Heddlu, camera, gwalch y pysgod!

Heddlu, camera, gwalch y pysgod!

Yr haf yma, roedden ni'n gyffrous o glywed bod Prosiect Gweilch y Pysgod y Brenig yn mynd i dderbyn ‘Gwobr Troseddau Gwledig a Bywyd Gwyllt’ Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru, yn dilyn enwebiad gan Chris James o Dîm Troseddau Gwledig Heddlu Gogledd Cymru.

Mae’r wobr yn cydnabod unigolyn, grŵp neu sefydliad sydd wedi gwneud cyfraniad ystyrlon at fynd i’r afael â throseddu gwledig a bywyd gwyllt a chefnogi cymunedau gwledig ledled Gogledd Cymru. 
Derbyniodd Rheolwr Atyniad Ymwelwyr Llyn Brenig, Nick Kite, a Swyddog Prosiect Gweilch y Pysgod y Brenig, Sarah Callon o Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, y wobr ar ran holl wirfoddolwyr a chefnogwyr y prosiect yn y seremoni wobrwyo yng Ngwesty a Sba Deganwy Quay. 
 

NWWT and Dwr Cymru staff on stage receiving an award.

Dŵr Cymru Welsh Water

Osprey - Blue 372 (April '26)