Mae'r gwaith celf, sydd wedi’i greu gan yr artist lleol Catherine Taylor Parry, wedi cael ei ysbrydoli gan haenau o fawn ac elfennau sy'n adlewyrchu straeon a chymeriad corsydd Ynys Môn. Mae'r rhain yn cynnwys darluniau o blanhigion gwlithlys, gwiberod, a chyfeiriadau at wneuthurwr oriorau a fu unwaith yn byw ar un o'r safleoedd. Mae'r paentiad yn dal amrywiaeth a threftadaeth y corsydd a gefnogir gan brosiect partneriaeth Corsydd Calon Môn, sy'n anelu at amddiffyn corsydd Ynys Môn a dathlu eu treftadaeth ddiwylliannol ac ecolegol gyfoethog.
Comisiwn celf yn dathlu Corsydd Ynys Môn yn lansiad arddangosfa Effaith
The fens at Cors Goch Nature Reserve © Roy and Tracy Briggs
Yn ogystal ag anrhydeddu eu hanes, mae partneriaeth Corsydd Calon Môn yn gweithio i ddiogelu dyfodol Corsydd Ynys Môn. Un elfen allweddol o hyn yw codi ymwybyddiaeth o ba mor bwysig yw safleoedd y Corsydd i bobl, byd natur ac yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd byd-eang. Fel rhan o'r comisiwn, bu Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn gweithio gyda sefydliad Celfyddydau Anabledd Cymru i nodi rhwystrau mynediad yn y gwarchodfeydd ac i greu dogfennau mynediad a fydd yn helpu pobl sydd eisiau ymweld â'r safleoedd i wneud dewisiadau doeth. Bydd y gwaith hwn hefyd yn helpu i siapio’r cynlluniau ar gyfer rheoli a cynnal a chadw safleoedd y corsydd yn y dyfodol.
Bydd Effaith: Arddangosfa Deithiol Genedlaethol Celfyddydau Anabledd Cymru (2025–26) yn aros yn Galeri, Caernarfon tan fis Ebrill cyn teithio i leoliadau ledled Cymru, gyda Tŷ Pawb, Wrecsam ymhlith y lleoliadau nesaf. Mae Effaith yn arddangosfa sy'n dangos safbwyntiau pobl anabl ar un o faterion mwyaf brys ein hoes ni: yr argyfwng hinsawdd. Yn dilyn galwad agored, mae artistiaid anabl, b/Byddar a niwroamrywiol dethol wedi ymateb i themâu natur, tirwedd a chyfiawnder hinsawdd drwy lens anabledd.
Comissioned artist Catherine Taylor Parry and Corsydd Calon Mon project manager Neil Dunsire © NWWT
Dywedodd yr artist a gomisiynwyd, Catherine Taylor Parry:
“Mae comisiwn Corsydd Calon Môn wedi bod yn gyfle rhyfeddol i greu paentiad sy'n ymateb i rinweddau unigryw corsydd calchaidd Ynys Môn. Mae'r wybodaeth am hanes a bioamrywiaeth unigryw yr ardal a ddarparwyd gan dîm prosiect Corsydd Calon Môn wedi fy ngalluogi i greu darn sy'n adlewyrchu cymhlethdod a chyfoeth yr amgylchedd corsydd gwerthfawr a diddorol yma, ac mae hefyd wedi rhoi cyfle i mi archwilio ardal ddirgel nad oeddwn i’n gwybod amdani o'r blaen ar Ynys Môn.”
Dywedodd Neil Dunsire, Rheolwr Prosiect Corsydd Calon Môn gydag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru:
“Mae gweithio gyda Cathryn a gyda CAC wedi bod yn brofiad gwych. Mae ymchwil Catherine i safleoedd y corsydd a'r manylion mae hi wedi llwyddo i'w rhannu drwy ei darn yn anhygoel. Nid oes llawer o bobl yn gwybod am y safleoedd gwerthfawr yma yng nghanol Ynys Môn a thrwy waith Catherine a thaith Effaith, rydyn ni’n gobeithio codi ymwybyddiaeth o'r safleoedd a'u harwyddocâd. Mae celf a chreadigrwydd yn rhan mor gryf o ddiwylliant Cymru, gan gysylltu pobl â'u hamgylchedd. Rydw i'n gobeithio y bydd darn Catherine yn ysbrydoli artistiaid eraill i gysylltu â'r llefydd hardd ac ysbrydoledig yma. Diolch yn fawr iawn i Catherine ac i Alan a phawb yn CAC wnaeth helpu i wneud hyn yn bosibl”.
Os hoffech chi gael gwybod mwy am ein gwaith ni i ddiogelu dyfodol Corsydd Ynys Môn, ewch i dudalen we prosiect Corsydd Calon Môn.