Siwrneiau anhygoel

Basking shark

Basking shark ©Alex Mustard/2020VISION

Siwrneiau anhygoel: Wythnos Forol Genedlaethol

O adar yn hedfan miloedd o gilometrau i fynd yn ôl i'r un twll, i fudo dirgel ein siarc mwyaf - mae byd natur yn llawn siwrneiau rhyfeddol.
 

I ddathlu Wythnos Forol Genedlaethol 2026, rydyn ni’n dathlu'r siwrneiau anhygoel sy’n cael eu gwneud gan anifeiliaid sy'n byw yn ein moroedd ni neu o amgylch yr arfordir.

Mae'r straeon yma’n fwy na dim ond campau o ddygnwch, maen nhw’n ein hatgoffa ni o'r cysylltiad agos rhwng ecosystemau a'r heriau mae bywyd gwyllt yn eu hwynebu. Gyda'n gilydd, beth am i ni archwilio rhai o'r siwrneiau mwyaf rhyfeddol ym myd natur a dangos pam bod gwarchod bywyd gwyllt yn bwysicach nag erioed.

Plymiwch i mewn a darllen y straeon cyfareddol yma...

Eog Atlantaidd
Môr-wennol y gogledd
Heulforgi
Tiwna asgell las
Dolffin trwyn potel
Llysywen Ewropeaidd 
Morlo llwyd
Morfil cefngrwm
Llygad maharen
Aderyn drycin Manaw 
Cranc heglog

#atlanticsalmon

Greddf mynd adref yr eog Atlantaidd 

Er bod eogiaid Atlantaidd yn deor mewn dŵr croyw, fel ein hafonydd, maen nhw’n treulio'r rhan fwyaf o'u bywyd fel oedolion ymhell allan yn y môr lle maen nhw’n bwydo ac yn tyfu'n gyflym iawn. Maen nhw’n teithio pellteroedd maith i diroedd bwydo mewn dyfroedd oer gogleddol lle maen nhw’n bwydo ar bysgod bach fel llymrïaid, cril, penwaig a chramenogion.

Mae'r rhan fwyaf o boblogaethau'n dilyn llwybrau mudo hir i ddyfroedd oddi ar yr Ynys Las a Norwy. Mae’r tiroeddd bwydo eraill mewn dyfroedd o amgylch Ynysoedd Faroe, i'r gogledd o'r Alban.

Rhwng un a phedair blynedd yn ddiweddarach, yn cael eu harwain gan eu greddf i fynd adref, maen nhw’n dychwelyd i'r union ddarn o afon lle cawsant eu geni, i atgenhedlu.

O fis Tachwedd i fis Chwefror, mae eogiaid sy'n oedolion yn cwblhau siwrnai heriol a blinedig i fyny'r afon. Maen nhw’n brwydro yn erbyn cerhyntau cryf ac yn llamu dros goredau a rhaeadrau i gyrraedd y nentydd graeanog ger tarddiad yr afon. Yma maen nhw’n silio ac mae cenhedlaeth newydd yn dechrau.

Mae eogiaid ifanc yn tyfu i fyny mewn dŵr croyw am hyd at chwe blynedd, gan fwydo ar infertebrata mân a physgod bach. Pan maen nhw’n barod, mae eu cyrff yn newid i alluogi iddyn nhw oroesi mewn dŵr hallt - wedyn mae'n amser iddyn nhw fudo allan i'r môr, ar siwrnai hir a pheryglus.

Mae newid yn amodau'r môr, newid hinsawdd, dal damweiniol mewn offer pysgota (sgil-ddalfa) a llygredd yn chwarae eu rhan i gyd wrth wneud y siwrnai yma mor beryglus. Mae eogiaid Atlantaidd yn cysylltu afonydd a chefnforoedd ac yn ddangosydd pwerus o ecosystemau iach.

Er gwaethaf degawdau o waith cadwraeth mewn afonydd, mae poblogaethau’r pysgodyn yma’n parhau i ddirywio, sy'n dangos pa mor bwysig yw gwarchod eogiaid yn y môr yn ogystal â mewn dŵr croyw.

#arctictern

Hedfan o begwn i begwn gyda môr-wennol y gogledd

Yr aderyn rhyfeddol yma sy’n cwblhau’r siwrnai fudo hiraf i ni wybod amdani ymhlith unrhyw anifail. Bob blwyddyn mae'n teithio o’i thiroedd magu Arctig ac isarctig (gan gynnwys y DU) i arfordir yr Antarctig ac yn ôl eto - siwrnai sy’n gallu bod hyd at 59,000 o filltiroedd. Yn ystod ei hoes gyfan, gall môr-wennol y gogledd hedfan yr un pellter â mynd am drip i’r lleuad dair gwaith ac yn ôl!

Maen nhw’n cyrraedd y DU ym mis Ebrill, gan nythu'n bennaf ar ynysoedd o amgylch gogledd Lloegr a'r Alban, gyda phoblogaethau llai yng Nghymru a Gogledd Iwerddon ac ar Ynys Manaw. Maen nhw’n treulio'r haf yn llenwi gyda bwyd ac yn magu eu cywion, cyn gadael ym mis Medi.

Mae'r môr-wenoliaid yma’n greaduriaid ffyrnig yn sicr. Maen nhw’n adnabyddus am ymosod ar dresmaswyr â’u nyth gyda'u pig miniog.

#baskingshark

Cawr caredig cudd ein moroedd

Yr heulforgi yw'r ail bysgodyn mwyaf yn ein moroedd ni, ond dim ond ar söoplancton mae'r cawr caredig yma’n bwydo. Mae’n bwyta hwn drwy ei hidlo allan o'r dŵr gyda'i geg enfawr. Er ei fod mor fawr, mae’r heulforgi wedi cael ei weld yn neidio allan o'r dŵr o bryd i'w gilydd! Y ffordd orau i’w adnabod yw drwy chwilio am esgyll ei gefn a’i gynffon yn codi allan o'r dŵr.

Efallai eich bod chi'n meddwl bod creadur mor fawr â hwn yn siŵr o fod yn hawdd ei dracio - ond ychydig iawn ydyn ni'n ei wybod o hyd am symudiadau heulforgwn. Maen nhw'n treulio'r haf yn ein dyfroedd ni ac mae tracio lloeren wedi dangos eu bod yn gallu mudo pellteroedd hir, gyda rhai heulforgwn wedi'u tagio yn ymddangos oddi ar yr Azores a Newfoundland hyd yn oed.

Dydyn ni ddim yn gwybod llawer am eu magu chwaith. Rydyn ni’n credu eu bod nhw'n paru ac yn magu yn ein dyfroedd ni, ond does neb yn gwbl siŵr ble maen nhw'n rhoi genedigaeth. Mae heulforgwn benywaidd yn deor eu hwyau yn eu corff ac wedyn yn rhoi genedigaeth i'w rhai bach - cwbl anhygoel!

Os ydych chi eisiau ceisio gweld heulforgwn, y llefydd gorau i roi cynnig ar hynny yw oddi ar arfordir Sir Benfro neu Ynys Môn rhwng mis Mai a mis Hydref. Mae'n bwysig iawn peidio â tharfu arnyn nhw, felly cofiwch gadw at y cod ymddygiad heulforgwn.

#bluefintuna

Dychweliad y tiwna asgell las – pwerus, gosgeiddig a pherffaith ar gyfer cyflymder

Mae’r tiwna asgell las yn anifail anhygoel. Mae wedi’i adeiladu ar gyfer cyflymder gyda chorff tebyg i dorpido sy’n galluogi cyrraedd cyflymder o hyd at 40 milltir yr awr am gyfnodau byr – mae hynny'n ei wneud yn un o'r pysgod cyflymaf yn y môr! Mae'n dipyn o olygfa gwylio'r ysglyfaethwyr apig mawr yma’n hela pysgod llai oddi ar ein glannau ni – mae’r môr yn gallu edrych fel pe bai'n berwi wrth i lawer o bysgod dasgu hyd y lle ac, os ydych chi'n lwcus, efallai y gwelwch chi un yn llamu allan o'r dŵr!

Bluefin tuna

Bluefin tuna © Joe Pender

Oherwydd gorbysgota ym Môr yr Iwerydd, diflannodd y tiwna asgell las o ddyfroedd y DU am fwy na 60 mlynedd. Ond dros y degawd diwethaf, mae cynnydd wedi bod yn y nifer sydd wedi cael eu gweld, yn rhannol oherwydd gwell rheolaeth ar bysgodfeydd a hefyd oherwydd yr hinsawdd sy'n newid.

Diolch i dracio GPS rydyn ni bellach yn gwybod bod y nofwyr marathon yma’n treulio amser yn y Sianel cyn mudo i Fae Biscay, gyda rhai'n mynd allan ymhellach fyth i'r Azores. Wedyn maen nhw’n mudo i Fôr y Canoldir lle maen nhw’n atgenhedlu (silio). 

Er ei fod yn newyddion gwych ein bod ni'n dechrau gweld tiwna asgell las eto yn nyfroedd y DU, ni ddylem gymryd hyn yn ganiataol. Rhaid i ni ddysgu o'r gorffennol a sicrhau bod mesurau rheoli pysgodfeydd cadarn yn eu lle i warchod y pysgod anhygoel yma i'r dyfodol.

#bottlenosedolphin

Dod i adnabod rhai o'n dolffiniaid trwyn potel hoff

Efallai mai hwn yw un o’n hoff anifeiliaid y môr yma yng Nghymru, ac mae gweld dolffin trwyn potel yn dod â llawenydd o amgylch ein harfordir! Maen nhw wrth eu bodd yn llamu allan o'r dŵr – cadwch lygad am dasgu a neidio afreolus. Maen nhw'n gymdeithasol iawn ac i'w gweld fel rheol mewn grwpiau, sy’n cael eu galw’n bodiau. Mae gennym ni ddau brif fath o bodiau dolffiniaid trwyn potel yng Nghymru:

  • cymunedau allan yn y môr sydd i’w gweld fel rheol mewn grwpiau mawr ac sy’n symud yn eang
  • cymunedau arfordirol sydd mewn podiau llai yn aml ac mae posib eu gweld yn rheolaidd yn eu hoff lefydd

Mae llawer o staff a gwirfoddolwyr yr Ymddiriedolaethau Natur yn casglu gwybodaeth werthfawr am y dolffiniaid sydd i’w gweld o amgylch ein harfordir ni drwy ymchwil wyddonol ac arolygon gwyddoniaeth y dinesydd, yn enwedig ym Mae Ceredigion yng Nghanolfan Bywyd Gwyllt y Môr Bae Ceredigion.

Drwy dynnu lluniau o asgell y cefn (yr asgell ddorsal), gallwn adnabod unigolion oddi wrth y patrwm unigryw o hiciau a rhiciau. Mae'n debyg i olion bysedd! Diolch i dracio llun adnabod fel hyn, gallwn weld i ble mae dolffiniaid trwyn potel yn teithio a gyda phwy maen nhw'n treulio eu hamser.

Ym Mae Ceredigion, rydyn ni hefyd yn gwneud hyn drwy recordio eu chwibanau gan ddefnyddio meicroffonau tanddwr (hydroffonau). Gallwn ddefnyddio recordiadau o chwiban nodweddiadol dolffin, sy’n eithaf tebyg i'w enw, i dracio symudiadau dolffiniaid unigol hyd yn oed pan nad ydyn ni’n eu gweld.   

#europeaneel

Siwrnai bywyd epig y llysywen Ewropeaidd

Ychydig iawn o greaduriaid yn ein dyfroedd ni sy'n byw bywyd mor eithriadol â'r llysywen Ewropeaidd. Wedi'u geni filoedd o filltiroedd i ffwrdd ym Môr Sargasso ger Bermuda, mae larfa’r llysywod yn drifftio am hyd at ddwy flynedd ar gerhyntau'r môr cyn cyrraedd ein glannau ni.

Mae llysywod ifanc bach iawn a thryloyw’n symud i mewn am y tir o aberoedd i afonydd, camlesi a llynnoedd – gan wingo weithiau ar draws tir llaith i gyrraedd yno! Maen nhw’n treulio blynyddoedd yn tyfu ac yn bwydo mewn dŵr croyw nes, yn y diwedd, ar ôl blynyddoedd lawer (mwy na degawd weithiau!), maen nhw’n dechrau cymal olaf eu siwrnai. Mae’r llysywod sy'n oedolion yn nofio'r holl ffordd yn ôl i Fôr Sargasso i silio cyn marw, gan gwblhau eu mudo hir.

Mae llysywod Ewropeaidd yn wynebu llawer o fygythiadau yn ystod eu hoes, gan gynnwys gorbysgota, llwybrau mudo sy'n cael eu rhwystro gan argaeau a strwythurau eraill, llygredd, newid hinsawdd ac ysglyfaethu.

#greyseal

Mae angen lle ar forloi llwyd i ffynnu

Mae 95% o boblogaeth Ewrop o forloi llwyd yn byw ym Mhrydain, gan wneud ein glannau ni’n hafan i'r mamal trawiadol yma. Os ydych chi wedi gweld wyneb chwilfrydig morlo llwyd yn siglo yn y tonnau erioed wrth ymweld â'r traeth, rydych chi wedi cael gwledd.

Mae ein morloi llwyd yn treulio llawer o'u hamser allan ar y môr, ond yn dod i'r lan i orffwys, i fwrw eu blew, i dreulio eu bwyd ac i fagu. Gan eu bod yn treulio llawer o'u hamser allan ar y môr, dydyn ni ddim yn gwybod yn union i ble maen nhw i gyd yn mynd, ond rydyn ni'n gwybod eu bod nhw’n gallu teithio pellteroedd maith. Rydyn ni'n gwybod hyn oherwydd bod morloi llwyd wedi cael eu monitro gan ddefnyddio tagio a hyd yn oed o adnabod lluniau drwy edrych ar eu marciau allweddol

Yn 2025, fe wnaeth un morlo llwyd siwrnai o 320 o filltiroedd o'i chartref oddi ar arfordir gogledd orllewin yr Almaen i Ddwyrain Swydd Efrog. Llwyddodd Ymddiriedolaeth Natur Swydd Efrog i sefydlu o ble oedd hi wedi dod ar ôl gweld tag oren ar ei hasgell. Mae hynny'n tanlinellu pwysigrwydd monitro. Mae'n ein helpu ni i ddeall yn iawn i ble mae bywyd gwyllt yn teithio, y llwybrau maen nhw'n eu cymryd, a sut orau i’w gwarchod.

Os gwelwch chi forloi llwyd wrth ymweld â'r arfordir, mae'n bwysig iawn rhoi digon o le iddyn nhw. Cadwch eich pellter a chadwch gŵn oddi wrthyn nhw. Os byddwch yn tarfu ar forloi mae’n gallu achosi llawer o straen iddyn nhw. Dod i wybod ble i roi gwybod am weld morloi

#humpbackwhale

Pleser pur wrth wylio morfil cefngrwm yn llamu allan o’r môr

Wedi i’r diwydiant hela morfilod masnachol dinistriol arwain at eu difodiant bron, mae morfilod cefngrwm yn gwneud adfywiad ac yn gynyddol gyffredin yn nyfroedd y DU. Morfilod walbon ydi morfilod cefngrwm, sy’n golygu bod ganddyn nhw ddalennau o walbon yn lle dannedd ac maen nhw’n hidlo cril mân a physgod bach drwy’r dalennau yma. Maen nhw’n teithio drwy ein dyfroedd ni o’r tiroedd bwydo yn yr Arctig i gyrraedd eu tiroedd magu yn y dyfroedd cynhesach oddi ar Cape Verde.

Mae gan y morfil diamheuol yma ben cnapiog unigryw ac mae’n adnabyddus am ei ymddygiad acrobatig. Does dim llawer o bethau mor wefreiddiol â gweld morfil cefngrwm yn llamu allan o’r dŵr! Pi ydi enw morfil cefngrwm enwocaf Cernyw a Sili. Mae Pi wedi dod yn ymwelydd rheolaidd yn y gaeaf, gan ddychwelyd i Ynysoedd Sili bob blwyddyn bron ers 2020.

Ymwelydd rheolaidd arall â moroedd y DU yw Morvil. Mae Morvil wedi cael ei weld sawl gwaith ers 2016 ac mae hefyd wedi cael ei dracio yn nhiroedd magu Cape Verde! Mae'r morfil yma’n ein hatgoffa ni o'r angen brys am arferion pysgota diogelach oherwydd mae olion cael ei ddal mewn offer pysgota arno, gan gynnwys llabed y gynffon wedi'i thorri'n rhannol. Yng Nghymru, efallai y byddwch chi'n gallu gweld morfilod cefngrwm oddi ar arfordir Sir Benfro, ac yn y dyfnder Celtaidd.

Er ei fod yn newyddion gwych bod y morfilod yma’n adfer, mae'n hanfodol bod llywodraethau'r byd yn parhau i weithredu i warchod ein moroedd ni er mwyn sicrhau dyfodol disglair iddyn nhw.

#limpet

Mae llygaid meheryn yn gwybod eu ffordd adref

Efallai na fyddwch chi’n meddwl am lygaid meheryn wrth i ni ddweud 'siwrneiau anhygoel' ond maen nhw'n rhyfeddol! Maen nhw'n crwydro dros y creigiau pan mae’r llanw i mewn, gan fwyta algâu, ond maen nhw bob amser yn dychwelyd i'w hoff lecyn eu hunain pan fydd y llanw'n mynd allan.

Maen nhw'n gwneud hyn drwy ddilyn y llwybr mwcws sydd wedi’i adael ganddyn nhw ar eu siwrneiau. Maen nhw'n naddu eu cragen i'w llecyn o ddewis ac, yn y pen draw, mae 'craith' amlwg yn cael ei chreu yn y graig. Mae'r 'graith gartref' yma’n helpu'r llygad maharen i lynu'n well wrth y graig, gan ei hatal rhag sychu nes i'r llanw nesaf ddod i mewn.

Cofiwch adael llonydd i lygaid meheryn bob amser a pheidiwch â cheisio eu tynnu oddi ar y graig.

Limpets

Limpets ©Richard Burkmar

#manxshearwater

Does unman yn debyg i gartref i aderyn drycin Manaw

Oeddech chi'n gwybod bod tua 80% o adar drycin Manaw yn dychwelyd i'r DU i fagu? Ac mai yng Nghymru mae hanner poblogaeth y byd? Weithiau mae’r aderyn môr dirgel yma, sy'n adnabyddus am ei gri atgofus, yn cael ei alw’n grwydryn y môr. Mae'n ymgymryd â siwrnai fudo flynyddol enfawr - gan hedfan hyd at 10,000 km bob blwyddyn!

Dim ond yn ddiweddar mae'r mudo yma wedi cael ei ddeall oherwydd tracio GPS ar rai o'r adar yma. Ar ôl iddyn nhw fagu yma yn yr haf, mae'r adar yn mynd tua’r de i orllewin Affrica, ac wedyn yn croesi'r Iwerydd i gyrraedd arfordir Brasil ac yn ei ddilyn tua'r de i'w tiroedd gaeafu ger silff Patagonia.

Mae tracio hefyd wedi dangos, yn ogystal â'u mudo rhyngwladol, eu bod nhw hefyd yn ymgymryd â siwrneiau epig bob dydd wrth chwilio am fwyd. Byddant yn teithio rhwng 40 a 400 milltir, yn chwilio am bysgod, stifflogod a chramenogion. 

Mae ynysoedd SgomerSgogwm yn Sir Benfro yn llefydd gwych i weld a chlywed Adar Drycin Manaw rhwng mis Ebrill a diwedd mis Awst wrth iddyn nhw ddychwelyd i'w poblogaethau. Ym mis Awst, mae posib gweld cywion Adar Drycin Manaw yn eistedd y tu allan i'w tyllau yn y nos i ymestyn eu hadenydd a 'syllu ar y sêr', ymddygiad sy'n galluogi iddyn nhw astudio'r cytserau i'w helpu i ddod o hyd i'w ffordd yn ôl i'w poblogaeth pan fyddan nhw’n dychwelyd i fagu yn y pen draw.

#spidercrab

Bwrw cragen cydamserol y cranc heglog

Bob haf, mae crancod heglog yn ymgymryd â siwrnai a thrawsnewidiad arbennig. Maen nhw’n teithio gyda'i gilydd o ddyfroedd arfordirol dwfn i ddyfroedd bas ac yn ôl eto fel rhan o'u cylch bywyd. Weithiau maen nhw’n gallu teithio mwy na 100 milltir i gyd. Mae honno'n siwrnai hir i gramenog bach!

Maen nhw’n ymgynnull mewn niferoedd mawr i fwrw eu hen gragen a magu, gan alluogi iddyn nhw fod yn ddiogel mewn niferoedd mawr wrth aros i'w sgerbydau allanol galedu. Mae sôn wedi bod am dwmpathau enfawr o hyd at fil o grancod hyd yn oed!

Er bod y cranc yma’n lliw oren lliwgar, mae ei gragen wedi'i gorchuddio ag algâu yn aml, gan wneud iddo edrych yn wyrdd a blewog, sy'n guddliw gwych yn erbyn gwely'r môr. I weld cranc heglog, ewch i arfordiroedd de a gorllewin Cymru a Lloegr. 

Postcode Lottery and Postcode Planet Trust logo


Diolch o galon i chwaraewyr y Loteri Cod Post, sy'n cefnogi ein gwaith cadwraeth forol ac yn helpu i wneud yr Wythnos Forol Genedlaethol yn bosibl.