Darganfod Cemlyn: am dro gyda'r wardeiniaid

A sandwich tern in flight over a shingly beach, with a fish visible in its mouth. The tern is mostly white, with a black cape extending to its neck and black tips to its wings

Sandwich tern © Tom Hibbert

Sandwich terns, small sea birds with white plumage and distinctive black caps, black beaks with a small yellow tip. They are scattered among low lying vegetation, with their fluffy grey chicks.

Sandwich terns at Cemlyn © Hannah Smith

Cemlyn tern colony

Cemlyn tern colony © NWWT

Darganfod Cemlyn: am dro gyda'r wardeiniaid

Lleoliad:
Ymunwch â wardeiniaid Cemlyn am daith gerdded dywys o amgylch ein Gwarchodfa Natur anhygoel ni yng Nghemlyn ym mhen gogledd orllewinol Ynys Môn.

Manylion y digwyddiad

Pwynt cyfarfod

Cyfarfod ym maes parcio Bryn Aber (gorllewin), ger y tŷ mawr. What3Words///pints.stood.heartache

Dyddiad

Time
2:00pm - 4:00pm
A static map of Darganfod Cemlyn: am dro gyda'r wardeiniaid

Ynglŷn â'r digwyddiad

Dewch i weld y môr-wenoliaid pigddu, y môr-wenoliaid cyffredin a môr-wenoliaid y gogledd yn nythu yn y boblogaeth drawiadol yma o adar môr.

Methu dod y tro yma neu eisiau dod eto? Ymunwch â'r wardeiniaid am daith gerdded arall!

Bwcio

Pris / rhodd

Anogir rhoddion

Gwybodaeth archebu ychwanegol

Rhaid cofrestru

Yn addas ar gyfer

Teuluoedd, Oedolion, Arbenigwyr, Dechreuwyr

Gwybod cyn i chi fynd

Cŵn

image/svg+xml
Cŵn tywys yn unig

Oherwydd natur sensitif yr ardal a phresenoldeb y cwtiad torchog a'r pïod môr ar yr esgair, ni allwn ganiatáu cŵn yn y digwyddiad yma.

Caniateir cŵn cymorth - os oes angen i chi ddod â chi cymorth, cysylltwch â chris.wynne@northwaleswildlifetrust.org.uk er mwyn i ni allu helpu i leihau effaith unrhyw gŵn cymorth sy'n bresennol a chynnal hygyrchedd ar gyfer y digwyddiad yma. Diolch i chi am helpu ein hymdrechion cadwraeth.

image/svg+xml

Symudedd

Mae'r esgair wedi'i gwneud o gerrig rhydd mawr a gall cerdded arni fod yn anodd i unrhyw un sydd â phroblemau symudedd. Mae posib dod o hyd i luniau a fideo o'r warchodfa sy'n dangos y tirwedd yma.

image/svg+xml

Mynediad i gadeiriau olwyn

Tebygol o fod yn anaddas ar gyfer cadeiriau olwyn a'r rhan fwyaf o sgwteri symudedd.
image/svg+xml

Beth i'w ddod

Dewch â sbienddrych os oes gennych chi un.

Gwisgwch ddillad awyr agored ac esgidiau addas.

image/svg+xmlP

Gwybodaeth am barcio

Parcio ceir oddi ar y ffordd ger y mannau gwylio. Sylwch fod y maes parcio’n fawr a heb farciau gydag arwyneb anwastad iawn a rhai tyllau mawr ynddo.

Cysylltwch â ni

Chris Wynne
Rhif Cyswllt: 07764897411