Taith Gerdded Byd Natur y Gaeaf

A close up of an oak tree, with a cluster of small green-yellow acorns. The leaves are yellow with brown edges, in their vibrant autumn colours.

Autumn Oak © Ross Hoddinott/2020VISION

Taith Gerdded Byd Natur y Gaeaf

Lleoliad:
Ymunwch â ni am daith gerdded byd natur hamddenol o amgylch Gwarchodfa Natur Big Pool Wood i weld y byd natur sydd o gwmpas yr adeg yma o'r flwyddyn.

Manylion y digwyddiad

Pwynt cyfarfod

Cyfarfod wrth y gilfan ar ochr y ffordd, ger mynedfa Canolfan Farchogaeth Bridlewood: CH8 9JN. OS Map Reference SJ102838. W3W: ///fatigued.insert.woven.

Dyddiad

Time
1:00pm - 3:00pm
A static map of Taith Gerdded Byd Natur y Gaeaf

Ynglŷn â'r digwyddiad

Cyfle i godi allan a chael golwg ar y byd natur sydd i’w gael o amgylch ein gwarchodfeydd ni yr adeg yma o'r flwyddyn. Efallai y byddwch chi'n synnu at yr hyn fyddwn ni’n ei ddarganfod!

Mae bod ym myd natur ar unrhyw adeg o'r flwyddyn yn fuddiol i'n hiechyd a'n lles ni. Ymunwch â ni wrth i ni fynd am dro hamddenol o amgylch y warchodfa gan edrych ar fyd natur, o adar a choed i bryfed a phlanhigion. Big Pool Wood yw un o'n gwarchodfeydd mwyaf hygyrch ni gyda llwybr hygyrch i gadeiriau olwyn a thaith gerdded gylch. Mae tair cuddfan adar yma hefyd.

Mae'r digwyddiad yma’n rhan o'n prosiect Mae Natur yn Cyfrif. Yn ystod ein digwyddiadau, byddwn yn cofnodi'r rhywogaethau rydyn ni’n eu darganfod fel rhan o brosiect gwyddoniaeth y dinesydd i'n helpu ni i reoli ein gwarchodfeydd natur a'n cynefinoedd lleol.

Mae’r prosiect Mae Natur yn Cyfrif yn cael ei gyllido gan y Gronfa Dreftadaeth a Llywodraeth Cymru.

Bwcio

Pris / rhodd

Croesawn roddion

Gwybodaeth archebu ychwanegol

Nid oes angen cofrestru, dim ond troi fynnu.

Yn addas ar gyfer

Oedolion, Dechreuwyr

Gwybod cyn i chi fynd

Cŵn

image/svg+xml
Ar dennyn
image/svg+xml

Symudedd

Mae llwybr pren a llwybr arwyneb caled yn caniatáu mynediad i gadeiriau olwyn o amgylch y warchodfa ac i ddwy o'r tair cuddfan adar.

Mae mynediad i'r brif fynedfa drwy Stablau Marchogaeth Bridlewood. Mae'r llwybr yma dros arwyneb caled, ond yn ystod tywydd gwlyb gall fynd yn fwdlyd.

image/svg+xml

Mynediad i gadeiriau olwyn

Ydyn
image/svg+xml

Beth i'w ddod

Gwisgwch ddillad awyr agored ac esgidiau addas.

Does dim toiledau ar y safle.

Cysylltwch â ni