Madfall

common lizard

© Ross Hoddinott/2020VISION

Common lizard

©Jon Hawkins Surrey Hills Photography

Madfall

Cadwch lygad am fadfall yn torheulo yn yr haul cynnes wrth i chi grwydro o amgylch rhostiroedd, rhosydd a glaswelltiroedd. Efallai y byddwch chi hyd yn oed yn ddigon ffodus i weld un yn eich gardd hefyd!

Enw gwyddonol

Zootoca vivipara

Pryd i'w gweld

Mawrth i Hydref

Species information

Ystadegau

Hyd: 10 i 15cm
Oes ar gyfartaledd: 5 i 6 mlynedd

Statws cadwraethol

Wedi'i gwarchod yn y DU o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad, 1981. Rhywogaeth Flaenoriaeth o dan Fframwaith Bioamrywiaeth Ôl-2010 y DU.

Ynghylch

Y fadfall yw’r ymlusgiad mwyaf cyffredin ac eang ei ddosbarthiad yn y DU; dyma'r unig ymlusgiad sy'n frodorol i Iwerddon. Mae i’w gweld ar draws llawer o gynefinoedd, gan gynnwys rhostir, rhos, coetir a glaswelltir, lle mae posib ei gweld yn torheulo mewn llecynnau heulog.

Yn cael ei hadnabod hefyd fel y 'fadfall fywesgorol', mae'r fadfall yn anarferol ymhlith ymlusgiaid gan ei bod yn deor ei hwyau y tu mewn i'w chorff ac yn 'rhoi genedigaeth' i epil byw yn hytrach na dodwy wyau. Mae’r oedolion yn dod allan o aeafgwsg yn y gwanwyn, gan baru ym misoedd Ebrill a Mai, a chynhyrchu tri i un ar ddeg o rai bach ym mis Gorffennaf.

Sut i'w hadnabod

Mae lliw y fadfall gyffredin yn amrywiol, ond fel arfer mae'n llwydfrown, gyda rhesi o smotiau neu streipiau tywyllach i lawr y cefn a'r ochrau yn aml. Mae gan y gwrywod ochr isaf oren neu felyn llachar gyda smotiau, a’r benywod foliau goleuach, plaen.

Dosbarthiad

Mae i’w gweld ledled y wlad, ac eithrio'r rhan fwyaf o ynysoedd yr Alban, Ynysoedd Sili ac Ynysoedd y Sianel. Yr unig ymlusgiad sy'n frodorol i Iwerddon.

Roeddech chi yn gwybod?

Os caiff ei bygwth gan ysglyfaethwr, bydd y fadfall yn bwrw ei chynffon sy'n dal i symud er mwyn tynnu sylw ei hymosodwr a dianc yn gyflym. Mae hyn yn gadael craith ar ei hôl, ond gall aildyfu ei chynffon, er ei bod fel arfer yn fyrrach na'r gwreiddiol.