Arolwg Gwenoliaid duon

A group of four swifts, small dark birds with scythe shaped wings, in flight at dusk.

swifts in flight © volunteer Gary Eisenhauer

Adfer y Gwenoliaid duon

Arolwg Gwenoliaid duon

Dyma sut rydym yn awgrymu eich bod yn cynnal arolwg eich hun ar wenoliaid duon:

  • Dewiswch lecyn yn eich ardal leol – un y gallwch gerdded iddo o’ch tÅ·, neu o fewn 5 milltir, a cheisiwch ddechrau arsylwi rhwng 8:30 a 9pm, ac wedyn dal i wylio tan y gwyll os yw hynny’n bosib.
  • Gallwch gofnodi fel unigolyn, neu deulu/cartref, ond cofiwch ddarllen canllawiau Llywodraeth Cymru ar y coronafeirws a chadw’n ddiogel. Hefyd cymerwch ofal ar ffyrdd a byddwch yn ymwybodol o gerddwyr eraill a thraffig, yn enwedig wrth iddi dywyllu. Gwisgwch ddillad golau/eitemau adlewyrchol.
  • Gallwch naill ai gerdded llwybr penodol a stopio i gofnodi unrhyw weithgarwch gan wenoliaid duon welwch chi, neu ddewis safle lle mae gwenoliaid duon i’w gweld, neu lle rydych yn amau eu bod i’w gweld, a chofnodi yno yn unig. Cofiwch barchu cartrefi pobl – byddwch yn ddoeth a pheidiwch ag oedi os yw’n teimlo eich bod yn amharu ar breifatrwydd pobl.       
  • Gwnewch nodyn o nifer y gwenoliaid duon yn y lleoliadau a beth oedden nhw’n ei wneud – h.y. a oedden nhw’n hedfan yn uchel, cylchu neu hedfan yn gyflym heibio ar uchder y to ac yn galw’n uchel (parti sgrechian). Mae’n hynod ddefnyddiol cael gwybodaeth am weld gwennol ddu yn mynd i mewn i adeilad neu’n dod allan ohono o dan fondo tÅ· neu focs nythu. Ni fydd arnoch angen sbienddrych fwy na thebyg, ond cofiwch dynnu llun y gwenoliaid duon neu eu ffilmio, os yw hynny’n bosib.
  • Wedyn cofnodwch yr hyn rydych chi wedi’i weld ar dudalen Adferiad y Gwenoliaid Duon yn Cofnod: https://www.cofnod.org.uk/LinkInfo?ID=10 (mae gwybodaeth am ddweud y gwahaniaeth rhwng gwenoliaid duon a gwenoliaid cyffredin neu wenoliaid eraill ar gael yma hefyd os oes arnoch ei hangen). Os nad ydych wedi cofrestru eisoes gyda Cofnod, nid yw’n cymryd llawer o amser ac wedyn fe allwch chi roi data ar y safle. Mae’r wybodaeth yma’n creu darlun o ble mae’r gwenoliaid duon yn magu yng Ngogledd Cymru a gallai helpu i warchod eich gwenoliaid duon lleol yn wyneb y bygythiadau posib.

Cyngor doeth

  • Gwrandewch am eu cri yn gynnar gyda’r nos – gall hyn helpu i ganfod gwenoliaid duon uwch ben.
  • Efallai y clywch chi wenoliaid duon yn galw o’r tu mewn i nyth – gallwch gofnodi hyn fel ymgais i nythu.            
  • Cofiwch fod gwenoliaid duon yn mynd i mewn i/dod allan o adeiladau yn gyflym iawn felly maen nhw’n gallu bod yn anodd eu hadnabod.
  • Mae’r partïon sgrechian yn cynnwys ‘cylched’ yn aml a all gynnwys mwy nag un safle nythu posib.
  • Ceisiwch ddod o hyd i fannau gwylio lle gallwch chi weld mwy nag un safle nythu ar y tro.  

Â