Llwybr sain Trwyn y Fuwch

Rhiwledyn view of limestone and Common rock-rose

View of Rhiwledyn with limestone grassland and common rock-rose ©Lin Cummins NWWT

Adfer Glaswelltiroedd Calchfaen

Llwybr sain Trwyn y Fuwch

Ymunwch ag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ar lwybr sain i ddarganfod perl arfordirol Trwyn y Fuwch (Creigiau Rhiwledyn), safle gwarchodedig rhyfeddol sydd wedi’i ffurfio gan ddaeareg ac sy’n llawn hanes. Roedd y pentir yma’n anheddiad Neolithig ar un adeg, ac mae wedi cael ei ailsiapio gan chwarela ar ddiwedd y 1800au, a’i ddefnyddio fel gwersyll ymarfer magnelau arfordirol yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Bellach mae’n hafan i fywyd gwyllt rhyfeddol. Yn y gwanwyn a’r haf mwynhewch arddangosfeydd lliwgar y glaswelltiroedd calchfaen, gan gynnwys tegeirianau cain a glöynnod byw yn gwibio yma ac acw. Mwynhewch y golygfeydd godidog o Landudno, y Gogarth ac allan i Fôr Iwerddon.

Gwybod cyn mynd:

Parcio: Mae parcio a thoiledau ar gael ar bromenâd Llandudno (I ddechrau’r llwybr, mae’n daith gerdded fer i fynedfa Gwarchodfa Natur Rhiwledyn)

Dechrau’r llwybr: Google maps neu What3Words: ///snow.agenda.truck 

Pellter: 3.2Km / 2 filltir

Hyd (gan gynnwys y sain): 2.5 awr

Tirwedd a mynediad: Mae'r llwybr yn cynnwys dringfeydd a disgynfeydd serth, ac arwynebau anwastad a llithrig pan yn wlyb. Byddwch yn ofalus ger clogwyni heb eu diogelu ac ymylon y chwarel. Mae'r llwybr yma’n addas ar gyfer cerddwyr heini a phrofiadol. Mae esgidiau cerdded cryf yn hanfodol. Yr Arolwg Ordnans Map: Explorer OL17.

I ddechrau:

Lawrlwythwch fap y llwybr drwy'r ddolen isod. Gan ddechrau yng ngwarchodfa natur Rhiwledyn, sganiwch y codau QR ar hyd y llwybr gyda chamera eich ffôn clyfar i wrando ar y clipiau sain wrth i chi fynd yn eich blaen.

Cliciwch i lawrlwytho’r map

(opsiynol)
Llawrlwythwch sgript y llwybr sain
Llawrlwythwch y sain llawn
#welcome
Emerging pyramidal orchid on Rhiwledyn Nature Reserve

Emerging pyramidal orchid on Rhiwledyn Nature Reserve © Craig Wade NWWT

1. Croeso 

► Chwaraewch sain

Cyfarwyddiadau; Gan wynebu'r arwydd croeso, trowch i'r dde a dilyn y llwybr carreg i fyny'r bryn. Cyn bo hir byddwch yn cyrraedd y trydydd cyfeirbwynt ar gyfer Llwybr Arfordir Gogledd Cymru a Chymru, gyda mainc bren ar y dde i chi – llecyn da i orffwys i wrando ar y clip sain nesaf. 

#the-living-limestone-grasslands
Rhiwledyn view of limestone and Common rock-rose

View of Rhiwledyn with limestone grassland and common rock-rose ©Lin Cummins NWWT

2. Y glaswelltiroedd calchfaen byw

► Chwaraewch sain 

Ewch yn eich blaen ar hyd y llwybr i fyny’r allt drwy’r clwstwr o goed nes i chi gyrraedd giât mochyn bren a ffin y warchodfa, sef eich stop sain nesaf. 

#hidden-history
Historical Little Orme View c.1920

Historical view from the Little Orme over Llandudno Bay  c.1920 © Gwasanaeth Archifau Conwy Archive Service 

3. Hanes cudd

► Chwaraewch sain

Ewch yn eich blaen drwy'r giât mochyn ar hyd Llwybr Arfordir Cymru. Pan gyrhaeddwch chi groesffordd, trowch i’r chwith i fyny’r allt, gan ddilyn y llwybr nes gweld golygfa o Fae Llandudno. Trowch i’r chwith i fyny’r allt a byddwch yn cyrraedd y pwynt Trig. Rhowch saib ar y sain am y tro ac unwaith rydych chi wedi cyrraedd y copa, mwynhewch y golygfeyddpanoramig a phwyso chwarae i ddal ati i wrando. 

#alligator-and-elephant
Silver-studded blue New Forest Guy Edwardes2020VISION

Silver-studded blue (Plebejus argus), New Forest, Hampshire, England, UK  ©Guy Edwardes/2020VISION

4. Yr aligator a'r eliffant

► Chwaraewch sain

Dilynwch eich camau yn ôl. Wrth y groesffordd laswellt ewch i’r chwith i gyrraedd cyfeirbwynt Llwybr Arfordir Cymru. Dilynwch y llwybr nes gweld Bae Penrhyn a’r chwarel (cymerwch ofal wrth y dibyn sydyn), trowch i’r dde a mynd yn eich blaen nes cyrraedd yr hen offer weindio. Mae eich stop sain nesaf ar y giât mochyn ar y dde i chi. 

#industrial-past-the-limestone-rush
Little Orme Quarry Workers

Little Orme Quarry Workers, quarrying here operated between 1889 and 1931 © Gwasanaeth Archifau Conwy Archive Service

 

5. Gorffennol diwydiannol: Y bwrlwm calchfaen

► Chwaraewch sain

Ewch drwy'r giât mochyn i lawr y llwybr serth. Byddwch yn ofalus oherwydd gall y trac graean fod yn llithrig. Pan gyrhaeddwch chi’r gwaelod cadwch i'r chwith tuag at y graig galchfaen sydd yn y golwg, a Phorth Dyniewaid. Dyma ble mae eich pwynt sain nesaf chi ar y panel gwybodaeth. 

#porth-dyniewaid
A pair of choughs, a type of crow often found in coastal areas, with a pitch black body and bright red beak and legs, centre right of the picture. They are stood on a steep cliff with alternating patches of rock and small grassy areas, and the blue/green shade of the sea is just visible out of focus in the top left corner

Choughs at Rhiwledyn © Henry Cook 

6. Porth Dyniewaid

► Chwaraewch sain

Gyda’r panel gwybodaeth y tu ôl i chi, ewch yn eich blaeni ymuno â’r llwybr graean troellog nes cyrraedd cyfeirbwynt bach ar Lwybr Arfordir Cymru ar y chwith. Yma, chwaraewch eich clip sain nesaf.

#tales-from-the-tides
Fulmar

Fulmar in Flight ©Mike Snelle

7. Straeon llanwol: Morforwyn Bae Penrhyn

► Chwaraewch sain

Ewch yn eich blaen ar hyd y llwybr tarmac. Wrth i chi nesáu at dro sy’n gwyro i’r chwith, ar y dde i chi o flaen yr hen glogwyni chwarel fe welwch chi eich pwynt sain olaf ar arwyddbost cyfeirbwynt Llwybr Arfordir Cymru. 

#an-unexpected-role
Aerial Photo of the Little Ormes Head

Aerial photo showing disused quarry buildings, Trwyn Y Fuwch © Gwasanaeth Archifau Conwy Archive Service 

8. Rôl annisgwyl tref glan môr

► Chwaraewch sain

 O'r llwybr tarmac dilynwch y llwybr graean cul sy'n gwyro i'r dde. Ewch drwy'r giât mochyn fetel a rhwng y tai, ac mae tro sydyn i'r dde wedyn drwy giât mochyn bren. Dilynwch y llwybr coediog yma i fyny'r allt i ymuno â lôn sy'n arwain at Ffordd Colwyn. Trowch i'r dde i ddychwelyd i ddechrau'r llwybr. 

Places and Trails app logo

©Places and Trails app logo

Hefyd ar gael ar yr app Lleoliadau a Llwybrau™, llawrlwythwch am ddim

App Store (iPhone) 

Google Play (Android) 

Heritage Lottery Fund & Welsh Government Logo

Mae’r prosiect hwn yn cael ei gyllido gan y Rhaglen Rhwydweithiau Natur. 

Mae’n cael ei gyflwyno gan y Gronfa Dreftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru.