Autumn Oak © Ross Hoddinott/2020VISION
Taith Gerdded Byd Natur y Gaeaf
Gwarchodfa Natur Big Pool Wood,
GronantSir y Fflint, CH8 9JN
Manylion y digwyddiad
Ynglŷn â'r digwyddiad
Cyfle i godi allan a chael golwg ar y byd natur sydd i’w gael o amgylch ein gwarchodfeydd ni yr adeg yma o'r flwyddyn. Efallai y byddwch chi'n synnu at yr hyn fyddwn ni’n ei ddarganfod!
Mae bod ym myd natur ar unrhyw adeg o'r flwyddyn yn fuddiol i'n hiechyd a'n lles ni. Ymunwch â ni wrth i ni fynd am dro hamddenol o amgylch y warchodfa gan edrych ar fyd natur, o adar a choed i bryfed a phlanhigion. Big Pool Wood yw un o'n gwarchodfeydd mwyaf hygyrch ni gyda llwybr hygyrch i gadeiriau olwyn a thaith gerdded gylch. Mae tair cuddfan adar yma hefyd.
Mae'r digwyddiad yma’n rhan o'n prosiect Mae Natur yn Cyfrif. Yn ystod ein digwyddiadau, byddwn yn cofnodi'r rhywogaethau rydyn ni’n eu darganfod fel rhan o brosiect gwyddoniaeth y dinesydd i'n helpu ni i reoli ein gwarchodfeydd natur a'n cynefinoedd lleol.
Mae’r prosiect Mae Natur yn Cyfrif yn cael ei gyllido gan y Gronfa Dreftadaeth a Llywodraeth Cymru.