeins of pink-footed geese flying through a pale blue sky with clouds lit pinkish orange by the sun

Pink-footed geese © Guy Edwardes/2020VISION

Gwyddau troedbinc

Yr ŵydd droedbinc ydi’r ŵydd fwyaf niferus i aeafu yma gyda thua hanner miliwn o’r adar hyfryd yma’n teithio i’r DU, o Wlad yr Iâ a’r Ynys Las yn bennaf. Maen nhw’n hedfan mewn siâp ‘V’, gan wneud sŵn ‘winc winc’ yn gyson yn un corws swnllyd. Fe fyddwch chi’n eu clywed nhw ymhell cyn i chi eu gweld yn aml! Mae gwyddau troedbinc yn tueddu i ymgynnull o amgylch aberoedd ac maen nhw’n arbennig o gyffredin yn yr Alban, Sir Caerhirfryn a Norfolk.

Mae heidiau mawr o wyddau troedbinc yn gallu cynnwys rhywogaethau prinnach weithiau, sydd wedi ymuno â nhw wrth iddyn nhw fudo. Mae bob amser yn werth edrych yn ofalus i weld a oes gwyddau talcenwyn, gwyddau llafur neu rywbeth prinach fyth efallai.

Mae gwyddau troedbinc hefyd yn creu un o olygfeydd gwyllt gorau’r gaeaf! Yn ystod y dydd, mae’r heidiau’n gwasgaru i bori mewn caeau. Maen nhw’n dod at ei gilydd eto gyda’r nos, pan fyddan nhw’n clwydo ar diroedd gwlyb neu aberoedd. Ar doriad y wawr ac yn y gwyll, maen nhw’n llenwi’r awyr, gan greu cacoffoni o adenydd yn curo a chrîo gwichlyd - golygfa y mae’n rhaid ei gweld (a’i chlywed) i’w chredu.  

Pink-footed Goose

©David Tipling/2020VISION

Gwyddau talcenwyn

Edrychwch ar ŵydd llawn dwf ac mae'n hawdd gweld o ble cafodd y gwyddau yma eu henw. Mae ganddyn nhw ddarn gwyn disglair ar eu talcen! Nodwedd nodedig arall ganddyn nhw ydi'r marciau du ar eu bol. Mae rhai miloedd yn cyrraedd y DU bob gaeaf, o Rwsia neu'r Ynys Las. Mae'r adar o Rwsia’n ymweld â'r de a'r dwyrain yn bennaf, tra bo’r adar o'r Ynys Las yn teithio tua’r gorllewin i’r Alban ac Iwerddon. Mae gwyddau talcenwyn yr Ynys Las ychydig yn fwy ac yn dywyllach, gyda rhesi du amlycach ar eu bol a phig sy'n oren yn bennaf (mae pig yr adar o Rwsia’n fwy pinc).

White-fronted Goose

©David Tipling/2020VISION

Gwyddau llafur

Mae dwy rywogaeth o wyddau llafur i'w gweld yn y DU, er nad ydi'r naill na'r llall yn gyffredin. Mae'r ddwy rywogaeth wedi cael eu henwi ar ôl eu tiroedd nythu yn yr haf. Mae’r gwyddau llafur taiga yn nythu mewn corsydd a mawnogydd coediog ar draws Sgandinafia a Rwsia, mewn ardal sy’n cael ei galw yn taiga (neu goedwig foreol). Mae’r gwyddau llafur twndra’n nythu ymhellach i'r gogledd, ar dwndra'r Arctig yn Siberia. Mae'r ddwy yn wyddau llwyd mawr gyda choesau oren a marciau oren ar eu pig.

Yn draddodiadol, mae gwyddau llafur taiga wedi treulio'r gaeaf mewn dau leoliad ym Mhrydain: Llwyfandir Slamannan yn yr Alban a Dyffryn Yare yn Norfolk. Fodd bynnag, mae eu niferoedd wedi gostwng yn ystod y degawdau diwethaf. Bellach, dim ond yn yr Alban y mae posib eu canfod yn gyson. Pur anaml maen nhw i’w gweld mewn mannau eraill, er bod gaeaf 2025-2026 wedi gweld cynnydd anarferol yn nifer yr adroddiadau amdanynt ar draws ardaloedd gogleddol y DU. Gwyddau llafur taiga yw'r rhywogaeth fwyaf o’r ddwy. Mae ganddyn nhw big hirach hefyd, sy'n fwy oren yn aml – er gall patrwm pig rhai ohonyn nhw fod yn debycach i batrwm pig gwyddau llafur twndra.

Mae gwyddau llafur twndra yn ymwelwyr afreolaidd â'r DU, gan ymddangos fel rheol yn ne a dwyrain Lloegr, gyda mwy ohonyn nhw’n dod pan fydd y tywydd yn arbennig o arw ar gyfandir Ewrop. Dim ond mewn niferoedd bach maen nhw i’w gweld ac maen nhw’n ymuno yn aml â heidiau o wyddau troedbinc wrth iddyn nhw fwydo mewn caeau. Maen nhw ychydig yn llai na gwyddau llafur taiga, gyda phig byrrach sydd â darn oren bach ger y blaen.

A tundra bean goose standing in a field. It's a large brown and grey goose with orange legs and an orang band on its beak

Tundra bean goose © Pete Richman

Gwyddau gwyran 

Mae gwyddau gwyran yn ymwelwyr gaeaf o'r Ynys Las a Svalbard, lle maen nhw’n nythu'n uchel ar glogwyni yn yr Arctig yn aml. Mae'n ddechrau peryglus i fywyd. Rhaid i'r cywion sydd newydd ddeor neidio i'r ddaear islaw, gan syrthio a bownsio oddi ar greigiau wrth iddyn nhw rolio i'r gwaelod. Pan maen nhw wedi tyfu digon i hedfan, maen nhw’n ymuno â'u rhieni ar siwrnai fudo’r hydref tua'r de.

Maen nhw’n ymweld yn bennaf â'r Alban, gogledd orllewin Lloegr a Gogledd Iwerddon. Maen nhw i’w gweld fel rheol yn agos at yr arfordir, yn bwydo ar wastadeddau llaid neu gaeau cyfagos. Yn y gwanwyn, maen nhw’n anelu tua'r gogledd, yn ôl i'w tiroedd nythu yn yr Arctig.

Mae rhai gwyddau gwyran yn byw yn y DU drwy gydol y flwyddyn. Mae’r rhain yn cael eu hadnabod fel poblogaeth wedi naturioli. Y gred ydi bod y gwyddau yma’n ddisgynyddion i wyddau gwyran wnaeth ddianc o gasgliadau, neu a gyrhaeddodd o boblogaethau ar gyfandir Ewrop.

Barnacle Goose

©David Tipling/2020VISION

Gwyddau duon

Yr adar du a gwyn hardd yma ydi'r gwyddau lleiaf rydych chi’n debygol o'u gweld yn y DU a dydyn nhw’n fawr mwy na hwyaden wyllt. Mae dwy is-rywogaeth o wyddau duon yn ymweld â ni bob gaeaf. Maen nhw’n dod o diroedd magu gwahanol ac yn ffafrio cyrchfannau gaeafu gwahanol hefyd.

Mae gwyddau duon bol tywyll yn cyrraedd o dwndras corsiog Siberia. Maen nhw’n anelu am dde ddwyrain Prydain, o arfordir Swydd Efrog rownd draw i Gernyw. Daw gwyddau duon bol golau o Ganada a Svalbard. Mae'r adar o Ganada’n treulio'r gaeaf o amgylch Strangford Lough yng Ngogledd Iwerddon yn bennaf, a’r rhai o Svalbard yn teithio i Holy Island yn Northumberland. Bob blwyddyn bron, mae ychydig o wyddau duon Siberia i’w gweld yn y DU hefyd – mae'r rhain yn dod o Arctig Canada neu ddwyrain Siberia.

Yn y gaeaf, mae gwyddau duon yn adar arfordirol, gan ymweld â baeau mwdlyd, aberoedd, morfeydd heli a thiroedd gwlyb arfordirol. Maen nhw’n arbennig o hoff o fwydo ar wellt y gamlas. 

Two dark-bellied brent geese standing in a pool of water

Brent geese © David Tipling/2020VISION

Rhyfeddodau prin

Bob gaeaf, mae gwylwyr adar yn mentro allan yn yr oerfel i archwilio heidiau o wyddau gyda sbienddrych a thelesgopau, gan obeithio gweld rhywbeth anarferol. Mae gwyddau prin sydd wedi cymryd y tro anghywir ac wedi cyrraedd y DU yn aml yn gymysg â heidiau o wyddau mwy cyffredin ac wedi eu dilyn efallai bob cam o’u tiroedd magu. Efallai bod gŵydd frongoch yn ychwanegu fflach o liw at haid o wyddau duon, neu ŵydd dalcenwyn fach yn llechu ymysg ei pherthnasau ychydig yn fwy, y gwyddau talcenwyn.

Yn wahanol i wyddau Canada a gwyddau llwyd, sydd i’w gweld mewn parciau, mae’r heidiau o wyddau mudol yn swil yn aml ac yn hawdd eu dychryn. Mae’n well bob amser eu gwylio o bell, er mwyn sicrhau nad oes unrhyw darfu arnyn nhw. Bydd hyn yn rhoi mwy o amser i chi eu hedmygu ac, efallai, dod o hyd i rywogaeth brin yn cuddio yn eu plith hyd yn oed!

Two red-breasted geese standing in a field. They are small black and white geese with a red breast and cheek

Red-breasted geese © Pete Richman

Geese galore! © The Wildlife Trusts