Gweinyddydd Tîm - Enfys Ecology
Rydyn ni'n chwilio am unigolyn sy'n drefnus, yn ddibynadwy ac yn mwynhau cefnogi eraill. Dylech chi allu cyfathrebu’n dda mewn ffordd gyfeillgar a phroffesiynol, a gallu gweithio fel rhan o dîm ac yn annibynnol.
Bydd gallu cadw gwybodaeth yn gyfredol, rheoli eich amser yn effeithiol a rhoi sylw i fanylion yn bwysig yn y rôl hon. Dylech fod yn gyfforddus yn defnyddio meddalwedd swyddfa safonol fel Microsoft 365. Byddai rhywfaint o brofiad mewn rôl weinyddol neu gydlynu yn ddefnyddiol ond nid yw'n hanfodol. Byddai profiad o ddefnyddio systemau rheoli prosiectau, dealltwriaeth o'r sector amgylcheddol, neu sgiliau iaith Gymraeg yn fanteisiol ond nid ydynt yn ofynnol.
Rydyn ni'n gwerthfawrogi angerdd, parch, ymddiriedaeth, integriti, gweithredu pragmatig a chryfder mewn amrywiaeth. Er ein bod yn angerddol wrth hyrwyddo ein hamcanion, nid ydyn ni'n feirniadol ac rydyn ni'n gynhwysol. Rydyn ni’n annog ceisiadau yn arbennig gan bobl nad ydyn nhw'n cael eu cynrychioli'n ddigonol yn ein sector, gan gynnwys pobl o gefndiroedd lleiafrifol a phobl ag anableddau.
Rydyn ni wedi ymrwymo i greu mudiad sy'n cydnabod ac yn gwerthfawrogi gwahaniaethau a hunaniaethau unigol go iawn. Rydyn ni’n cymryd ein cyfrifoldebau Diogelu o ddifrif. Cliciwch yma i ddarllen ein datganiad ymrwymiad. Gall y rôl hon fod yn destun archwiliad DBS.
Sut i wneud cais
Mae Disgrifiad Swydd llawn i'w weld isod.
Anfonwch CV llawn ynghyd â llythyr eglurhaol i jobs@enfysecology.co.uk