Cors y Wlad

Cors Y Wlad viewed from Yr Allt

Cors y Wlad

Mawndir gwerthfawr

O dan gopa Bwlch Mawr, mae mynydd eiconig 509m o uchder, ym mhen dwyreiniol Penrhyn Llŷn, yn glytwaith o dir amaethyddol a garwach ei olwg sy'n ffurfio ein tirddaliadaeth ni, Bryn Ifan – sy'n cynnwys gwlybdir arbennig a diddorol iawn: Cors y Wlad.

Mae Cors y Wlad yn un o fawndiroedd mwyaf gwerthfawr Cymru: safle gwarchodedig gyda dynodiad Ewropeaidd sy'n gartref, ymhlith planhigion ac anifeiliaid prin eraill, i'r glöyn byw britheg y gors. Ar un adeg roedd y rhywogaeth arbennig yma’n gyffredin ym Mhrydain ac Iwerddon, ond wynebodd ddirywiad difrifol yn ystod yr ugeinfed ganrif (oherwydd colli cynefin addas yn bennaf) ac mae bellach wedi'i chyfyngu i ochr orllewinol Prydain. Rydyn ni’n ffodus iawn i fod â phoblogaeth fechan ond gyson.

Marsh fritillary

Marsh fritillary © Ross Hoddinott/2020VISION

Mae'r un rhywogaeth eiconig yma mor bwysig fel ei bod wedi bod yn ffocws llawer o'n gweithgarwch ni ers i ni gaffael Cors y Wlad. Gan weithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru a Butterfly Conservation, rydyn ni wedi dechrau gwneud y gwlybdir mor addas â phosibl – gwaith sydd wedi cynnwys nid yn unig buches o wartheg, sy'n brysur yn pori yn ystod misoedd yr haf, ond rhai peiriannau eithaf mawr!

O edrych yn fanylach ar Gors y Wlad, fe welwch chi fwy nag un math o gynefin gwlybdir – ac mae un, yn benodol, yn hynod ddiddorol. Mae syrfewyr wedi nodi presenoldeb 'pyllau ysbryd' nodedig sy'n llawn sffagnwm, a allai, mewn gwirionedd, fod yn 'pingos' – nodweddion sy'n adnabyddus ym Mwlch Derwin gerllaw. Ffurfiwyd pingos ar ddiwedd yr Oes Iâ ddiwethaf pan greodd lympiau o rew a adawyd ar ôl gan rewlifoedd yn cilio fryniau bach i ddechrau, a gwympodd wedyn i ffurfio pyllau wrth i'r rhew doddi! Mae'n hyfryd meddwl am dreigl araf amser a'r stori y tu ôl i'r carpedi mwsog gwyrdd a choch llachar sy'n britho'r gwlybdir.

Close-up of Sphagnum moss, Flow Country, Scotland, June

Mark Hamblin/2020VISION

CYNLLUNIO EICH YMWELIAD: Gwybod cyn mynd

Lleoliad: ger Clynnog Fawr, Gwynedd

Sut i gyrraedd yno: Mae Cors y Wlad ar lethrau gogledd-ddwyreiniol Bwlch Mawr, uwchben pentref Clynnog Fawr (i'r de orllewin o Gaernarfon) ac nid nepell o'n Gwarchodfa Natur ni yng Nghaeau Tan-y-bwlch. Er mwyn cyrraedd y warchodfa, mae gofyn gyrru ar hyd lonydd gwledig cul, gyda lle parcio cyfyngedig mewn cilfan gerllaw ar gael yn what3words.com/segregate.exhaled.bonnet / SH 43722 47793.

Oriau agor: Drwy'r dydd, bob dydd

Mynediad: Mae Cors y Wlad yn safle anghysbell heb barcio 'swyddogol'. O'r gilfan, dilynwch y lôn i'r de ar droed am tua 500m: fe welwch chi gopa Bwlch Mawr i'r dde i chi a bydd Cors y Wlad ei hun yn ymddangos ar y chwith. Mae'r safle ei hun yn gorsiog ac mae cerdded ar hyd yr hawliau tramwy cyhoeddus hyd yn oed yn heriol - gwnewch yn siŵr eich bod chi’n dod ag esgidiau addas gyda chi ac yn cymryd gofal arbennig ar ôl glaw trwm.

Cyfleusterau: Does dim cyfleusterau ar y safle.