Helpwch i siapio eich prosiect natur

Cotoneaster © Lin Cummins
Ymunwch â’r prosiect Gwreiddiau Cymunedol Glaswelltir Calchfaen a byddwch yn rhan o warchod rhai o lefydd gwyllt mwyaf arbennig Gogledd Cymru ger Llanddulas — gan gynnwys Craig y Forwyn, Pen y Corddyn Mawr, Pen y Corddyn Bach, a Mynydd Marian.
Mae'r glaswelltiroedd calchfaen yma’n gartref i flodau gwyllt prin, glöynnod byw ac adar, ond maen nhw dan fygythiad oherwydd rhywogaethau ymledol fel cotoneaster a cholli rheolaeth draddodiadol ar y tir. Heb weithredu, rydyn ni mewn perygl o golli bioamrywiaeth a harddwch anhygoel y tirweddau yma.
Rydyn ni’n gweithio gyda phobl leol i adfer cynefinoedd, cael gwared ar rywogaethau ymledol, a chreu cyfleoedd ar gyfer dysgu, gwirfoddoli, a chysylltiad cymunedol. Os ydych chi'n byw yn yr ardal, yn mynd â’ch ci am dro yma, neu ddim ond yn poeni am fyd natur, fe allwch chi helpu i siapio a chefnogi'r prosiect newydd cyffrous yma, drwy gymryd rhan yn ein harolwg ni.

Limestone grassland ©Philip Precey
Pam ydyn ni eisiau gwarchod glaswelltiroedd calchfaen?
Wrth i'r dyddiau fynd yn hirach, dylai glaswelltiroedd calchfaen fod yn gyforiog o liw. Casgliadau helaeth o flodau yn cynnwys y clafrllys bach, plucen felen, ysgallen Siarl, y cor-rosyn a’r bwrned. Bydd tegeirianau cain y wenynen a bera yn cael eu harddangos ochr yn ochr â theim, ysgall di-goes a’r bengaled. Bydd digonedd o löynnod byw, gan gynnwys y gweirlöyn cleisiog, yr argws brown a’r glesyn serennog, yn ymweld am eu ffynhonnell gyfoethog o neithdar.
Yn anffodus, nid yw hyn yn wir am lawer o’n glaswelltiroedd calchfaen. Mae blodau a fyddai, ar un adeg, wedi bod yn eu blodau’n llawn wedi cael eu mygu a'u trechu gan gotoneaster, gan reoli’r ardaloedd eang o laswelltir a oedd unwaith yn ffafriol. Yn anffodus, mae 90% o’n glaswelltiroedd lled-naturiol wedi prinhau ers yr 20fed ganrif, ac mae’r ardaloedd sydd ar ôl bellach yn aml yn fach o ran maint ac yn dameidiog iawn, gan gael effeithiau dinistriol ar ein bywyd gwyllt lleol. Er mwyn helpu i warchod ein cynefinoedd hoff, rhaid i ni weithredu dros fyd natur.
Rydyn ni’n credu y byddai glaswelltiroedd calchfaen yn diflannu o’n tirweddau yn golled enfawr, a gall cael pobl i ymwneud â’u gwarchod yn lleol fod o fudd gwirioneddol – i unigolion, cymunedau yn ogystal â’n bywyd gwyllt!
Beth ydyn ni'n ei wneud?
Mae'r prosiect yma wedi cael ei ariannu gan Gynllun Cymunedau Treth Gwarediadau Tirlenwi Llywodraeth Cymru, sy’n cael ei weinyddu gan y WCVA. Rydyn ni’n gyffrous am barhau â gwaddol y gwaith gwych a gyflawnwyd gan wirfoddolwyr a phartneriaid sy'n ymwneud â'r prosiect Adfer Glaswelltir Calchfaen.
Bydd cam cychwynnol y prosiect yn canolbwyntio ar y canlynol:
• Dysgu gan y gymuned i helpu i siapio’r prosiect a'i ddigwyddiadau
• Ymgynghori â thrigolion lleol, ysgolion a grwpiau cymunedol i adlewyrchu eu gwerthoedd a'u dyheadau
• Teilwra gweithgareddau i sicrhau bod y prosiect yn cael ei yrru gan y gymuned ac yn cyd-fynd ag anghenion lleol
Bydd cam nesaf y prosiect yn canolbwyntio ar y canlynol:
• Cyflwyno gweithgareddau a digwyddiadau wedi'u siapio gan y gymuned
• Adfer glaswelltiroedd calchfaen drwy gael gwared ar rywogaethau ymledol fel cotoneaster
• Cefnogi adfywiad bywyd gwyllt brodorol drwy greu lle i fanciau hadau naturiol dyfu
• Codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd glaswelltiroedd calchfaen drwy deithiau cerdded tywys ac allgymorth addysgol
• Darparu cyfleoedd gwyddoniaeth y dinesydd i'r gymuned gymryd rhan weithredol mewn ymdrechion monitro a chadwraeth
North Wales Cotoneaster Control (https://www.youtube.com/watch?v=fslA8HDtMa0)
North Wales Cotoneaster Control
Ymunwch â Hannah, ein Swyddog Prosiect Adfer Glaswelltiroedd Calchfaen, i archwilio sut mae prosiect Rheoli Cotoneaster Gogledd Cymru wedi gadael gwaddol ar gyfer ein cenhadaeth barhaus.
Cwestiynau neu eisiau cymryd rhan?
Cysylltwch â Hannah Everett, Rheolwr Prosiect Cotoneaster

Identify the most dominant and invasive species of cotoneaster
Adnabod y rhywogaethau amlycaf a mwyaf ymledol o gotoneaster
Mae rhywogaethau o gotoneaster wedi'u rhestru yn Atodlen 9 Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 Cymru a Lloegr. Er ei fod ar gael i'w brynu o hyd, gellir ei blannu a'i reoli mewn gerddi preifat. Fodd bynnag, mae'n drosedd plannu neu achosi i'r rhywogaethau yma dyfu yn y gwyllt fel arall. GBNNSS
Cotoneaster cyfanddail (C. integrifolius)

©Illustrations by Lizzie Harper at www.lizzieharper.co.uk copyright 2023 Entire leaved Cotoneaster (C. integrifolius)
• Llwyn bytholwyrdd sy'n tyfu'n isel
• Dail: bach eliptig, gwyrdd tywyll a blew ar yr ochr isaf
• Blodau: gwyn, antherau porffor
• Aeron: lliw rhuddgoch ar ddiwedd yr haf, yn para drwy gydol y gaeaf
Cotoneaster Simons (C. simonsii)

©Illustrations by Lizzie Harper at www.lizzieharper.co.uk copyright 2023 Himalayan cotoneaster (C. simonsii)
• Llwyn bytholwyrdd mawr, unionsyth, caled
• Dail: bach heb fod yn ddanheddog, bob yn ail ar hyd y coesyn, rhan uchaf sgleiniog heb flew a blew bach ar yr arwyneb isaf
• Blodau: pinc golau, darn coch yng nghanol y petal
• Aeron: ychydig yn fwy, oren-goch mewn clystyrau
Cotoneaster deilgrych (C. bullatus)

©Illustrations by Lizzie Harper at www.lizzieharper.co.uk copyright 2023 Hollyberry cotoneaster (C. bullatus)
• Llwyn collddail llawer mwy hyd at 4 metr
• Dail: gwyrdd pŵl, hirgrwn a phigfain, gwythiennau wedi’u mewnosod, yn tyfu am yn ail ar hyd y coesyn
• Blodau: pinc, 5 petal, antherau gwyn
• Aeron: coch llachar, mawr ac ychydig yn sgwâr eu siâp
Cotoneaster manddail (C. microphyllus)

©Illustrations by Lizzie Harper at www.lizzieharper.co.uk copyright 2023 Small leaved cotoneaster (C. microphyllus)
• Llwyn bytholwyrdd sy'n tyfu'n isel
• Dail: gwyrdd sgleiniog ar y top, llwyd / gwyn oddi tanodd, bach (1cm o hyd), eliptig
• Blodau: gwyn unigol, 5 petal, antherau fioled tywyll
• Aeron: coch cwrel a chrwn
Cotoneaster asgwrn pysgodyn (C. horizontalis)

©Illustrations by Lizzie Harper at www.lizzieharper.co.uk copyright 2023 Wall cotoneaster (C. horizontalis)
• Llwyn collddail sy'n tyfu'n isel: canghennau siâp asgwrn pysgodyn, coesynnau brown tywyll prennaidd, caled a chnotiog
• Dail: bach, gwyrdd tywyll ar y top, pigfain a sgleiniog ar y ddwy ochr, coch yn yr hydref
• Blodau: pinc, 5 petal gydag antherau gwyn
• Aeron: oren-goch

®Lottery Heritage Fund in partnership with Welsh Government
Mae'r prosiect yma’n cael ei ariannu gan Gynllun Cymunedau Treth Gwarediadau Tirlenwi Llywodraeth Cymru, sy’n cael ei weinyddu gan y WCVA