Gwaith Powdwr industrial heritage © Ian Roberts
Manylion y digwyddiad
Dyddiad
Ynglŷn â'r digwyddiad
Yn hanesyddol, roedd cymoedd anghysbell serth Gwarchodfa Natur Gwaith Powdwr yn golygu ei bod yn safle delfrydol ar gyfer gweithgynhyrchu ffrwydron. Ar ôl cau’r gweithgarwch diwydiannol ar y safle, daeth ei adeiladau a'r cynefinoedd naturiol yn lloches i amrywiaeth o fywyd gwyllt, gan gynnwys ystlumod ac adar prin. Mae'r safle bellach yn un o warchodfeydd Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, a heno bydd Luke Jones, Swyddog Gwarchodfeydd Conwy a Gwynedd, yn sôn wrthym am ei hanes, ei ryfeddodau presennol a'r cynlluniau sydd ar y gweill ar gyfer y berl gudd hon.
Bydd y sgwrs yma’n cael ei chynnal drwy gyfrwng y Saesneg.
Mae trefnydd y digwyddiad yn siarad Cymraeg, mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg neu'r Saesneg yn ystod y digwyddiad yma.