Ewch yn Wyllt yng Ngogledd Cymru

Otter with seashore background and kelp graphic surrounds

Ewch yn Wyllt yng Ngogledd Cymru

Lleoedd gwyllt i’w harchwilio, pethau gwyllt i’w gwneud, hwyl gwyllt i bawb!

O goetiroedd rhyfeddol i safleoedd arfordirol godidog a hafanau cudd i löynnod byw, gwenyn a blodau gwyllt, mae ein gwarchodfeydd natur ni ymhlith y llecynnau mwyaf arbennig i fywyd gwyllt yng Ngogledd Cymru! Maen nhw AM DDIM i ymweld â nhw ac ar agor drwy gydol y flwyddyn.

Dewch draw i un o'n digwyddiadau ni i ddysgu mwy fyth am y bywyd gwyllt fyddwch chi'n ei weld. Os ydych chi'n 6 neu'n 65 oed, fe fyddwch chi wrth eich bodd yn archwilio pyllau, chwilota am ffyngau a mynd ar saffari glan môr gyda ni. Treuliwch brynhawn yn ymweld â'n teulu ni o weilch y pysgod neu'n hela am fân-drychfilod - mae llawer i'w archwilio!

Mae gennym ni hefyd lawer o ffyrdd eraill i chi ddysgu, archwilio a darganfod mwy ar-lein, neu beth am ystyried dod yn aelod teulu i gefnogi ein gwaith ni a meithrin eich arwyr bywyd gwyllt ar gyfer y dyfodol.

Family in Bluebell Wood

Family in Bluebell Wood © Jon Hawkins, Surrey Hills Photography

Lleoedd gwyllt i’w harchwilio

Darganfod warchodfa natur yn agos atoch chi
Person in beaver suit sitting on a bench with children

NWWT Lin Cummins

Girl in butterfly dress looking through binoculars

Jon Hawkins Surrey Hills Photography

#more

Mwy o ffyrd i chi i archwilio

Montage of ladybird on green flower and activity sheets and owl graphic

Ymwelwch at ein gwefan Wildlife Watch

Am ffeithiau anhygoel am anifeiliaid, gweithgareddau bywyd gwyllt hwyliog, gemau ar-lein a llond gwlad o syniadau i helpu i ysbrydoli eich plant.

Byddwch yn wyllt ar-lein!
Montage of family membership pack and Gwyllt magazine cover showing a duck

Dod yn aelod teulu

Mae aelodau’r teulu’n derbyn pecyn croeso gwych i blant a phedwar rhifyn o gylchgrawn Gwyllt!  - yn llawn gwybodaeth, cystadlaethau, posau a phrosiectau!
Mae aelodaeth yn ffordd wych i blant neu wyrion gysylltu mwy â bywyd gwyllt.

Byddwch hefyd yn cael 10% oddi ar fynediad i Sŵ Môr Môn sy’n lleoliad anhygoel!

Ymuno fel teulu heddiw!
Grey seal

Mark Thomas

Troi eich bocs negeseuon yn un gwyllt!

Tanysgrifiwch i Wythnos Wyllt, ein cylchlythyr digidol, i gadw i fyny a’r newyddion bywyd gwyllt a digwyddiadau lleol diweddaraf, a nifer o ffyrdd i gefnogi ymgyrchoedd amddiffyn bywyd gwyllt ar draws Cymru a’r DU.

 

Tanysgrifiwch yma