Pecyn cymorth ar-lein newydd yn helpu garddwyr i atal planhigion ymledol rhag dianc i'r gwyllt

Pecyn cymorth ar-lein newydd yn helpu garddwyr i atal planhigion ymledol rhag dianc i'r gwyllt

Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn gyffrous am lansio ei Becyn Cymorth i Arddwyr newydd sbon, adnodd ar-lein dwyieithog rhyngweithiol sy'n cynnwys fideos, calendr tymhorol, cyngor arbenigol, a llawer mwy, wedi'i gynllunio i gefnogi garddwyr i atal ymlediad rhywogaethau ymledol o blanhigion o erddi i'r gwyllt.

Mae'r Pecyn Cymorth wedi'i gynllunio i fod yn hygyrch ac mae'n cynnig cyfarwyddyd i helpu garddwyr ar bob lefel.

Archwilio Pecyn Cymorth y Garddwyr

Dywedodd Dr Tomos Jones, Rheolwr Dihangwyr Gerddi yn Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru:

“Mae’r Pecyn Cymorth i Arddwyr yn adnodd newydd defnyddiol iawn i arddwyr. Mae'n ein helpu ni i ddeall pa blanhigion a allai fod yn ymledol ac yn anodd eu rheoli, ac mae ganddo lawer o gynghorion ar wneud newidiadau bach sy'n helpu i gefnogi bywyd gwyllt lleol, fel dewis planhigion amgen.”

Bygythiad rhywogaethau ymledol

Mae planhigion addurnol wedi dod â harddwch a mwynhad i erddi ers tro byd. Fodd bynnag, gall rhai rhywogaethau ddianc a dod yn ymledol yn y gwyllt, lle maen nhw’n cael y gorau ar blanhigion brodorol ac yn niweidio cynefinoedd sy’n cael eu defnyddio gan bryfed, adar a bywyd gwyllt arall.

Mae rhywogaethau ymledol yn costio bron i £2 biliwn i economi'r DU bob blwyddyn, ac mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn gweithio i warchod cynefinoedd pwysig ar draws y rhanbarth, lle mae planhigion ymledol yn her gynyddol.

Drone view of Gwaith Powdwr

Drone view of Gwaith Powdwr © PWaring

Dywedodd Luke Jones, Swyddog Gwarchodfeydd yn Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru:

“Mae ein gwarchodfeydd natur ni ymhlith y llefydd pwysicaf i fywyd gwyllt yng Ngogledd Cymru. Yng Ngwarchodfa Natur Gwaith Powdwr ym Mhenrhydeudraeth, mae ein gwirfoddolwyr ni’n chwarae rhan hanfodol wrth reoli rhywogaethau ymledol. Mae'r gwaith yma’n helpu i godi ymwybyddiaeth o sut gall planhigion ddianc o erddi a lledaenu i'r amgylchedd ehangach.”

Cynhyrchwyd y Pecyn Cymorth i Arddwyr gyda chefnogaeth nifer o bartneriaid, gan gynnwys Gerddi Botaneg Treborth Prifysgol Bangor, CADW a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Gall planhigion ymledol achosi difrod difrifol i safleoedd hanesyddol hefyd. Mae Ashley Batten, Arolygydd Rhanbarthol ar gyfer Henebion ac Archaeoleg yn CADW, yn tynnu sylw at pam mae angen gweithredu:

“Mae gwreiddiau rhywogaethau ymledol fel y triaglog coch yn tyfu'n ddwfn o fewn y morter mewn llawer o henebion hanesyddol. Mae'r gwreiddiau yma’n caniatáu i ddŵr dreiddio rhwng y gwaith maen. Pan mae’r dŵr yma’n rhewi yn y gaeaf, mae'n chwyddo a gall arwain at ddifrod neu gwymp hyd yn oed.”

Ashley from Cadw with red valerian

Red valerian on Cadw site © NWWT

Nod y Pecyn Cymorth i Arddwyr yw mynd i'r afael â heriau rhywogaethau ymledol drwy helpu garddwyr i wneud y canlynol:

  • Adnabod rhywogaethau problemus cyn iddyn nhw sefydlu yn y gwyllt.
  • Deall yr effeithiau y gall planhigion ymledol eu cael ar fyd natur a thirweddau.
  • Dewis opsiynau amgen sy'n gyfeillgar i fywyd gwyllt ac sy'n gwella cynefinoedd gerddi heb risg.
  • Cael gwared ar ddeunydd planhigion yn gyfrifol, gan leihau'r siawns o ddianc.

Beth yw'r Pecyn Cymorth?

Mae’r Pecyn Cymorth i Arddwyr yn adnodd sydd wedi’i gynllunio gyda hygyrchedd a defnyddioldeb mewn golwg, ac mae'n cynnwys nifer o adnoddau sy'n gyfeillgar i ffonau symudol:

  • Proffiliau planhigion: Cyfres o broffiliau planhigion sy'n cynnwys rhywogaethau ymledol a rhywogaethau a allai fod yn ymledol. Mae pob proffil yn cynnwys ffeithiau am y planhigyn, ei darddiad, sut i'w adnabod, sut i ddelio ag ef ac, yn bwysig, canllawiau ar blanhigion amgen fedr wella gerddi heb fygwth bywyd gwyllt.
  • Calendr tymhorol: Calendr defnyddiol y mae posib ei argraffu sy'n tynnu sylw at dymhorau allweddol ar gyfer tyfiant, ymlediad a rheolaeth planhigion ymledol, gan alluogi i arddwyr gynllunio ymyriadau rhagweithiol ar yr amser iawn o'r flwyddyn.
  • Cyfres fideo ddifyr: Fideos byr sy'n cynnwys cyfarwyddyd arbenigol ar sut i reoli rhywogaethau ymledol. Mae'r adnoddau gweledol yma’n ddelfrydol ar gyfer garddwyr sy'n ffafrio dysgu drwy wylio.
  • Cymryd camau gweithredu: Cyngor clir ar sut gall garddwyr gael effaith gadarnhaol drwy benderfyniadau ac arferion bob dydd. Mae defnyddio ymgyrch genedlaethol o'r enw Be Plant Wise yn darparu carreg gamu i helpu i reoli rhywogaethau ymledol i ddechreuwyr a garddwyr profiadol fel ei gilydd.
  • Terminoleg a deddfwriaeth: Mae PDFs y mae posib eu lawrlwytho’n egluro termau allweddol a deddfwriaeth amgylcheddol berthnasol ynghylch rhywogaethau ymledol mewn ffyrdd syml, hawdd eu darllen.
Pecyn Cymorth Garddwyr

Pecyn Cymorth Garddwyr © NWWT

Cymryd rhan

Yn ôl y State of Gardening Report 2025 gan yr RHS, mae mwy na 950,000 o hectarau o erddi ledled y DU, sydd tua maint 135,000 o gaeau pêl-droed. Felly, gall yr hyn y mae garddwyr yn ei wneud (neu ddim yn ei wneud) gael effaith wirioneddol ar yr amgylchedd ehangach o’u cwmpas.

Mae’r Pecyn Cymorth yn ategu mentrau garddio bywyd gwyllt ehangach gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, sy’n annog garddwyr i weld eu mannau awyr agored nid yn unig fel darnau preifat o dir ond fel rhan o rwydwaith gwyrdd helaeth sy’n cael ei rannu ac sy’n cefnogi bywyd gwyllt ledled Gogledd Cymru.

Edrychwch ar y Pecyn Cymorth i Arddwyr ar-lein ar wefan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru. Mae garddwyr, pobl sy’n hoff o fyd natur a chefnogwyr cadwraeth yn cael eu hannog i edrych ar y pecyn cymorth, gwylio’r fideos, lawrlwytho proffiliau planhigion, a rhannu’r adnodd gyda chymunedau garddio, grwpiau lleol a ffrindiau

I ddysgu mwy neu ddechrau eich siwrnai garddio sy'n gyfeillgar i fywyd gwyllt, a helpu i atal lledaeniad rhywogaethau ymledol, ewch i: www.northwaleswildlifetrust.org.uk/cy/pecyn-cymorth-garddwyr

Mae’r prosiect Dianc o Gerddi wedi cael ei gyllido gan y Rhaglen Rhwydweithiau Natur. Mae'n cael ei gyflwyno gan y Gronfa Dreftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru.