Gwneudgwahaniaeth

A red squirrel sitting by a woodland pool, nibbling a nut

Red squirrel © Mark Hamblin/2020VISION

Diolch i chi am gynyddu eich rhodd i Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.

Rydych chi'n rhan o rywbeth hynod bwysig.

Rydych chi'n rhan hanfodol o gymuned o dros 10,000 o aelodau sydd wedi ymrwymo i ddiogelu bywyd gwyllt ac ardaloedd gwyllt Gogledd Cymru. Diolch yn fawr iawn am eich cefnogaeth.

Rydym yn gwybod bod y degawd hwn yn hollbwysig os ydym am wneud gwahaniaeth i adferiad byd natur, ac mae ein holl adnoddau yn cael eu hymestyn yn fwy nag erioed.

Rydym yn gwybod beth sydd angen ei wneud i sicrhau bod ein bywyd gwyllt yn ffynnu, ac mae gennym gynllun cadarn i gyflawni hynny. Rydym yn parhau i weithio tuag at Ogledd Cymru mwy gwyllt, gyda bywyd gwyllt a chynefinoedd toreithiog ac amrywiol. Ond ni allwn gyflawni hyn heb eich cymorth chi.

Os gallwch chi, byddai rhoi ychydig yn ychwanegol yn gwneud gwahaniaeth enfawr i barhad ein gwaith.

Yn bendant, hoffwn gynyddu fy rhodd i helpu bywyd gwyllt Gogledd Cymru ymhellach.

Cynyddwch eich rhodd fisol
Cynyddwch eich rhodd flynyddol

Diolch – rydych chi wir yn gwneud gwahaniaeth.

Gallwn wneud y newid hwn i'ch taliad Debyd Uniongyrchol hyd at 10 diwrnod gwaith cyn y dyddiad talu. Bydd newidiadau a dderbynnir ar ôl yr amser hwn yn cael eu cymhwyso i'ch taliad nesaf.