Grass snake ©David Chamberlain
Neidr y gwair
Neidr y gwair ydi ein neidr hiraf ni, ond peidiwch â phoeni os dewch chi o hyd i un yn y domen gompost - mae'n ddiniwed! Chwiliwch am y neidr wyrdd a melyn hardd yma mewn glaswelltiroedd a gwlybdiroedd hefyd.
Enw gwyddonol
Natrix helveticaPryd i'w gweld
Ebrill i HydfrefSpecies information
Categori
Ystadegau
Hyd: 90-150cmPwysau: 240g
Oes y gyfartaledd: 15 i 25 mlynedd
Statws cadwraethol
Wedi'i gwarchod yn y DU o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad, 1981. Rhywogaeth Flaenoriaeth o dan Fframwaith Bioamrywiaeth Ôl-2010 y DU.
Ynghylch
Mae ein neidr fwyaf ni, neidr y gwair, yn arbennig o hoff o gynefinoedd gwlybdir, ond mae posib ei chanfod hefyd mewn glaswelltiroedd sych ac mewn gerddi, yn enwedig y rhai sydd â phwll gerllaw. Yn ystod yr haf, mae posib gweld nadroedd y gwair yn torheulo yn yr haul ger eu hoff byllau neu'n nofio yn y dŵr.Maen nhw’n hela amffibiaid, pysgod, mamaliaid bach ac adar. Mae'r benywod yn dodwy 10 i 40 o wyau mewn llystyfiant sy’n pydru, fel tomenni compost, gan ori arnynt nes eu bod yn deor yn gynnar yn yr Hydref. Fel pob ymlusgiad, mae nadroedd y gwair yn gaeafgysgu, o fis Hydref i fis Ebrill fel arfer.
Nodyn
Mae poblogaeth Prydain o nadroedd y gwair yn perthyn i'r is-rywogaeth benodol natrix natrix helvetica, ond cynigiodd ymchwil newydd a gyhoeddwyd ym mis Awst 2017 y dylid ei dyrchafu i statws rhywogaeth lawn, gyda'r enw neidr y gwair resog, natrix helvetica.
Sut i'w hadnabod
Mae neidr y gwair yn lliw gwyrdd fel arfer, gyda choler ddu a melyn, bol golau, a marciau tywyll i lawr yr ochrau. Mae'r benywod yn fwy na'r gwrywod.Dosbarthiad
Yn eang ei dosbarthiad yng Nghymru a Lloegr, ond yn absennol o'r Alban, Gogledd Iwerddon, Ynysoedd Sili a'r rhan fwyaf o Ynysoedd y Sianel (mae i'w gweld ar Jersey).Roeddech chi yn gwybod?
Pan gaiff ei bygwth gan un o'i nifer o ysglyfaethwyr, mae neidr y gwair yn ffugio bod wedi marw, gan wneud ei hun yn llai deniadol i'w bwyta efallai. Mae ei hysglyfaethwyr yn cynnwys moch daear, llwynogod, cathod dof, draenogod a nifer o adar; pan gânt eu dal, mae nadroedd y gwair yn hisian ac yn rhyddhau sylwedd drewllyd o'u chwarren refrol. Er y gallant daro gyda’u pen hefyd, dydyn nhw ddim yn brathu a dydyn nhw ddim yn berygl i bobl.Gwyliwch
Grass snake (https://vimeo.com/646956073)
Russell Savory