Llwybr sain Trwyn y Fuwch
Ymunwch ag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ar lwybr sain i archwilio Trwyn y Fuwch, perl arfordirol sy’n gyforiog o hanes, daeareg a bywyd gwyllt. Yn anheddiad Neolithig ar un adeg ac wedi’i siapio gan y chwarelu yn y 19eg ganrif, mae’r pentir yma bellach yn gartref i laswelltiroedd calchfaen bywiog, tegeirianau a glöynnod byw sy’n gwibio hyd y lle yn ystod misoedd y gwanwyn a’r haf. Mwynhewch olygfeydd syfrdanol o Landudno, y Gogarth a Môr Iwerddon.