Darganfyddwch fywyd gwyllt unigryw, tirweddau syfrdanol a threftadaeth ddiwylliannol gyfoethog Y Bala ar y daith sain hon. Mae cyfle i archwilio glannau tawel Llyn Tegid, dilyn afonydd Dyfrdwy a Thryweryn, ac ymgolli yn straeon rhywogaethau prin, ffigurau hanesyddol rhyfeddol a llên gwerin. Dewiswch o dri llwybr sydd wedi’u creu ar gyfer gwahanol alluoedd a gadael i’r naratif eich arwain chi drwy galon harddwch naturiol y Bala – ar hyd glannau afonydd, drwy goetiroedd, dros rostir ac ar hyd porfeydd gwyrdd.
I ddechrau eich siwrnai, lawrlwythwch y map gan ddefnyddio'r ddolen isod. Dilynwch y llwybrau a gwrandewch ar y pwyntiau sain sydd wedi'u nodi ar y map, lle byddwch chi'n dod o hyd i gyfarwyddiadau a chiwiau i'ch arwain chi ym mhob cam.
Gwybod cyn mynd:
Cyfeiriad:
Blaendraeth Llyn Tegid, Y Bala, LL23 7SR, Gwynedd, Cymru, Y Deyrnas Unedig
Dechrau’r llwybr: Google maps neu What3Words: ///blessing.noun.outfit
Parcio:
Mae llefydd parcio a thoiledau ar gael ar flaendraeth Llyn Tegid. Mae toiledau eraill ar hyd eich llwybr, heibio maes parcio ‘Y Green’, rhan isaf Tryweryn.
Pryd i fybd:
Mae posib cerdded y llwybr sain ar unrhyw adeg o'r flwyddyn, ond mae'n well ei gerdded mewn tywydd braf yn y gwanwyn, yr haf neu'r hydref. Os ydych chi’n bwriadu ymweld yn ystod y gaeaf, cofiwch edrych ar ragolygon y tywydd ymlaen llaw i sicrhau amodau diogel a dymunol.
Iechyd a diogelwch:
Er ein bod wedi gwneud pob ymdrech i ddarparu cyfarwyddiadau clir ar gyfer y llwybr, mae arwyddion ar y llwybrau troed hefyd. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwisgo'n addas ar gyfer y tywydd a gwisgwch esgidiau cerdded cryf, gan fod rhai darnau o’r llwybr yn gallu bod yn gorsiog mewn tywydd gwlypach. Mae cyfarwyddiadau’r llwybr a’r map wedi’u creu i gyd-fynd â’r map Arolwg Ordnans, yn hytrach na chymryd ei le. Mae’r signal ffôn symudol yn ddibynadwy yn gyffredinol ar hyd y llwybrau, ac rydym yn argymell dod â rhywfaint o fwyd a dŵr gyda chi.
Er mwyn diogelwch bywyd gwyllt ac ymwelwyr eraill, cadwch gŵn ar dennyn ar hyd y llwybrau.
Cyflwyniad

NWWT
1. Llyn Tegid

Cerddwch ar hyd llwybr troed yr arglawdd at y bont, wedyn croeswch y ffordd yn ofalus. Ewch drwy'r giât a dilynwch y llwybr troed ar hyd glan chwith Afon Dyfrdwy, y pwynt sain nesaf.
2. Afon Dyfrydwy

Atlantic Salmon leaping ©Rob Jordan/2020VISION
Dilynwch y llwybr troed nes i chi groesi'r bont ddur - mae eich pwynt sain nesaf, Afon Tryweryn, yn dechrau yma wrth i chi ddal ati ar hyd ei glan.
3. Afon Tryweryn
LIFEDeeRiver
Mae Pont y Bala yn nodi diwedd y Llwybr Llyn ac Afonydd hygyrch. O'r fan yma, fe allwch chi naill ai ddilyn eich camau yn ôl neu droi i'r chwith drwy'r dref, sy’n arwain yn ôl at flaendraeth y llyn. I barhau â’r llwybr sain, dilynwch y llwybr o dan y bont lle mae pwynt sain 4 yn dechrau ar hyd eich llwybr ar hyd glan yr afon.
4. Rhywogaethau Estron Ymledol

false - Vaughn Matthews (please also tag @vaughnmatthews8 if using on Instagram or @VaughnMatthews2 on Twitter)
Dilynwch ymyl yr afon nes cyrraedd y giât bellaf i gerddwyr. Wrth i chi fynd yn syth tuag at Hen Dŷ’r Felin Wlân, trowch i’r chwith i mewn i’r cae, ac wedyn i’r dde i ddilyn y llwybr ag arwyddbyst, lle gallwch chi ddechrau Pwynt Sain 5.
5. Yr Hen Felin Wlân

River Tryweryn's whitewater section with slalom gates © NWWT
Dilynwch y llwybr ag arwyddbyst ar draws y cae. Wrth i'r llwybr ddod i lawr tuag at yr afon, mae Pwynt Sain 6 yn dechrau yn y coetir o'ch blaen.
6. Coetir

false - Jon Hawkins – Surrey Hills Photography
Dilynwch y trac yn y coetir nes i chi adael y coed a chyrraedd y brif ffordd. Croeswch yn ofalus, wedyn dal i'r chwith a mynd ymlaen at giât i gerddwyr mewn cilfan. Ewch drwy'r giât a dilyn llinell y gwrych ar y chwith i chi tuag at gornel y cae. Ewch yn eich blaen drwy'r toriad cul - pan welwch chi’r tŷ ar y dde, rydych chi wedi cyrraedd y ciw ar gyfer ein pwynt sain nesaf ni.
7. Betsi Cadwaladr

Elizabeth (Betsi) Cadwaladr from ‘The Autobiography of Elizabeth Davis, a Balaclava Nurse’ image by British Library 10816.c.19. Public Domain
Daliwch i'r chwith, wedyn troi i'r dde ar unwaith ar lwybr troed ag arwyddbyst. Dilynwch y llwybr ar draws y cae at giât gornel. Ychydig heibio i’r giât, fe welwch chi Bwynt Sain 8: Yr Ogofâu.
8. Craig-y-Fron

NWWT
Dilynwch yr arwyddbyst, gan gadw llinell y ffens ar y dde i chi. Pan gyrhaeddwch chi’r ffordd o'ch blaen, mae gennych chi ddau opsiwn:
• I orffen y llwybr Crwydro’r Mieri, trowch i'r chwith am dro hamddenol i lawr yr allt yn ôl at flaendraeth y llyn.
• Neu, i barhau â llwybr y Barcud Coch, trowch i'r dde a dilynwch y ffordd nes i chi gyrraedd arwydd y llwybr marchogaeth. Trowch i'r chwith tuag at y goeden pren marw, sy'n nodi'r pwynt sain nesaf.
9. Coeden Farw

NWWT - Craig Wade
Wrth i chi groesi ar draws y rhostir (y pwynt sain nesaf), daliwch ati ar hyd y llwybr gorau, yn syth tuag at y fferm.
10. Rhostir Gwastadros

NWWT / Cotton Grass
Ewch yn syth yn eich blaen ar draws y rhos a thrwy'r fferm. Pasiwch y siediau gwartheg i gyrraedd dwy giât cae fetel. Ewch drwy'r giât ar y dde, wedyn troi i'r dde ar draws y tir fferm.
Ewch drwy giât nesaf y cae a dilynwch linell y gwrych. Yng nghornel dde bellaf y cae, fe welwch chi giât i gerddwyr lle bydd Pwynt Sain 11 yn dechrau.
11. Dôl

NWWT
Ewch i lawr yr allt ac i'r chwith tuag at y coetir derw, eich pwynt sain nesaf.
12. Coetir Derw

©Mark Hamblin/2020VISION
Dilynwch lwybr y coetir ac wrth i chi ddod allan drwy'r giât, ewch yn syth yn eich blaen a fymryn i'r chwith i ddilyn y ffordd i lawr yr allt. Bydd y llwybr yn eich arwain chi at y brif ffordd, lle byddwch yn croesi yn ofalus. Ar yr ochr arall, fe fyddwch chi ar lan y llyn, gyda Chanolfan Pererinion Mary Jones ychydig o'ch blaen, eich pwynt sain nesaf.
13. Mary Jones

Mary Jones Pilgrim Centre overlooking Bala lake © NWWT
Ewch i’r chwith, a gallwch naill ai ddychwelyd i faes parcio Llyn Tegid ar hyd y ffordd, neu ychydig bellter ar hyd y ffordd mae maes parcio bach ar y dde. Ewch i lawr y stepiau yno a throi i'r chwith. Os nad yw’n benllanw yn y llyn, byddwch yn gallu dilyn llwybr drwy’r llain goediog gul yn ôl i’r maes parcio. Gwrandewch ar y stori llên gwerin wrth i chi gerdded.
14. Llên Gwerin

Bala lake © NWWT
Bydd eich pwynt sain olaf yn dechrau pan fyddwch chi’n cyrraedd yn ôl i faes parcio blaendraeth y llyn. Edrychwch am y stondin gwybodaeth bioddiogelwch sy'n edrych dros y llyn.
15. Bioddiogelwch

NWWT
Dyna ddiwedd ein llwybr sain. Diolch i chi am gerdded gyda ni, a gobeithio y gwelwn ni chi allan ym myd natur eto yn fuan!
Prefer to read along as you go?
You can read the audio points in either English, Welsh (Cymraeg), Bengali (বাংলা), Polish (Polski), or Portuguese (Português). Click the relevant link below to download the content.
Choose your language here:
English - Bala Wildlife Audio Trail
Cymraeg - Lwybr Sain Bywyd Gwyllt y Bala
Bengali (বাংলা) - বালা ওয়াইল্ডলাইফ অডিও ট্রেইল
Polish (Polski) - Szlak Bala Wildlife Audio Trail
Portuguese (Português) - Percurso áudio da vida selvagem em Bala

®Lottery Heritage Fund in partnership with Welsh Government
Mae’r prosiect hwn yn cael ei gyllido gan y Rhaglen Rhwydweithiau Natur.
Mae’n cael ei gyflwyno gan y Gronfa Dreftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru.