Ymunwch ag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ar lwybr sain i archwilio Comin Mynydd Helygain, un o diroedd comin mwyaf Cymru. Yn ganolbwynt llewyrchus ar gyfer mwyngloddio plwm ar un adeg, mae’r Comin hynod yma’n gartref bellach i gynefin glaswelltir cyfoethog, sy’n hanfodol ar gyfer amrywiaeth o blanhigion, pryfed, ymlusgiaid ac adar.
Crwydrwch drwy'r dirwedd eang yma sydd wedi cael ei siapio gan ganrifoedd o weithgarwch gan bobl. Darganfyddwch ei gorffennol diwydiannol a’i harddwch naturiol wrth fwynhau golygfeydd panoramig o Fryniau Clwyd ac Aber Afon Dyfrdwy.
Gwybod cyn mynd:
Dechrau’r llwybr & parcio: B5123, Treffynnon CH8 8DJ (Google maps) What3words: scanty.proceeds.ankle
Dilynwch ffordd y B5123 allan o bentref Helygain i gyfeiriad Rhosesmor. Ar ôl tua 600 metr o’r Blue Bell Inn, fe welwch chi gilfan raean ar y dde, sy’n cynnig lle parcio ar gyfer eich taith (SJ 208 700)
Pellter: 2.6 filltir / 4.2 km Amser (gan gynnwys y sain): 2.5 awr
Mynediad: Mae'r llwybr yma’n cynnwys bryniau a thir anwastad sy’n gallu bod yn gorsiog yn y gaeaf. Argymhellir gwisgo esgidiau cerdded cryf. Er bod croeso i chi grwydro’r Comin agored, cofiwch barchu’r trigolion, cadwch gŵn dan reolaeth oherwydd da byw sy’n pori’n rhydd, a chadwch at lwybrau sydd wedi cael defnydd da. Arolwg Ordnans Explorer Map: 265
Rhybudd: Mae'r Comin yn frith o siafftiau mwyngloddio wedi'u capio mewn cyflyrau amrywiol, a gall rhai ohonyn nhw fod yn ddwfn ac yn fertigol. Rhowch wybod am unrhyw siafftiau sydd wedi'u hailagor i'r perchennog tir, Stad Grosvenor. Rheolwr y Stad, Swyddfa Stad Eaton, Eccleston, Caer CH4 9ET Rhif Ffôn: 01244 684400
I ddechrau:
Lawrlwythwch y map gan ddefnyddio'r ddolen isod. Dilynwch y llwybr a gwrandewch ar y pwyntiau sain sydd wedi’u nodi ar y map i ddarganfod mwy am y llecyn arbennig yma.
(opsiynol)
Llawrlwythwch sgript y llwybr sain
Llawrlwythwch y sain llawn
Ar ôl cyrraedd y lleoliad priodol gallwch clicio i wrando ar y clip sain priodol drwy’r linc islaw
Cavern in Halkyn mountain, 2002 ©The Holywell and District Society part of Brian Taylor's Collection (www.peoplescollection.wales)
Pantymwyn Vein between Milwr Tunnel & Cae Mawr Shaft 1982 (cambrianmines.co.uk) ©Holywell and District Society- Brian Taylor's Collection (www.peoplescollection.wales)
Halkyn mines c.1930 ©Holywell and District Society part of Brian Taylor's Collection (www.peoplescollection.wales)
Loco wagons from Halkyn Mine now in Greenfield Valley, ©Holywell and District Society part of Brian Taylor's Collection (www.peoplescollection.wales)

Stonechat ©Vaughn Matthews
1. Croeso
Mae cyfarwyddiadau’n cael eu darparu ar ddiwedd pob trac i'ch arwain chi i’r lleoliad ble gallwch chi wrando ar ran nesaf y llwybr sain.
Gyda'r ffordd y tu ôl i chi, dilynwch y llwybr glaswellt gan ddal i'r chwith. Dilynwch y llwybr glaswellt o dan y llinellau pŵer, cyn cyrraedd y bythynnod o’ch blaen. Chwaraewch glip sain 2.

© John Bridges
2. Tirwedd fyw
Wrth i chi gyrraedd y bythynnod, trowch i'r chwith i'r lôn darmac un trac i gyrraedd y brif ffordd. Trowch i'r dde i fynd heibio i arosfan bws a blwch postio. Trowch i’r dde i lawr yr ail droad ar hyd y trac graean ychydig cyn yr arwyddion ffordd 40mya.
Pan mae'r trac yn fforchio, cadwch i'r dde ac wedyn ewch yn syth i'r chwith ar hyd y llwybr glaswellt i gyrraedd cyffordd groes o laswellt. Trowch i’r dde i lawr yr ail droad a dilynwch y llwybr gan ddringo i fyny'r allt i weld golygfa banoramig hyfryd o'r dirwedd o amgylch ar gopa Moel y Gaer. Yma fe allwch chi chwarae clip sain 3.

View from Moel Y Gaer hillfort ©Craig Wade NWWT
3. Y Gaer arswydus
Dilynwch eich camau yn ôl i'r gyffordd laswellt a chymryd yr ail droad i'r dde i lawr yr allt. Dilynwch y llwybr glaswellt drwy’r giât, gan fynd heibio i nifer o dai ar y dde i chi.
Cyn cyrraedd yr eglwys, trowch yn sydyn i'r dde a chymerwch ofal wrth ddilyn y ffordd drwy’r giât grid gwartheg. Ar y dde i chi fe welwch chi strwythur carreg a mainc, chwaraewch glip sain 4 yma.

© NWWT- Craig Wade
4. Gwaddol calch
Ewch yn eich blaen heibio i'r odyn galch a chymryd y troad cyntaf i'r dde ar ôl adeilad y fferm. Mae eich stop nesaf chi wrth ymyl y gilfan gyntaf ar y dde i chi ar hyd y llwybr graean yma. Gan roi sylw gofalus i’r ffordd, chwaraewch glip sain 5 yma.

Brachiopods fossilised in limestone ©Craig Wade NWWT
5. Cerfluniwyd gan ddaeareg
Ewch yn eich blaen yn syth ar hyd y trac graean, gan fynd heibio i nifer o dai ar y chwith. Wrth i'r trac ddod i ben wrth ymyl Bryn-Tirion, ymunwch â'r llwybr glaswellt o'ch blaen rhwng y ddau bolyn telegraff. Yma, chwaraewch eich clip sain nesaf, sef rhif 6.
© Vaughn Matthews
6. Coblynnod neu mwyngloddwyr y tylwyth teg
Ewch yn eich blaen ar hyd y llwybr glaswellt tuag at y tŷ ar wahân sy’n lliw hufen. Mae’r ardal yma’n gallu bod yn gorsiog, os felly, dilynwch lwybr dargyfeirio ar y dde. Trowch i'r chwith wrth y gyffordd laswellt i lawr yr allt. Wedyn cymryd y troad cyntaf ar y dde tuag at y ffordd y gallwch chi ei gweld yn codi dros ael y bryn.
Peidiwch ag ymuno â’r ffordd darmac. Yn lle hynny, ewch i'r dde o flaen yr arwydd ffordd chevron ac ar hyd y trac graean. Pan fydd y llwybr graean yn gwyro i'r dde, ewch yn eich blaen ar y llwybr glaswellt i gyrraedd y stop nesaf gyda'r pwll mawr ar y chwith i chi. Chwaraewch glip sain 7.

Halkyn mines c.1930 ©Holywell and District Society part of Brian Taylor's Collection (www.peoplescollection.wales)
7. Drysfa danddaearol
► Chwaraewch sain
Ewch yn eich blaen ar hyd y llwybr glaswellt yn raddol i lawr allt. Cyn i chi gyrraedd dau bwll o boptu’r llwybr gyda lympiau a bympiau hen domen fwyngloddio o’ch blaen, chwaraewch glip sain 8.
© Philip Precey
Wrth y groesffordd, dilynwch y llwybr troellog i fyny'r allt i'r dde. Bydd y llwybr glaswellt llydan yn mynd â chi yn ôl i ddechrau’r llwybr.
Diolch o galon i drigolion Mynydd Helygain, Treffynnon a'r Cylch a Grŵp Cadwraethol Natur Mynydd Helygain, am eu mewnbwn drwy helpu greu y gwybodaeth ym y llwybr sain yma.”
Hefyd ar gael ar yr app Lleoliadau a Llwybrau™, llawrlwythwch am ddim

Mae’r prosiect hwn yn cael ei gyllido gan y Rhaglen Rhwydweithiau Natur.
Mae’n cael ei gyflwyno gan y Gronfa Dreftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru.