Common blue (female) © Frank Porch
Glöynnod byw yn Chwarel Marford
Lleoliad:
Gwarchodfa Natur Chwarel Marford,
Marford, Wrecsam, LL12 8TG
Gwarchodfa Natur Chwarel Marford,
Marford, Wrecsam, LL12 8TG
Ymunwch â ni ar gyfer ein 'Cyfrif Glöynnod Byw' blynyddol ar hyd y trawsdoriad sydd wedi’i sefydlu yn y warchodfa natur odidog yma.
Manylion y digwyddiad
Ynglŷn â'r digwyddiad
Darganfyddwch y 'Trawsdoriad Glöynnod Byw' yng Ngwarchodfa Natur Chwarel Marford a byddwch yn rhan o brosiect gwyddoniaeth y dinesydd hanfodol.
Gyda mwy na 1,000 o rywogaethau wedi'u cofnodi, mae Gwarchodfa Natur Chwarel Marford yn werddon o fywyd gwyllt - ac yn un o'r llefydd gorau yng Nghymru ar gyfer infertebrata. Dewch i weld y safle yma ar ei orau o ran glöynnod byw, gan gynnwys y fritheg arian a'r brithribin gwyn.
Mae croeso i bobl o bob gallu ymuno â ni yn ein cyfrif glöynnod byw blynyddol!
Trefnwyd y digwyddiad hyn gan Gangen Wirfoddol Wrecsam o Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.