Creu dyfodol gwylltach
Pobl ifanc yw'r dyfodol. Rydyn ni’n credu eu bod yn haeddu cyfleoedd i ffurfio cysylltiadau oes â byd natur a lleisio eu barn wrth greu dyfodol gwyrddach. Rydyn ni’n gweithio i rymuso ac ysbrydoli pobl ifanc ar draws Gogledd Cymru i weithredu dros fyd natur a bywyd gwyllt yn eu cymunedau lleol mewn amgylchedd diogel a chynhwysol
Pobl ifanc yn arwain
Mae lleisiau ieuenctid yn bwysig ac mae gan bobl ifanc y gallu i drawsnewid eu cymunedau a'r byd ehangach. Rydyn ni’n gweithio gyda phobl ifanc i greu newid drwy amrywiaeth o gamau gweithredu, o ymgyrchu ac eiriolaeth i waith ymarferol a datblygu sgiliau – a’r cyfan yn cael ei arwain gan ein pobl ifanc.
Ein gwaith
Rydyn ni’n gweithio gyda phobl ifanc ar draws Gogledd Cymru. Mae ein fforwm ieuenctid Môn Gwyrdd, a sefydlwyd yn 2016, wedi bod yn helpu pobl ifanc yng ngogledd orllewin Cymru i ddatblygu eu sgiliau cadwraeth a dysgu am natur a bywyd gwyllt. Eleni, rydyn ni’n gyffrous am fod yn lansio fforwm ieuenctid newydd yng ngogledd ddwyrain Cymru am y tro cyntaf.
Mae ein rhaglen Hyrwyddwyr Achub Cefnfor wedi bod yn rhoi cyfle i bobl ifanc Ynys Môn (11 i 16 oed) ddysgu am ein cefnforoedd a helpu i adfer dolydd morwellt.
Rydyn ni hefyd yn gweithio gydag ysgolion i danio chwilfrydedd am yr awyr agored a helpu plant oedran ysgol i archwilio a darganfod natur a bywyd gwyllt.