Grŵp P&A yn dewis Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru fel partneriaid Elusen y Flwyddyn ar gyfer 2026

Grŵp P&A yn dewis Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru fel partneriaid Elusen y Flwyddyn ar gyfer 2026

Rydyn ni wrth ein bodd ein bod ni wedi cael ein dewis gan staff Grŵp P&A fel un o'u dau bartner Elusen y Flwyddyn ar gyfer 2026.

Rydyn ni wedi mwynhau perthynas hirhoedlog gyda Chanolfan Arddio Woodworks y Grŵp, yn yr Wyddgrug - gan gynnal digwyddiadau yno i rannu ein gwaith cadwraeth a ffurfio partneriaeth gyda nhw drwy werthu planhigion gwrych brodorol sy’n cael eu tyfu yng Ngwarchodfa Natur Aberduna - felly mae'n arbennig o ystyrlon ein bod ni wedi cael ein dewis.

Mae'r Grŵp wedi gosod targed codi arian uchelgeisiol o £10,000, gyda chalendr o ddigwyddiadau a gweithgareddau staff wedi'u cynllunio drwy gydol y flwyddyn!

Rydyn ni wrth ein bodd yn cefnogi Gofal Canser Tenovus ac Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru eleni.
Andrew Baker, Rheolwr Gyfarwyddwr Grŵp P&A
P&A Group

Mae Andrew yn mynd ymlaen i ddweud:

"Mae'r ddwy elusen yn gwneud gwaith anhygoel mewn meysydd mae ein timau ni’n gallu uniaethu â nhw. Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddod at ein gilydd unwaith eto i godi arian hanfodol a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Heddiw, mae’r staff wedi bod yn gyffrous am gofrestru ar gyfer llu o weithgareddau codi arian, gan gynnwys herio Zip World Velocity - y wifren wib gyflymaf yn y byd a'r hiraf yn Ewrop - 10K Gorllewin Sir Caer, Her Camau chwarterol, Mis Heb, a ras gyfnewid Llwybr Arfordir Gogledd Cymru, i enwi dim ond rhai."

Rydyn ni’n gyffrous am fod yn rhan o'r gweithgareddau codi arian y bydd Grŵp P&A yn eu cynnal drwy gydol y flwyddyn ac yn edrych ymlaen at weithio gyda'n gilydd i wneud gwahaniaeth parhaol i fywyd gwyllt ledled Gogledd Cymru.
Graeme Cotterill, Pennaeth Strategaeth a Gweithrediadau
Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru

Os oes gan eich busnes chi ddiddordeb mewn dewis Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru fel eich Elusen y Flwyddyn, neu mewn cefnogi ein gwaith ni dros fywyd gwyllt mewn unrhyw ffordd, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.

E-bost: graeme.cotterill@northwaleswildlifetrust.org.uk