Mae Ymddiriedolaethau Natur Cymru ac RSPB Cymru, ynghyd â Fforwm Ieuenctid Ymddiriedolaethau Natur Cymru a grwpiau Gwenoliaid Duon lleol, yn galw ar Aelodau'r Senedd i ddangos eu cefnogaeth dros Wenoliaid Duon yn y ddadl wythnos nesaf. Mae'r ddadl i gyflwyno gosod brics 'Swift' i'r holl adeiladau newydd yng Nghymru fel mesur i helpu i wrthdroi'r dirywiad syfrdanol yn niferoedd y Gwenoliaid Duon yng Nghymru.
Mae'r ddadl, y disgwylir iddi gael ei chynnal yn y Siambr ar 1 Hydref, yn dilyn deiseb a lansiwyd gan Julia Barrell, a ddenodd gefnogaeth aruthrol gyda dros 10,000 o lofnodion gan y cyhoedd.
Mae'r ddeiseb yn galw am ofyniad am frics ‘Swift’ - brics wedi'u gwneud yn arbennig gyda cheudodau ar gyfer adar sy'n nythu - i gael eu gosod ym mhob prosiect adeiladu newydd yng Nghymru, gan roi digon o gyfleoedd nythu addas i'r aderyn unigryw hwn.
Dwedodd Julian Hughes, Pennaeth Rhywogaethau, RSPB Cymru: ‘Mae pobl ar hyd a lled Cymru yn poeni am Wenoliaid Duon. Mae pobl wedi dod at ei gilydd mewn dinasoedd, trefi a phentrefi i weithredu, i adeiladu a gosod blychau nythu, i fonitro niferoedd, ac i godi ymwybyddiaeth. Maen nhw’n gwneud gwaith gwych, ond dydyn nhw ddim yn gallu gwneud hynny ar eu pen eu hunain. Mae angen i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol wneud eu rhan. Nid brics Gwenoliaid Duon yw’r peth mwyaf y mae gofyn i’r llywodraeth ei wneud dros natur o bell ffordd, ond mae ymysg y symlaf a gallai helpu i sicrhau bod ein hawyr las yn llawn Gwenoliaid Duon yn sgrechian yn llon i genedlaethau'r dyfodol ei fwynhau’.
Gwenoliaid Duon yw'r adar sydd â’r hediad gwastad cyflymaf ar y blaned - maen nhw'n gallu hedfan dros 100km yr awr. Maen nhw'n cysgu, bwyta, yfed a hyd yn oed yn paru wrth hedfan. Ac er eu bod yn treulio hanner eu hamser yng nghoedwigoedd glaw Affrica bob blwyddyn, maen nhw'n mudo i Hemisffer y Gogledd i nythu, dodwy wyau a magu eu cywion. Mae Gwenoliaid Duon bron bob amser yn defnyddio ceudodau (cavities) mewn adeiladau i nythu, yn aml iawn islaw llinell y to neu dan y teils. Mae adnewyddiadau’n golygu eu bod nhw’n ddigartref ac anaml y mae adeiladau newydd yn cynnig ceudodau artiffisial ag heb unman i fynd pan fyddant yn cyrraedd yma, mae eu niferoedd yn gostwng - yn gyflym.
Mae niferoedd y Gwenoliaid Duon wedi gostwng yn ddramatig yn ystod y 30 mlynedd diwethaf - gostyngiad o 76% yn eu poblogaeth ers 1995, gyda'r gostyngiad mwyaf yn ystod y degawd diwethaf. Ymhlith ffactorau eraill sy'n cyfrannu at y dirywiad dinistriol hwn mae colli safleoedd nythu - ac mae brics ‘Swift’yn ffordd rad, hawdd ac anymwthiol o wrthdroi hyn.
Dywedodd Ben Stammers, Swyddog Pobl a Bywyd Gwyllt, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru: “Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru wedi bod yn gweithio dros adferiad y Wennol Ddu ers y 10 mlynedd diwethaf. Credwn fod gwneud briciau Gwenoliaid Duon yn angenrheidiol mewn adeiladau newydd yn fesur hanfodol wrth fynd i’r afael â dirywiad Gwenoliaid Duon ac atal eu diflaniad o’n cymunedau. Gan weithio gyda chymunedau lleol, mewn pentrefi a threfi ledled Gogledd Cymru, rydym wedi gweld y llawenydd y mae pobl yn ei gael gan Wenoliaid Duon. Byddai’r cynnig hwn yn gyfle i genedlaethau’r dyfodol brofi’r llawenydd hwnnw.”
Gall brics Gwenoliaid Duon fod yr un lled â brics tŷ, wedi'u gweithgynhyrchu i safon BSI gyda cheudod nythu y tu ôl iddynt, a gallant gostio cyn lleied â £25. Gellir eu cynnwys yn hawdd mewn cynlluniau adeiladu, fel y dangoswyd gan nifer o gwmnïau adeiladu tai sydd eisoes wedi bod yn adeiladu eiddo ar gyfer cymdeithasau tai yng Nghymru. Mae gan y brics un pwynt mynediad ac felly nid ydynt yn caniatáu i adar gael mynediad i'r adeiladau y maent yn rhan ohonynt.
Mae Fforwm Ieuenctid Ymddiriedolaethau Natur Cymru wedi ymuno â’r ymgyrch ac maen nhw’n benderfynol o sicrhau bod lleisiau ifanc yn cael eu clywed yn yr ymgais hon i wrthdroi ffyniant y Wennol Ddu yng Nghymru. Mae cymunedau hefyd wedi dod at ei gilydd mewn dinasoedd, trefi a phentrefi i weithredu, i adeiladu a gosod blychau nythu, i fonitro niferoedd, ac i godi ymwybyddiaeth. Mae hyn yn cynnwys un deg pedwar o fudiadau cymunedol yng Nghymru sy'n rhan o Rwydwaith Lleol Gwenoliaid Duon y DU.