Camerâu llwybr bywyd gwyllt 'Rhoi cynnig arni' (Digwyddiad i Ieuenctid)

Coal tit looking in a camera

Coal tit looking in a camera © Bob Coyle

Camerâu llwybr bywyd gwyllt 'Rhoi cynnig arni' (Digwyddiad i Ieuenctid)

Lleoliad:
Llyn Brenig, Llyn Brenig, Conwy, LL21 9TT
Ymunwch â chymuned o bobl ifanc sy'n gweithredu dros fyd natur a chymryd rhan yn y gwaith o fonitro'r bywyd gwyllt anhygoel yn Llyn Brenig.

Manylion y digwyddiad

Pwynt cyfarfod

Gwylfan Gweilch y Pysgod Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, Cerrigydrudion, Conwy, Wales, LL21 9TT. What3Words///surreal.cushy.invented

Dyddiad

Time
10:30am - 12:30pm
A static map of Camerâu llwybr bywyd gwyllt 'Rhoi cynnig arni' (Digwyddiad i Ieuenctid)

Ynglŷn â'r digwyddiad

Mae camerâu llwybr bywyd gwyllt yn ddyfeisiau sy'n cael eu sbarduno gan symudiad sy’n ein helpu ni i fonitro a gwylio bywyd gwyllt heb darfu arno. Maen nhw’n ffordd wych o weld bywyd gwyllt yn agos! Mae cyfle i chi edrych ar ffilmiau o Lyn Brenig yma.

Ymunwch â chymuned gynyddol o bobl ifanc gyfeillgar a helpu i greu hwn yn fudiad ieuenctid dros newid yng Ngogledd Ddwyrain Cymru, gan archwilio'r bywyd gwyllt yn Llyn Brenig ar yr un pryd. Cewch gyfle i helpu i osod a monitro'r camerâu llwybr.

Mae hwn yn un o gyfres o sesiynau hydref y byddwn ni’n eu cynnal wyneb yn wyneb ac ar-lein, gyda'r nod o sefydlu Fforwm Ieuenctid newydd ar gyfer Gogledd-ddwyrain Cymru. Bydd yn gyfle gwych i gwrdd â phobl o'r un anian o'ch oedran chi sydd â diddordeb mewn gweithredu dros yr hinsawdd, cyfiawnder cymdeithasol a natur.

Ar agor i bobl ifanc 16-24 mlwydd oed yn unig.

Mae y trefnydd yn siarad Cymraeg, felly defnyddiwch Gymraeg neu Saesneg yn ystod y daith.

Bwcio

Pris / rhodd

Am ddim

Gwybodaeth archebu ychwanegol

Rhaid cofrestru
Ar agor i bobl ifanc 16-24 mlwydd oed yn unig.

Yn addas ar gyfer

Dechreuwyr, Beginners

Gwybod cyn i chi fynd

Cŵn

Ar dennyn

Symudedd

Bydd y tir yn anwastad mewn mannau. Mae mynediad i bobl anabl ar gael i feranda a llwyfan gwylio’r Wylfan Gweilch y Pysgod.

Mynediad i gadeiriau olwyn

Os oes arnoch chi angen mwy o wybodaeth, cysylltwch â ni.

Beth i'w ddod

Gwisgwch ddillad sy'n addas ar gyfer y tywydd ac esgidiau cyfforddus.

Os ydych chi o dan 18 oed, bydd arnoch chi angen ffurflen ganiatâd rhieni wedi'i llofnodi a gallwch ddod â hi gyda chi ar y diwrnod. Bydd hon yn cael ei hanfon atoch chi ar e-bost ychydig wythnosau ymlaen llaw. Bydd gennym ni gopïau ar gael i'w cwblhau ar y diwrnod hefyd.

Cyfarwyddiadau: Ewch i brif Ganolfan Ymwelwyr Llyn Brenig gan ddefnyddio’r cod post LL21 9TT. Wedyn ewch yn eich blaen yn eich car neu gerdded tua 300 metr heibio'r clwb hwylio, gan ddilyn y baneri a'r arwyddion i Wylfan y Gweilch y Pysgod.

Parcio: Mae lle parcio yn y man cyfarfod am ddim; mae angen talu os ydych chi’n parcio yng Nghanolfan Ymwelwyr Llyn Brenig. Mae pum lle parcio i bobl anabl ar gael yn y prif faes parcio wrth y ganolfan ymwelwyr.

P

Gwybodaeth am barcio

Mae lle parcio yn y man cyfarfod am ddim; mae angen talu os ydych chi’n parcio yng Nghanolfan Ymwelwyr Llyn Brenig.
i

Facilities

Toiledau
Siop
Caffi / lluniaeth
Ardal Picnic
Toiled i'r anabl
Cyfleusterau newid babanod
Disabled parking

Cysylltwch â ni

Caitlin Bucher-Flynn
Rhif Cyswllt: 07507140015