Red squirrel © Mark Hamblin/2020VISION
Crwydro Llyn Brenig: taith gerdded y wiwer goch
Lleoliad:
Llyn Brenig, Llyn Brenig, Conwy, LL21 9TT
Cyfle i chi ymestyn eich coesau a dysgu am y wiwerod coch sydd yma yn Llyn Brenig. Efallai y byddwch chi’n ddigon ffodus i weld un yn ystod ein taith gerdded hyd yn oed!
Manylion y digwyddiad
Ynglŷn â'r digwyddiad
Ymunwch â'n grŵp cerdded misol gan archwilio byd natur a bywyd gwyllt gyda theithiau cerdded ar thema wahanol bob tro. Thema'r mis yma yw’r wiwer goch.
Mae'r wiwer goch yn un o famaliaid prinnaf y DU, yn frodorol i Ynysoedd Prydain ers yr Oes Iâ ddiwethaf. Ar un adeg roedd yn eang ei dosbarthiad, ond mae ei phoblogaeth yn y DU wedi dirywio’n sylweddol yn dilyn cyflwyno gwiwerod llwyd yma ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Dysgwch fwy am yr anifail carismatig yma ar y daith gerdded dywys hon.
Bwcio
Pris / rhodd
£7.50Mae pris eich tocyn yn rhodd i Brosiect Gweilch y Pysgod y Brenig.