Mae pôl newydd a gynhaliwyd ar gyfer yr Ymddiriedolaethau Natur wedi datgelu bod mwy na hanner y rhai a ymatebodd wedi dweud bod cysylltu â byd natur drwy wrando ar gân adar, clywed gwenyn yn suo, a gweld ac arogli blodau gwyllt yn fuddiol i'w hiechyd a'u lles.
Cynhaliwyd pôl Savanta1 cyn her 30 Diwrnod Gwyllt yr Ymddiriedolaethau Natur, sy'n digwydd ledled Gogledd Cymru yn ystod mis Mehefin ac yn galw ar bobl i fwynhau llawenydd y byd naturiol drwy gydol y mis, a thrwy gyfres wythnosol o weithgareddau thema hwyliog eleni.
Yn ystod y deng mlynedd diwethaf, mae 30 Diwrnod Gwyllt wedi denu mwy na thair miliwn o gyfranogwyr ledled y DU ac wedi helpu pobl i fynd allan, mwynhau a chysylltu â byd natur fel rhan o’u bywydau bob dydd.
Eleni, bydd Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn annog cymaint o unigolion, teuluoedd ac ysgolion â phosibl i gymryd rhan, ac rydym wedi trefnu digwyddiadau drwy gydol mis Mehefin ac ar draws y rhanbarth, gan gynnwys ‘Bioblitz’ yng Ngwarchodfa Natur Graig Wyllt, taith gerdded blodau’r gwanwyn yn Chwarel y Mwynglawdd ger Wrecsam a’r Cyfrif Tegeirianau Llydanwyrdd Mawr yng Ngwarchodfa Natur Caeau Tan-y-Bwlch.