Bydd ein partneriaeth ni gydag Always Aim High yn ein helpu i godi arian hanfodol ar gyfer ein gwaith i adfer byd natur, grymuso pobl i weithredu dros natur a chreu cymdeithas lle mae natur yn bwysig – a’r cyfan yma yng Ngogledd Cymru.
Os ydych chi'n athletwr profiadol neu'n rhedwr am y tro cyntaf, mae gwahoddiad i chi gymryd rhan yn Llwybr Eryri ar 11/12 Gorffennaf a Llwybr Ynys Môn ar 1 Tachwedd, a gall beicwyr gymryd rhan yn y Tour de Môn enwog ar 23 Awst. Mae gan bob digwyddiad amrywiaeth o bellteroedd i ddewis ohonyn nhw, ac mae pob un yn gyfle gwych i chi herio'ch hun wrth wneud byd o wahaniaeth i fywyd gwyllt lleol.
Yn fwy na hynny, cefnogwyr Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru sy'n cael y cyfle cyntaf i sicrhau ein tocynnau gostyngiad arbennig! Am bopeth fyddwch chi'n ei wneud i godi arian i ni wrth hyfforddi ar gyfer yr her o'ch dewis a chymryd rhan ynddi, gallwn gynnig gostyngiadau o hyd at 58% i chi ar ffioedd cofrestru safonol. Mae’r targedau codi arian sy’n cael eu hawgrymu wedi'u cynnwys, ond chi sydd i benderfynu faint rydych chi'n ei godi. Fe fyddwn ni’n ddiolchgar beth bynnag fydd y swm.
Cofrestrwch ar gyfer un o’n llefydd gostyngiad
Niferoedd cyfyngedig sydd ar gael, felly ewch ati nawr - a dechrau hyfforddi!