Pryd bynnag y byddwch chi’n ymweld â thir gwlyb neu lyn lleol, rydych chi’n debygol o weld gwyddau. Mae gwyddau Canada, sydd â gwddw du hir a darn gwyn ar eu hwyneb, a gwyddau llwyd, sydd â phig oren swmpus. Efallai y gwelwch chi wyddau’r Aifft hyd yn oed, sydd â fflach o wyn ar bob adain a chlegar swnllyd sy’n swnio fel lori’n gyrru am yn ôl. Yn aml, mae’r gwyddau yma’n hyderus ac yn hawdd mynd yn agos atyn nhw, yn enwedig mewn parciau.
Ond bob gaeaf, mae cannoedd ar filoedd o grwydriaid gwylltach yn ymuno â ni. Gwyddau sy’n croesi moroedd cynddeiriog i gyrraedd y DU, gan chwilio am fwyd a thywydd cynhesach. Maen nhw’n teithio fel teuluoedd fel rheol, gan ymuno ag eraill i ffurfio heidiau trawiadol. Maen nhw’n llenwi’r awyr gyda sŵn wrth iddyn nhw gyrraedd, gan lanio ar aberoedd, tiroedd gwlyb a chaeau. Gyda mwy na saith rhywogaeth i’w darganfod, mae’r gaeaf yn amser gwych i fynd ar drywydd gwyddau gwyllt! Beth am i ni gwrdd â rhai o ymwelwyr y gaeaf…