Warden Cemlyn

Warden Cemlyn

Diwrnod cau:
Cyflog: £22,293 y flwyddyn pro rata (I’w gadarnhau ar gyfer 2026)
Math y cytundeb: Tymhorol / Oriau gweithio: Llawn amser
Lleoliad:
Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn chwilio am o leiaf dau warden poblogaeth môr-wenoliaid / gwarchodfa natur i warchod poblogaeth o bwys rhyngwladol Cemlyn o fôr-wenoliaid, gwarchod bioamrywiaeth yng Nghemlyn, ac ymgysylltu ag ymwelwyr, cymdogion a gwirfoddolwyr.

Byddwch o gefndir ecolegol o fewn y sector preifat, cyhoeddus neu elusennol. Bydd gennych ddull gwyddonol o weithio, wedi'i seilio ar brofiad ymarferol ac academaidd cadarn. Byddem yn disgwyl dealltwriaeth o adareg a'ch bod yn gyfforddus ag adnabod ystod eang o adar Prydeinig. Byddwch yn gyfathrebwr gwych ac yn unigolyn dymunol sy’n gallu gweithio gyda llawer o wahanol bobl ar draws yr amrywiaeth hyfryd o ddaearyddiaeth, datblygu busnes a gweithgareddau sy’n rhan o'r Ymddiriedolaeth Natur. 

Rydych chi'n mwynhau gweithio yn yr awyr agored, cyfarfod pobl a datrys problemau. 

Rydym yn gwerthfawrogi angerdd, parch, ymddiriedaeth, integriti, ymgyrchu pragmatig a chryfder mewn amrywiaeth. Er ein bod yn angerddol wrth hyrwyddo ein hamcanion, nid ydym yn feirniadol ac rydym yn gynhwysol. Rydym yn annog ceisiadau yn arbennig gan bobl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein sector, gan gynnwys pobl o gefndiroedd lleiafrifol a phobl sydd ag anableddau. Rydym wedi ymrwymo i greu mudiad sy'n cydnabod ac wir yn gwerthfawrogi gwahaniaethau a hunaniaethau unigol. 

Rydym yn cymryd ein cyfrifoldebau Diogelu o ddifrif. Cliciwch yma i ddarllen ein datganiad ymrwymiad. Efallai y bydd angen archwiliad gan y DBS ar gyfer y rôl hon. 

Sut i wneud cais

Mae Disgrifiad Swydd llawn i'w weld isod. 

 Atodwch CV llawn ynghyd â llythyr eglurhaol.