Tu Hwnt i'r Ffin: Sgwrs ar-lein am Ddihangwyr Gerddi

Beyond the Boundary campanion sculpture

Beyond the Boundary campanion sculpture © Manon Awst

Tu Hwnt i'r Ffin: Sgwrs ar-lein am Ddihangwyr Gerddi

Online
Cyfle i edrych ar bwnc rhywogaethau ymledol, gan gynnwys eu perthynas â ffiniau ein gerddi ni a'r gwyllt, drwy hanes a chelf.

Manylion y digwyddiad

Dyddiad

Time
7:30pm - 9:00pm

Ynglŷn â'r digwyddiad

Yn ystod y sgwrs ar-lein hon, bydd y swyddog prosiect Ellen Williams yn trafod hanes rhai planhigion, sut daethant i fod yn y DU, a'u cysylltiad â garddio. Wedyn bydd yn trafod sut daeth rhai o'r planhigion yma’n ymledol a'r effaith maen nhw’n ei chael heddiw.

Bydd Ellen hefyd yn trafod arddangosfa deithiol y prosiect Dianc o Gerddi a gynhaliwyd rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr. Cafodd yr arddangosfa ei dangos ar draws tri lleoliad yng Ngogledd Orllewin Cymru ac roedd yn ceisio codi ymwybyddiaeth o effaith rhai planhigion sy’n dianc y tu hwnt i ffiniau ein gerddi ni i'r gwyllt.

Bydd y sgwrs yma’n cael ei chynnal drwy gyfrwng y Saesneg.

Bwcio

Pris / rhodd

Croesawn roddion

Gwybodaeth archebu ychwanegol

Rhaid cofrestru

Yn addas ar gyfer

Teuluoedd, Oedolion, Arbenigwyr, Dechreuwyr

Cysylltwch â ni

Rhif Cyswllt: 07900596601
Cysylltu e-bost: suemayandrew@gmail.com