Ymweld â Llys Euryn: Cynllun Gardd Agored Cenedlaethol

A garden terrace made of pale bricks, with vibrant blue, orange, yellow and pink flowers, leading up to a small viewing platform surrounded by trees.

Open garden © Mr & Mrs D Kitson

Ymweld â Llys Euryn: Cynllun Gardd Agored Cenedlaethol

Lleoliad:
Bryn Euryn Nature Reserve, Tan-Y-Bryn Rd, Rhos on Sea, , Colwyn Bay, LL28 4AB
Ewch am dro i’r hyfryd Lys Euryn fel rhan o'r cynllun gardd agored cenedlaethol gydag arian yn cael ei godi ar gyfer YNGC

Manylion y digwyddiad

Pwynt cyfarfod

Bwthyn Llys Euryn, Ffordd Tan-Y-Bryn, Llandrillo-yn-rhos, Bae Colwyn, LL28 4AA.

Dyddiad

Time
2:00pm - 7:00pm
A static map of Ymweld â Llys Euryn: Cynllun Gardd Agored Cenedlaethol

Ynglŷn â'r digwyddiad

Cyfle i fwynhau prynhawn hyfryd yng ngardd Bwthyn Llys Euryn. Mae’r ffioedd mynediad yn cefnogi'r Cynllun Gardd Cenedlaethol a bydd yr holl arian fydd yn cael ei godi o'r caffi a'r arwerthiant planhigion yn mynd i Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.

Mae gan Fwthyn Llys Euryn ardd 1+ erw wedi'i lleoli mewn coetir ar ben Bryn Euryn gyda golygfeydd dros Fae Colwyn tuag at y môr. Mae'r ardd wedi'i rhannu'n ddwy ran, ardal gyda wal fewnol, sy'n gymysgedd o goed bach, llwyni a phlanhigion lluosflwydd llysieuol. Mae Hostas yn arbenigedd gyda mwy na 70 o amrywiaethau’n cael eu tyfu. Mae’r terasau sy'n wynebu tua'r de wedi'u plannu â phlanhigion sy'n gallu goddef sychder.

Mae gan yr ardd allanol ardal lysiau gyda gwelyau wedi'u codi a ffrwythau meddal. Mae mwy o forderi llwyni a phlanhigion lluosflwydd llysieuol yma. Defnyddir tai gwydr yn bennaf ar gyfer lluosogi a thomatos. Mae'r llethr serth glaswelltog sy'n edrych dros y tŷ wedi cael ei blannu gydag amrywiaeth o goed a llwyni bach anarferol.

Mae Bryn Euryn i gyd yn warchodfa natur bellach gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy gyda'r ardaloedd glaswelltir wedi'u dynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA). Nid yw'r bryn, a oedd yn ardal bori noeth yn wreiddiol, wedi cael ei bori ers yr Ail Ryfel Byd, gan arwain at ymlediad graddol yr ardaloedd o goed a llwyni, gyda'r cyngor yn ceisio rheoli’r llwyni. Mae'r priddoedd sy'n alcalïaidd (mae Bryn Euryn yn rhan o ardal Calchfaen Carbonifferaidd Gogledd Cymru) yn ddigon asidig yn lleol i dyfu'r rhododendrons a'r camelias mwy goddefgar yn yr ardaloedd gerllaw'r coetir cyfagos.

Bwcio

Pris / rhodd

Oedolyn: £7.00
Plentyn: £0.00

Gwybodaeth archebu ychwanegol

Rhaid cofrestru

Yn addas ar gyfer

Teuluoedd, Oedolion, Arbenigwyr, Dechreuwyr

Gwybod cyn i chi fynd

Cŵn

image/svg+xml
Ni chaniateir cŵn

Mae'r digwyddiad yma’n arddangosfa gardd breifat ac nid yw'r perchnogion yn caniatáu cŵn.

image/svg+xml

Symudedd

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am hygyrchedd, cysylltwch â pherchnogion yr ardd.
Mae posib dod o hyd i’r manylion drwy'r ddolen archeb:
https://bookings.ngs.org.uk/book/adab2327-49a4-f011-b82a-00155d9db901/ 

image/svg+xml

Mynediad i gadeiriau olwyn

Mae'n ddrwg gennym, nid yw Bwthyn Llys Euryn yn darparu ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn eto.
image/svg+xml

Beth i'w ddod

Dylech wisgo esgidiau synhwyrol.

image/svg+xmli

Facilities

Caffi / lluniaeth

Cysylltwch â ni

Mark Roberts
Rhif Cyswllt: 07908728484