Chelsea Haden
Bydd Chelsea yn dathlu ei phen blwydd yn 30 oed yn rhwyf-fyrddio ar ei thraed am 41 milltir ar hyd Camlas Llangollen gyda’i labrador Bel – gan gasglu sbwriel a chodi arian ar gyfer Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ar hyd y daith!
Cefnogwch Chelsea heddiw!

Amdanaf i
Helo! Chelsea ydw i, rydw i’n byw yng Ngogledd Cymru ac rydw i’n athrawes ioga, yn hoff iawn o’r awyr agored ac yn defnyddio eco-therapi fel ffordd i wella fy iechyd meddwl. Yn ystod cyfyngiadau symud Covid-19, roedd yn amlwg bod pobl wedi troi at fyd natur fel ffordd i gynnal eu hysbryd. Roedd hefyd yn rhyfeddol gweld bywyd gwyllt yn ffynnu a gofod naturiol yn cael ei gadw’n lân. Ond ers i’r cyfyngiadau symud ddod i ben, mae cynnydd mawr wedi bod mewn sbwriel ac rydw i eisiau gwneud fy rhan mewn gwarchod ein bywyd gwyllt ni yn y gobaith y bydd eraill yn cael eu hysbrydoli i gadw eu hamgylchedd yn daclus ac yn lân. Dilynwch fi ar Facebook @lovinglifeinwelliesblog ac Instagram @lovinglifeinwellies i gael gwybod sut mae fy antur i’n mynd a beth rydw i’n dod ar ei draws ar fy nhaith!y!